Bwriad i newid y terfyn cyflymder ar ragor o ffyrdd

Cafodd y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd preswyl yng Nghymru ei ostwng o 30mya i 20mya ym mis Medi 2023
- Cyhoeddwyd
Gallai'r terfyn cyflymder ar nifer o ffyrdd ar draws y wlad gael ei newid, yn dilyn cynigion gan Lywodraeth Cymru.
Cafodd y terfyn cyflymder cyffredinol ar gyfer ffyrdd preswyl yng Nghymru ei ostwng o 30mya i 20mya ym mis Medi 2023.
Mae ymgyrchwyr yn dweud bod hyn wedi arwain at bron i 900 yn llai o anafiadau.
Ond roedd gwrthwynebiad chwyrn gan rai i'r polisi, wnaeth gostio £34m i'w roi ar waith, ac yn 2024 cafodd y terfyn cyflymder ei newid yn ôl i 30mya ar rhai ffyrdd.
Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod bellach wedi cwblhau adolygiad o derfynau cyflymder 20mya a 30mya ar gefnffyrdd, ac maen nhw wedi cyhoeddi rhestr o leoedd ble gallai'r terfyn newid, dolen allanol.
Mae rhai o'r rheiny yn golygu gostwng y terfyn i 20mya, ond mewn ardaloedd eraill byddai'r terfyn yn cynyddu i 30mya.
900 yn llai o bobl wedi'u hanafu ar y ffyrdd ers newid i 20mya
- Cyhoeddwyd17 Medi 2025
Tua 100 yn llai wedi eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ers cynllun 20mya
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2025
Nifer uchaf erioed yn arwyddo deiseb 20mya
- Cyhoeddwyd20 Medi 2023
Dywedodd y llywodraeth: "Rydym yn cynnig newidiadau i rai terfynau cyflymder 20mya neu 30mya ar y rhwydwaith cefnffyrdd.
"Rydym hefyd yn ystyried cyflwyno terfynau cyflymder byffer mewn rhai ardaloedd.
"Mae'r rhain yn rhannau byr o'r ffordd sy'n agosáu at neu'n gadael terfyn cyflymder 20mya neu 30mya. Maen nhw'n helpu gyrwyr i arafu yn fwy graddol.
"Er enghraifft, os yw gyrrwr yn teithio ar 60mya ac ar fin mynd i mewn i derfyn cyflymder 20mya, gallwn ychwanegu adran fer 40mya rhyngddynt."
Mae angen Gorchmynion Rheoleiddio Traffig (TROs) newydd ar unrhyw newidiadau terfyn cyflymder - proses sy'n gallu cymryd naw mis i'w weithredu.
Efallai na fydd terfynau cyflymder yn newid tan ddechrau 2027.
Dywedodd y llywodraeth y gall pobl wrthwynebu'r newidiadau sydd wedi'u cynllunio "pan fydd y TROs drafft yn cael eu cyhoeddi".
Y ffyrdd sydd am gael eu heffeithio
A40 Glangrwyne - cynyddu i 30mya ar ran o'r A40. Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr;
A4076 Johnston - cynyddu i 30mya ar ran o'r A4076;
A479 Talgarth - gostwng i 20mya ar ran o'r A479. Ystyried a oes angen croesfan i gerddwyr;
A483 Llandybïe - cynyddu i 30mya ar ran o'r A483;
A487 Aberaeron - gostwng i 20mya ar ran o'r A487 lle mae terfyn rhan-amser 20mya ar hyn o bryd;
A487 Aberystwyth, Southgate, Trefechan a'r A44 Llanbadarn Fawr - cynyddu i 30mya ar ran o'r A487. Dim newid i'r terfyn cyflymder ar yr A44;
A487 Corris Uchaf - gostwng i 20mya ar ran o'r A487. Terfyn cyflymder clustogi i'r de o'r 20mya;
A40 a'r A487 Abergwaun a Chwm Abergwaun - cynyddu i 30mya ar ran o'r A487 ac ar ran o'r A40;
A487 a A489 Machynlleth - cynyddu i 30mya ar ran o'r A487. Dim newid i'r terfyn cyflymder presennol ar yr A489;
A494 Y Bala - cynyddu i 30mya ar ran o'r A494. Terfyn cyflymder clustogi i'r gogledd o'r 20mya;
Bydd croesfannau i gerddwyr ac arwyddion yn cael eu hystyried ar 25 o ffyrdd pellach, dolen allanol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.