 |  |  |  |  |  |  | Neuadd Brangwyn, Abertawe - Cartref Paneli'r Ymerodraeth Brydeinig |  |
Y Paneli
Bu farw'r Arglwydd Ivaegh ym 1927 pan oedd dim ond 5 o'r 16 panel wedi eu gorffen. Cafodd y rhain eu cyflwyno i Bwyllgor Dethol Ty'r Arglwyddi, a benderfynodd, yn ôl cyngor Y Comisiwn Brenhinol ar Gelfyddyd Gain, bod y gwaith yn anaddas ar gyfer Ty'r Arglwyddi. Ond anogodd yr ymddiriedolwyr Brangwyn i orffen y gwaith, ac fe'i cwblhaodd ym Mis Hydref 1932. Yn y flwyddyn ganlynol, penderfynodd yr ymddiriedolwyr i gynnig y paneli i gorff arall.
Ar ôl gweld y gyfres gyfan o baneli yn Arddangosfa'r 'Ideal Home' yn Olympia ym 1933, mynnodd y Cynghorydd o Abertawe, Leslie W. Hefferman, bod Abertawe i roi cartref i'r paneli. Dechreuodd y Cyngor drafodaethau gyda'r ymddiriedolwyr a chytuno i newid y cynlluniau ar gyfer y Neuadd Ymgynnull i gartrefu'r paneli. Roedd hyn yn cynnwys codi'r nenfwd o 12 modfedd, a gwneud cilfachau yn y waliau i gymryd fframiau'r paneli fel bod y paneli'n ymddangos fel petaen nhw wedi cael eu paentio'n uniongyrchol ar y waliau.
| Blwch Ffeithiau: Syr Frank Brangywn R.A. 1867-1956 | | Ar anterth ei yrfa Frank Brangwyn oedd yr artist Prydeinig enwocaf o'i gyfnod, yn adnabyddus am ei ddefnydd o liwiau llachar ac am weithio ar raddfa fawr.
| | 1867 | Ganwyd yn Bruges, Gwlad Belg, i deulu Eingl-Gymreig
| | 1875 | Dychwelodd y teulu Brangwyn i Loegr
| | 1880 | Symudodd i Gaerdydd
| | 1882 | Yn 15 oed, aeth yn brentis i William Morris am 2 flynedd fel ddyluniwr cynorthwyol
| | 1885 | Cael ei arddangos am y tro cyntaf yn yr Academi Frenhinol
| | 1904 | Etholwyd yn Gymrawd yr Academi Frenhinol
| | 1925 | Arddangosfa fawr o'i waith yn Boston, UDA
|
|
|
Print this page |
 |  |  |  | 
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  | 
|  |  | |  |  | 
|  |
|