Cwrdd â'r 'gwirfoddolwyr dewr fu'n chwilio am fy mrawd ar y môr'

Cafwyd hyd i rafft achub y Nicola Faith ddechrau Mawrth oddi ar arfordir Yr Alban
Disgrifiad o’r llun,

Cafwyd hyd i rafft achub y Nicola Faith ddechrau Mawrth oddi ar arfordir Yr Alban

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu pysgotwr a foddodd wedi i gwch beidio â dychwelyd i'r cei yng Nghonwy yn cwrdd â rhai o'r gwirfoddolwyr a fu'n chwilio amdano ddydd Llun.

Roedd Ross Ballantine yn un o dri physgotwr a foddodd wedi i gwch y Nicola Faith fynd ar goll ar 27 Ionawr 2021.

Cafwyd hyd i'w gorff ef a dau bysgotwr arall - Alan Minard a Carl McGrath - ddeufis yn ddiweddarach oddi ar yr arfordir rhwng Cilgwri a Blackpool.

Cyn iddi hi a'i theulu fynd i Orsaf Bad Achub Llandudno, dywedodd Lowri Taylor: "Fydd y Nadolig fyth yr un fath i ni fel teulu. Roedd colli Ross yn ddigwyddiad cwbl erchyll.

"Nid dim ond brawd oedd o - roedd yn fab a thad annwyl iawn.

"Mae ei ddau fachgen ifanc yn wynebu Nadolig arall heb eu tad ac ni fydd y boen honno byth yn diflannu.

"Fyddwn i fyth yn dod i delerau â'r golled, ond yr un peth y gallwn ei wneud yw dangos ein diolchgarwch i'r gwirfoddolwyr anhygoel a ddaeth â gobaith i ni yn ystod yr oriau tywyllaf."

Roedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar gwch y Nicola Faith pan aeth ar goll
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Alan Minard, Ross Ballantine a Carl McGrath ar gwch y Nicola Faith pan aeth ar goll

Treuliodd gwirfoddolwyr yr RNLI - o Landudno, Y Rhyl, Conwy, Biwmares a Hoylake - fwy na 90 awr gyda'i gilydd yn chwilio am y Nicola Faith.

"Wnaethon nhw ddim rhoi'r gorau iddi," ychwanegodd Lowri Taylor.

"Roedden ni'n gwybod eu bod eisiau canfod y tri dyn er mwyn dod â nhw nôl at eu teuluoedd.

"Ddigwyddodd hynny ddim, ond fyddwn ni byth yn anghofio yr hyn wnaethon nhw, a Nadolig eleni roedden ni eisiau dychwelyd i Landudno i ddweud wrthyn nhw faint oedd hynny yn ei olygu i ni."

'Anrhydedd' cyfarfod y teulu

Roedd Graham Heritage a'i fab Luke o Orsaf Bad Achub Llandudno yn rhan o'r chwilio am gwch y Nicola Faith yn 2021.

Wrth iddyn nhw baratoi am alwadau i fynd allan i'r môr dros yr ŵyl, dywed y ddau y byddan nhw'n cofio am byth ddigwyddiadau dechrau 2021.

"Mae'n un o'r chwiliadau hynny sy'n aros yn eich cof.," meddai Graham.

"Er ein bod yn achub cannoedd, y rhai na allwn ni eu hachub sy'n aros yn y cof.

"Roedd chwilio am y Nicola Faith yn hir ac yn anodd ac roedden ni'n awyddus i ddod â'r pysgotwyr adre'n saff.

"Wrth i'r oriau droi'n ddyddiau, pylodd y gobeithion.

"Wrth i ni i gyd baratoi ar gyfer y Nadolig gyda'n teuluoedd, mae'r ffaith fod y teulu yma am ein cyfarfod wedi'n cyffwrdd yn fawr, ac mae'n anrhydedd."

Bu'n rhaid galw gwasanaeth achub yr RNLI dros 100 o weithiau yn ystod y Nadolig y llynedd.

Dywed Lowri ei bod hi'n teimlo mai dyma'r amser priodol i ddiolch i'r criwiau am eu gwaith, ac i ddymuno iddyn nhw gael Nadolig diogel a heddychlon.

"Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal unrhyw deulu arall rhag dioddef fel rydyn ni wedi'i wneud," meddai.

"Rydyn ni'n awyddus i bobl wybod ein stori ni ac ystyried cyngor diogelwch hanfodol yr RNLI.

"Mae'n anhygoel gwybod fod byddin o wirfoddolwyr wrth law nid yn unig dros y Nadolig ond gydol y flwyddyn."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.