Fishlock i ymuno â staff Cymru ar gyfer gêm gyntaf ymgyrch Cwpan y Byd

Jess Fishlock a Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, CBDC
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Jess Fishlock yn ymuno â Rhian Wilkinson a staff Cymru fel cynorthwyydd technegol ar gyfer y gêm ragbrofol gyntaf

  • Cyhoeddwyd

Bydd prif sgoriwr a chyn-gapten Cymru Jess Fishlock yn ymuno â'r staff hyfforddi ar gyfer y gêm ragbrofol gyntaf ar gyfer Cwpan y Byd Brasil 2027 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 3 Mawrth.

Fore Mercher fe wnaeth prif hyfforddwr Cymru, Rhian Wilkinson gyhoeddi ei charfan ar gyfer dechrau'r ymgyrch.

Wedi'r gêm oddi cartref yn erbyn y Weriniaeth Tsiec bydd Cymru yn croesawu Montenegro i Lanelli ar 7 Mawrth.

Ni fydd Fishlock, wnaeth ymddeol o bêl-droed rhyngwladol ym mis Hydref, yn gweithio gyda'r staff am yr ail gêm oherwydd ei hymrwymiadau fel chwaraewr gyda thîm Seattle Reign.

Mae tri chwaraewr sydd eto i ennill cap wedi cael eu henwi yn y garfan, tra bod rhai enwau profiadol fel Hayley Ladd, Sophie Ingle ac Angharad James hefyd yn dychwelyd.

Rhian WilkinsonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Rhian Wilkinson yn awyddus i ddechrau'r ymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd gyda dwy fuddugoliaeth

Bydd Jess Fishlock, prif sgoriwr a'r chwaraewr sydd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau i Gymru erioed, yn ymuno fel cynorthwyydd technegol ar gyfer y gêm gyntaf yn Uherske Hradiste yng Ngweriniaeth Tsiec.

Dywedodd Rhian Wilkinson ei bod yn ddiolchgar i Seattle Reign am ganiatáu i'r chwaraewr 39 oed ymuno â'r garfan ar gyfer dechrau'r ymgyrch.

Mae Laura Hughes, a enillodd ei chap cyntaf yn erbyn y Swistir fis Rhagfyr, yn colli allan oherwydd anaf, ond mae disgwyl iddi ddychwelyd ar gyfer y gêm yn erbyn Albania ym mis Ebrill.

Y tri chwaraewr sydd eto i ennill cap yw'r golwr Poppy Soper o Rugby Borough, Olivia Francis a Phoebie Poole o Plymouth Argyle.

Poppy Soper, Olivia Francis a Phoebie PooleFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Poppy Soper, Olivia Francis a Phoebie Poole yw'r chwaraewyr sydd eto i ennill cap sydd wedi'u cynnwys yn y garfan

Mae Cymru yn rhan o grŵp B1 - yn yr ail haen - gyda'r Weriniaeth Tsiec, Albania a Montenegro.

Ond os yw carfan Rhian Wilkinson am sicrhau eu lle yng Nghwpan y Byd, bydd yn rhaid iddyn nhw wneud hynny drwy'r gemau ail gyfle, gan nad oes modd i dimau yn haen B fynd drwodd yn awtomatig.

Fe fydd perfformiad Cymru yn y grŵp hefyd yn effeithio ar ba haen y byddan nhw'n chwarae ynddo yng Nghynghrair y Cenhedloedd.

Bydd sylwebaeth sain o'r ddwy gêm ar Cymru Fyw.

Carfan Cymru yn llawn

Olivia Clark, Safia Middleton-Patel, Poppy Soper, Hannah Cain, Charlie Estcourt, Gemma Evans, Olivia Francis, Mared Griffiths, Ceri Holland, Elise Hughes, Sophie Ingle, Angharad James, Lois Joel, Carrie Jones, Hayley Ladd, Esther Morgan, Ffion Morgan, Mary McAteer, Phoebie Poole, Ella Powell, Rhiannon Roberts, Mia Ross, Rachel Rowe, Tianna Teisar, Lily Woodham, Gwen Zimmerman.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.