Siom wrth i Gymru golli yn Rwmania

Llun o dri chwaraewr Cymru gyda'u penau i lawr ar ol colli o 2-1 yn erbyn RwmaniaFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

Dyma'r tro cyntaf i Gymru wynebu Rwmania ers 1993

  • Cyhoeddwyd

Colli o 2-1 wnaeth tîm dynion Cymru yn eu gêm gyfeillgar yn erbyn Rwmania yn Bucharest nos sadwrn.

Er i dîm Craig Bellamy ddechrau'r gêm yn ddigon addawol, Rwmania, oedd wedi gorffwys nifer o'u prif chwaraewyr, oedd yn edrych yn fwyaf bygythiol.

Cychwynnodd Cymru'r gêm yn bositif gyda Ethan Ampadu yn penio dros y trawst ac ergyd Brennan Johnson yn cael ei arbed gan y golwr Otto Hindrch.

Doedd Cymru ddim yn gallu manteisio ar hyn a daeth Rwmania yn ôl i fewn i'r gêm, gyda lliman y dyfarnwr cynorthwyol yn arbed Cymru wedi i Louis Munteanu rwydo i'r tîm cartref ar ôl 28 munud.

Rwmania sgoriodd gyntaf wedi 52 munud, wrth i'r eilydd Florinel Coman gael amser yn y cwrt i osod y bêl heibio golwr Cymru, Danny Ward.

Wnaeth Cymru unioni'r sgôr 10 munud yn ddiweddarach, wrth i foli David Brooks ganfod cefn y rhwyd yn dilyn gwaith da gan Dan James i lawr yr asgell chwith.

Er i Rwmania gael cyfleoedd ar ddiwedd yr hanner cyntaf, di-sgôr oedd hi ar yr egwyl.

Llun o David Brooks yn chwarae pel-droed ar y cae yn erbyn RwmaniaFfynhonnell y llun, FAW
Disgrifiad o’r llun,

David Brooks sgoriodd y gôl i Gymru

Wedi i Rwmania sgorio ar gychwyn yr ail hanner doedd Cymru ddim yn edrych fel dod yn ôl i fewn i'r gêm nes i David Brooks rwydo. Daeth y gôl ag egni i'r ymwelwyr a daeth Lewis Koumas a Chris Mepham yn agos at sgorio i roi Cymru ar y blaen fwy nag unwaith.

Ond Rwmania gafodd y gôl fuddugol a nifer o gyfleoedd eraill i ychwanegu mwy o goliau, gyda Danny Ward yn gwneud nifer o arbediadau.

Sgoriodd Adrian Rus efo peniad rhydd o gic gornel ar ôl 79 munud o'r gêm i roi'r fuddugoliaeth a'r sgôr terfynol yn 2-1 i Rwmania.

Mae hi'n 18 mlynedd ers i Gymru ennill gêm gyfeillgar oddi cartref.

Mae'r canlyniad yn golygu bod tîm Craig Bellamy bellach wedi mynd pedair gêm heb fuddugoliaeth, wrth iddyn nhw barhau â'u paratoadau ar gyfer Cynghrair y Cenhedloedd ym mis Medi.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.