|  |
 |  |  |  |  |  © BBC |
|  |  | Capeli, tai te a gauchos: Y Cymry ym Mhatagonia |  | Wrth hedfan dros anialwch Patagonia, cannoedd o filltiroedd o dirwedd ddinodwedd a sych, mae’n anodd deall yr hyn ysgogodd pobl i ymfudo i Batagonia yn yr Ariannin, a gadael mynyddoedd a chymoedd gleision Cymru ar eu hôl.
Weithiau gall breuddwydion fod yn drech na realiti. Er gwaethaf pob disgwyl, llwyddodd y Gwladfawyr i wneud eu ffordd yn y lle digroeso yma, ac yn fwy na 150 o flynyddoedd yn ddiweddarach mae eu disgynyddion yno o hyd, 20,000 ohonynt, yn arddel eu tras Gymreig, ac mae cannoedd – miloedd medd rhai – yn medru’r Gymraeg.
Er mwyn deall pam gallai anialwch yn Ne America ymddangos yn well ddewis na byw yng Nghymru, mae’n rhaid gwybod beth yn union ysgogodd yr ymfudwyr cyntaf, a hwyliodd o Lerpwl yn 1865 ar long y Mimosa. Yn syml iawn, rhyddid oedd eu delfryd.
Cymraeg eu hiaith ac anghydffurfwyr yn eu crefydd, erbyn canol y 19eg ganrif, roedd hynny’n eu gwneud yn rhan o’r mwyafrif yng Nghymru. Ond nid y mwyafrif oedd yn rheoli. Os oeddech chi eisiau dod ymlaen roedd rhaid siarad y Saesneg, ac er nad oedd angen bod yn Anglicanaidd, roedd hynny’n gymorth mawr mewn gwirionedd hefyd.
Gan Grahame Davies More...
 
Eich sylwadau
| |
Argraffu tudalen |
 |  |  |  | Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.
Read more > |
|  |  | 
|  |  | |  |  | 
|  |
|