 |  |  |  |  |  © Ymddiriedolaeth Portmeirion |
|  |  | Cyflwyniad i bentref Portmeirion, a'r pensaer Syr Clough Williams-Ellis |  |
Breuddwyd un dyn  © Ymddiriedolaeth Portmeirion | Dechreuodd Clough William-Ellis gynllunio Portmeirion pan oedd ond yn 5 neu 6 oed pan oedd wedi penderfynu'n barod ei fod am fod yn bensaer neu'n gynllunydd tref. Yn ei lyfr am y pentref, 'Portmeirion - The Place and its Meaning,' ysgrifennodd, "Rhyw ddiwrnod, yn rhywle, doedd dim amheuaeth y byddwn yn codi grwp o adeiladau ar safle o'm dewis i er mwyn fy modloni fy hun; casgliad a fyddai'n cyflwyno fy syniadau tanllyd o ffitrwydd a llonder ac yn wir bod yn fi fy hun".
Ym 1925, ar ôl archwilio nifer o ynysoedd bychain oddi ar arfordir Prydain, daeth Williams-Ellis o hyd i'r lleoliad perffaith yn agos i'w gartref ym Mhlas Brondanw yng Ngogledd Cymru. Yn wreiddiol galwyd y penrhyn preifat yn Aber Iâ, ond newidiodd ef yr enw i Portmeirion: Port i adlewyrchu ei leoliad arfordirol a Meirion i'w leoli yn Sir Feirionnydd. Ym 1926 agorodd y prif dy ar lan y dor fel Gwesty Portmeirion er mwyn ariannu ei fenter. Dros y blynyddoedd cynlluniodd ac ychwanegodd Williams-Ellis nifer o adeiladau i'r pentref, gan orffen ei waith ym 1976, pan oedd dros 90 mlwydd oed.
Ym 1969, gwnaeth BBC Cymru ffilm am Williams-Ellis a Portmeirion - cliciwch yma i weld darn byr ohono.
| Syr Clough Williams-Ellis, 1883 - 1978 | | 1883 | 23in Mai, Ganwyd yn Gayton, Swydd Northampton. Addysgwyd yn Ysgol Oundle, Coleg y Drindod, Caergrawnt ac Ysgol Sefydliad Pensaernïol yn Llundain.
| | 1906-14 a 1919-78 | Torrwyd ar draws ei bractis preifat gan y rhyfel, pan fu'n gwasanaethu yn y Corfflu Tanciau Brenhinol ac enillodd y Groes Filitaraidd.
| | 1915 | 31in Gorffennaf, Priododd Amabel Strachley (1894-1984)
| | 1925 | Dechreuodd weithio ar Portmeirion.
| | 1926 | Un o sylfaenwyr y Cyngor Diogelu Lloegr Wledig
| | 1928 | Aelod o'r Ymgyrch i Ddiogelu Cymru Wledig, ymgyrch y bu'n Lywydd ohono am dros 20 mlynedd.
| | 1951 | Cyflwynodd ddarnodiad o ffin parc Cenedlaethol Eryri i'r Brenin Siôr a'r Frenhines Elizabeth.
| | 1971 | Fe'i urddwyd yn farchog am ei gyfraniad i Bensaernïaeth a'r Amgylchedd.
|
|
|
Print this page |
 |  |  |  | 
Mae Rhyngweithio yn adran ar eich cyfer chi. Ymunwch â'r gymuned - anfonwch eich erthyglau, sgwrsiwch, a dywedwch wrthyn ni beth mae 'treftadaeth' yn ei olygu lle 'rydych chi'n byw.
Ewch i Ryngweithio > |
|  |  | 
|  |  | |  |  | 
|  |
|