BBC Cymru yn llenwi’r tonfeddi â cherddoriaeth yr haf hwn – gan gynnwys y Stereophonics yn fyw o Stadiwm Principality

Wrth i wyliau a digwyddiadau ddychwelyd, mae BBC Cymru yn cyhoeddi haf o gerddoriaeth ar deledu, radio a digidol.

Cyhoeddedig: 02:00 yh, 10 Mehefin 2022
Diweddarwyd: 02:00 yh, 10 Mehefin 2022
The members of Stereophonics stand in front of a metal door
Stereophonics
Wrth i bobl ar draws Cymru ddod at ei gilydd o’r diwedd i fwynhau cerddoriaeth fyw a gwyliau, bydd BBC Cymru yn cefnogi ac yn darlledu o ddigwyddiadau ar draws y genedl. Mae’n mynd i fod yn haf llawn dop – gyda cherddoriaeth fyw yn ganolog i ddigwyddiadau cymunedol lleol a digwyddiadau mwy – a bydd BBC Cymru yno i ddilyn holl berfformiadau’r artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol.
— Rhuanedd Richards

Mae BBC Cymru yn mynd amdani gyda haf o gerddoriaeth fyw mewn digwyddiadau ledled Cymru – o sioeau cymunedol i gyngherddau a gwyliau mawr.

Ar deledu, bydd gig ecsgliwsif Stereophonics yn cael ei ddarlledu’n fyw o stadiwm y Principality Caerdydd pan fydd y band yn chwarae o flaen 60,000 o bobl ar ail noson eu penwythnos o gyngherddau yn y lleoliad. Bydd Stereophonics Live in Cardiff: We’ll Keep a Welcome ar BBC One Wales - a BBC Two ar draws y DU - ar 18 Mehefin am 8.40pm wrth i’r band gyrraedd y llwyfan.

Dywedodd Cyfarwyddwr BBC Cymru, Rhuanedd Richards: “Wrth i bobl ar draws Cymru ddod at ei gilydd o’r diwedd i fwynhau cerddoriaeth fyw a gwyliau, bydd BBC Cymru yn cefnogi ac yn darlledu o ddigwyddiadau ar draws y genedl. Mae’n mynd i fod yn haf llawn dop – gyda cherddoriaeth fyw yn ganolog i ddigwyddiadau cymunedol lleol a digwyddiadau mwy – a bydd BBC Cymru yno i ddilyn holl berfformiadau’r artistiaid o Gymru ac artistiaid rhyngwladol.

Ar ôl y pandemig, mae’n bryd mynd amdani unwaith eto, a dathlu cerddoriaeth fel cyfrwng i ddod â phobl at ei gilydd ac i ddangos y gorau sydd gan Gymru i’w gynnig. Rydw i hefyd wrth fy modd y bydd ein ‘Haf o Gerddoriaeth’ yn dod i benllanw gyda chyfres fawr gyda Huw Stephens yn archwilio The Story of Welsh Music.”

Yn Wynne Evans’ Townhall Showdown, bydd y cyflwynydd a’r canwr opera yn ymweld â threfi a phentrefi ar draws Cymru, gan ddechrau yn y Memo yn Nhrecelyn, a bydd yn cynnwys rhai o eitemau rheolaidd ei raglen ddyddiol. Bydd Wynne hefyd yn perfformio ym mhob digwyddiad, yn ogystal â band neu artist Cymreig lleol. A bydd John Quirk a’i fand yn gyfeiliant cerddorol i’r noson. Bydd uchafbwyntiau’r noson i’w clywed ar sioe Wynne Evans bob dydd Gwener ar ôl pob digwyddiad.

Oddi ar gefn darlledu o Ŵyl Triban yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Ninbych, bydd Radio Cymru hefyd yn fyw yng ngŵyl Tafwyl yng Nghaerdydd, y Sesiwn Fawr yn Nolgellau a’r Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron, a bydd yn gyfle i wrandawyr Radio Cymru a defnyddwyr BBC Sounds glywed cerddoriaeth ecsgliwsif. I gyd-fynd â phob un o’r digwyddiadau mawr hyn, bydd yr orsaf yn dechrau ar daith ysgolion, gan ddod â’r gorau o gerddoriaeth fyw Gymraeg i ysgol ym mhob un o’r ardaloedd lleol.

Bydd Cerddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau ar draws Cymru yn ystod yr haf. O berfformio cyngherddau olaf y tymor yng Nghaerdydd ac Abertawe ym mis Mehefin ar y thema Rhamant a Chwyldro i ddiddanu’r torfeydd yn Proms Cymru ym mis Gorffennaf a pherfformio gyda Carwyn Elis yng Ngwyl y Dyn Gwyrdd yng Nghrucywel ym mis Awst. Bydd BBC NOW yn dychwelyd i Ŵyl Llanelwy ym mis Medi. Mae’r gerddorfa hefyd yn perfformio mewn pedwar o’r BBC Proms yn Llundain yn ystod yr haf, gan gynnwys cyngerdd gyda Band Tredegar.

Ym mis Medi, bydd BBC Two Wales yn darlledu The Story of Welsh Music, lle bydd y cyflwynydd Huw Stephens yn bwrw golwg ar gyfnodau allweddol yn hanes Cymru fel cenedl gerddorol. Bydd y gyfres ddwy ran yn adrodd straeon amrywiol – o hanes y delyn deires a sut cafodd ei hystyried yn delyn genedlaethol Cymru – i’r stori y tu ôl i Hen Wlad Fy Nhadau, ffenomenon ‘Cŵl Cymru’ a llwyddiant rhyngwladol bandiau fel y Manic Street Preachers a’r Stereophonics.

Ar ddigidol, bydd prosiect BBC Cymru, Horizons/Gorwelion, yn rhoi sylw i’r ŵyl In It Together ym Mhort Talbot ar 3 Mehefin. Byddant hefyd wedi ffilmio a recordio perfformiadau o leoliadau ar draws Cymru – gan gynnwys y Queen’s Hall yn Arberth, Sin City yn Abertawe, Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth a Pontio ym Mangor.

Bydd BBC Sounds yn cynnwys rhestrau chwarae ac uchafbwyntiau o ddigwyddiadau a rhaglenni’r haf.

SG

Across the UK

More Across the UK

Search by Tag:

Newid iaith:

Rebuild Page

The page will automatically reload. You may need to reload again if the build takes longer than expected.

Useful links

Theme toggler

Select a theme and theme mode and click "Load theme" to load in your theme combination.

Theme:
Theme Mode: