Apêl yr Ambiwlans Awyr wrth i brisiau olew achosi 'storm berffaith'

Ambiwlans awyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r elusen wedi dweud eu bod yn wynebu cost ychwanegol o tua £50,000

  • Cyhoeddwyd

Mae elusen Ambiwlans Awyr Cymru wedi lansio apêl am gymorth gan y cyhoedd gan ddweud bod gwasanaethau dan fygythiad oherwydd prisiau olew.

Dywed yr elusen eu bod yn wynebu cost ychwanegol o tua £50,000 - a hynny os ydy'r rhyfel yn y Dwyrain Canol yn dod i ben yn y dyddiau nesaf.

I gynnal y gwasanaeth, mae Ambiwlans Awyr Cymru yn dweud bod angen codi £13m y flwyddyn.

Dywedodd un o ymddiriedolwyr yr elusen, Mark James, eu bod wedi gweld y costau yn codi'n aruthrol yn barod ac credu y bydd y sefyllfa yn "mynd 'mlan ac yn costio mwy i'r elusen" gan na fydd y rhyfel y Dwyrain Canol yn "gorffen yfory".

Mark JamesFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i ddim yn gweld hwn yn digwydd," meddai Mark James am y cynnydd mewn costau

Yn siarad ar raglen Dros Frecwast, dywedodd Mr James fod hyn yn codi pryderon ynglyn â chael tanwydd gan fod y "sector hedfan yn gyfan gwbl yn becso".

O ran y tanwydd - poeni am y costau'n codi y mae'r elusen, meddai, yn hytrach na'r prinder ohono yn gyffredinol.

Dyma pam eu bod bellach wedi cyhoeddi apêl arbennig i'r cyhoedd am gefnogaeth, "yn rhybuddio am y costau" a gofyn am roddion.

"O'n i ddim yn disgwyl hwn. O'n i ddim yn gweld hwn yn digwydd.

"Nid ni yw'r unig ambiwlans awyr sydd wedi gofyn am gymorth fel hyn," meddai Mr James, gan ddweud bod nifer o wasanaethau tebyg yn wynebu'r un heriau.

'Storm berffaith'

Dywedodd yr elusen fod prisiau olew wedi codi wrth i'r gwasanaeth baratoi am eu cyfnod prysuraf o'r flwyddyn - "storm berffaith" oedd disgrifiad Mark James.

"Diwrnodau hirach, mwy o olau, ond hefyd bobl yn dod fewn i Gymru o'r Pasg ymlaen, felly'r hewlydd yn fwy prysur, motobeics.

"Hefyd, rydyn ni'n fwy prysur yn yr haf nac ydyn ni yn ystod y gaeaf," ychwanegodd Mr James.

Dywedodd y Capten James Gardiner, peilot gydag Ambiwlans Awyr Cymru, bod y cynnydd mewn prisiau olew yn cael "effaith go iawn" ar y gwasanaeth.

"Mae'r cymorth 'da ni'n ei gael gan y cyhoedd wirioneddol yn helpu cadw ni yn yr awyr," meddai.

Dywedodd llefarydd ar ran Llafur Cymru bod "mynediad i ysbytai yn ardaloedd cefn gwlad yn hanfodol".

Ychwanegodd y llefarydd bod y blaid am ddatblygu "Cynllun Iechyd Gwledig newydd" yn ogystal â chreu cynllun trafnidiaeth ar gyfer ysbytai.

Dywedodd llefarydd ar ran y Ceidwadwyr Cymreig: "Mae Ambiwlans Awyr Cymru yn bwysig iawn i'n cymunedau gwledig ac arfordirol, ac mae'n hanfodol bod y gwasanaeth yn cael ei gefnogi.

"Ar y diwrnod cyntaf, bydd llywodraeth Geidwadol Cymru yn datgan argyfwng iechyd i flaenoriaethu gwasanaethau rheng flaen a gweithio'n agos gyda'n helusennau sy'n achub bywydau i sicrhau bod ganddyn nhw'r sefydlogrwydd sydd angen arnyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Reform: "Mae'n hanfodol bod llywodraeth nesaf Cymru yn sicrhau bod lleoliadau gwledig ac anghysbell yn derbyn gwasanaethau brys o fewn yr amseroedd targed achub bywyd."

Mae Plaid Cymru'n dweud bod dyletswydd ar Lywodraeth y DU "i gefnogi'r gwasanaethau hanfodol hyn sy'n gweld cynnydd enfawr mewn prisiau" o ganlyniad i'r rhyfel yn Iran, "tra hefyd yn gwneud popeth y gallant i weld diwedd diplomyddol ar y rhyfela ac ailagor llwybrau masnach ryngwladol yn llawn".

Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn "destun pryder mawr clywed y gallai [y gwasanaeth] wynebu costau ar y raddfa hon - mae'n rhaid amddiffyn gwasanaethau fel hyn".

Ychwanegodd bod y rhyfel yn Iran yn "creu hafoc yn ein gwasanaethau cyhoeddus a'n heconomi" ac mae'n rhaid dod â'r rhyfel i ben.

Mae'r Blaid Werdd wedi cael cais am sylw.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.