Cerdded i godi ymwybyddiaeth wedi blynyddoedd o fyw gyda PMDD

Llun pen ac ysgwyddau o Sera Mai Hughes gyda thraeth, y môr, awyr las a chymylau gwyn y tu ôl iddi
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Sera Mai Hughes ddiagnosis o PMDD yn 2024 ar ôl blynyddoedd o ddioddef symptomau cyn ei mislif

GanElin Alexander
Newyddion BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Roedd y flwyddyn ddiwethaf yn un anodd i Sera Mai Hughes, 34, o Ddwygyfylchi.

Roedd hi'n aml yn teimlo'n isel, yn methu codi ac yn anghofus - a'r cyfan yn digwydd yn ystod y pythefnos cyn ei mislif.

Cafodd Sera ddiagnosis o Anhwylder Dysfforig Cyn Mislif – neu Premenstrual Dysphoric Disorder (PMDD) - yn 2024, a bu'n rhaid iddi gymryd chwe mis o'r gwaith y llynedd er mwyn helpu rheoli ei symptomau.

Erbyn hyn, mae Sera wedi dysgu byw gyda'r cyflwr ac mae hi'n cerdded 18 milltir o Fae Colwyn i Gonwy ddydd Sul er mwyn codi arian i'r elusen PMDD Project, sy'n helpu i godi ymwybyddiaeth o'r cyflwr ac yn ariannu ymchwil.

Pedair menyw ac un dyn yn cerdded ar hyd prom rhwng Bae Colwyn a Chonwy gan godi llaw at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sera'n cerdded 18 milltir o Fae Colwyn i Gonwy gyda'i ffrindiau i godi ymwybyddiaeth o gyflwr PMDD

"Adeg yma blwyddyn dwetha' o'n i ddim mewn lle da o gwbl," meddai Sera.

"Yn amlwg o'n i ddim yn gw'bod sut i ddelio hefo'r PMDD. Oedd o'n trial ac error fatha medddigyniaeth."

Mae'r cyflwr yn effeithio 6-8% o fenywod yn y Deyrnas Unedig ac mae'n cymryd 12 mlynedd ar gyfartaledd i gael diagnosis.

"O'n i'n really ffodus ges i GP oedd yn gw'bod amdan PMDD," meddai Sera.

"Dwi'n neud y walk heddiw 'ma achos dwi jest isio 'neud pawb yn ymwybodol o be' ydy PMDD.

"'Sach chi ddim yn coelio faint o negeseuon dwi 'di cael dros y flwyddyn diwethaf gan merched yn meddwl bod nhw efo'r cyflwr."

Caryl mewn sbectol a chôt binc yn gwenu at y camera
Disgrifiad o’r llun,

Mae chwaer Sera, Caryl, yn ei chefnogi ar y daith ac yn dweud bod gweld ei chwaer yn dioddef wedi bod yn anodd iawn

Mae chwaer Sera, Caryl yn ei chefnogi ar y daith.

Mae hi'n dweud bod gweld ei chwaer yn dioddef oherwydd y salwch wedi bod yn anodd iawn.

"Pob mis mae'n cael y teimladau ofnadwy 'ma o jest deimlo'n rili isel," meddai Caryl.

"Mae'n cael effaith arni hi fel mam – mae hi'n teimlo fatha nad ydy hi'n gwneud yn ddigon da, ond mae hi'n gwneud yn anhygoel. Mae hi'n ysbrydoliaeth mawr i bob un ohonom ni."

Mae Caryl yn gobeithio y bydd y daith yn helpu teuluoedd pobl sy'n dioddef hefyd.

"Mae'n gyflwr sydd ddim yn cael ei adnabod yn dda iawn. Mae'n sicr [bod] angen gwneud rhywbeth er mwyn codi ymwybyddiaeth o beth ydy o yma yng Nghymru, ynghyd â lot o gyflyrau gynaecolegol eraill."

Yr Athro Arianna Di Florio
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro Arianna Di Florio o Brifysgol Caerdydd yn ymchwilio i'r cyflwr PMDD ac yn galw am well ddealltwriaeth ohono

Mae PMDD yn cael ei ddiffinio fel cyflwr cylchol sy'n gysylltiedig â'r mislif, lle mae'r symptomau'n ymddangos yn ystod yr wythnos neu'r pythefnos cyn y mislif ac yna'n diflannu ar ôl i'r mislif ddechrau.

Mae'r Athro Arianna Di Florio yn ymchwilio i'r cyflwr ym Mhrifysgol Caerdydd, ac mae ei gwaith yn ceisio ehangu'r diffiniad hwn.

"Mae'n gyflwr cymharol newydd a rhywbeth 'dan ni ond yn gwybod ychydig amdano," meddai.

"Dyw'r diffiniad ddim o reidrwydd y mwyaf defnyddiol. Dwi wedi gweld rhai menywod sy'n cael symptomau drwy gydol y mis, ond maen nhw'n gwaethygu yn y pythefnos cyn y mislif, er enghraifft.

"Felly mae patrwm, ond dyw e ddim yn batrwm sy'n ticio'r bocsys ar gyfer PMDD ar hyn o bryd."

Dim ond ers 2013 mae PMDD wedi cael ei ystyried yn gyflwr ffurfiol.

Mae'r Athro Di Florio yn poeni bod llawer nad ydyn ni'n ei wybod o hyd am broblemau gynaecolegol.

"Mae triniaethau wedi'u hastudio ar y grŵp bach yma o bobl sy'n ticio'r bocsys, ond dydyn nhw ddim yn cynrychioli'r rhan fwyaf o bobl sy'n dioddef problemau cyn y mislif."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig