BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - Gogledd Orllewin Cymru

BBC Homepage
 Legacies
 UK Index
 Gogledd Orllewin Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 BBC Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Myths and Legends
Coch Bach y Bala – ‘Yr Houdini Cymreig’

Ceisiodd Coch Bach Y Bala ddianc o garchar am yr ail waith ym 1900 tra'n disgwyl cael ei drosglwyddo i garchar Dartmoor o Garchar Caernarfon. Roedd Jones wedi ei gyhuddo o ddwyn £10 o'r Waterman's Arms, Amlwch, ym Mrawdlys Biwmares, ac roedd wedi mynnu iddo gael ei 'fframio' gan yr heddlu. Yn wynebu dedfryd hir arall, cododd Jones faricêd tu ôl i ddrws ei gell gyda rhannau o'r wŷdd gwehyddu oedd yn ei gell, a dechreuodd dwnelu drwy'r llawr. Methodd ei ymgais, felly dechreuodd ar ddedfryd hir arall yn y carchar.

Carchar Sirol Rhuthun - Rheolau ar gyfer y Carcharorion
"Bydd pob carcharor fydd yn euog o unrhyw un o’r troseddau canlynol yn wynebu cosb: Ceisio dianc, neu helpu eraill i wneud hynny, neu wybod am unrhyw ymdrech arfaethedig i ddianc ac heb gyflwyno adroddiad am hynny’n syth"Rheolau ar gyfer Carcharorion yng Ngharchar Rhuthun, circa 1850
Treuliodd John Jones dros hanner ei fywyd yn y carchar, gyda 10 gwahanol gyhuddiad am ddwyn, torri i mewn i adeiladau, ac, ar un achlysur, am godi terfysg yn erbyn yr Heddlu yn y Bala. Roedd yn hynod o 'wrth-heddlu', ond roedd ei ymddygiad yn y carchar yn gyffredinol dda (ag eithrio'r diangfeydd) yn aml yn cael ei ryddhau'n gynnar ar drwydded.

O ddeallusrwydd uwch na'r cyffredin, cyflwynodd Jones ei amddiffyniad ei hun ar sawl achlysur. Ym 1906, cafodd ei gyhuddo o ladrad ac ymosod yn ffyrnig ar ddynes 71 mlwydd oed. Yn yr achos dedfrydu, bu'n rhaid i'r llys Ynadon eistedd tan 3 am oherwydd hyd araith y diffynnydd i'r llys. Yn anffodus i Jones, ni lwyddodd yr araith hir ei achub rhag cael ei garcharu am 7 mlynedd yng ngharchar Dartmoor, o’r lle y cafodd ei ryddhau ym Mis Ionawr 1913.


Tudalennau: Blaenorol [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Ruthin Gaol
Casglu'r Tlysau
Prifysgol Cymru Bangor
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Paddywhackerry
St Patrick chasing the snakes
Related Stories
The gibbetting of Spence Broughton
A gentleman bare-knuckle fighter
The Gruesome Tale of Sawney Bean




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy