Rhun ap Iorwerth: Plaid Cymru yn mynd o argyfwng i gipio grym

Ceisiodd Rhun ap Iorwerth gyflwyno'r ymgyrch etholiadol fel cyfle i adnewyddu
- Cyhoeddwyd
Tua chan mlynedd ar ôl sefydlu Plaid Cymru, ac ar ôl tua chanrif o oruchafiaeth Llafur yng Nghymru, mae un cyfnod gwleidyddol yn dod i ben, ac un arall yn dechrau.
Wrth i afael hir Llafur ar rym ddirwyn i ben yn ddisymwth, mae arweinydd Plaid Cymru yn debygol o fod yn brif weinidog am y tro cyntaf ar ôl etholiad llwyddiannus.
Mae'n nodi newid rhyfeddol o'i gymharu â thair blynedd yn ôl, pan etifeddodd Rhun ap Iorwerth blaid mewn anhrefn.
Roedd adroddiad beirniadol ar "ddiwylliant o aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn Plaid Cymru wedi gorfodi ei ragflaenydd, Adam Price, i ymddiswyddo, gan adael y blaid yn wynebu argyfwng o hyder a hygrededd.
Felly beth ydym ni'n ei wybod am y dyn y disgwylir iddo ddod yn seithfed prif weinidog Cymru?
Ganwyd ef yn Nhonteg, ger Pontypridd, ond tyfodd i fyny yn y gogledd-orllewin.
Treuliodd ei flynyddoedd cynharaf ym Meirionnydd cyn symud i Ynys Môn yn bump oed.

Gwnaeth Rhun ap Iorwerth ei ymgais gyntaf i arwain Plaid Cymru yn 2018
Dywedodd ei dad, y canwr a'r addysgwr Edward Morus Jones, yn ei hunangofiant: "Doedd yna ddim bwriad o gwbl i fod yn rhan o ryw genhadaeth Gymraeg wrth roi'r enwau Awen Iorwerth a Rhun ap Iorwerth ar y plant.
"Roedd Yncl Ap yn fy nheulu i ar ochr Tada ers talwm, ac roeddem yn gwybod fod 'Iorwerth' yn ffurf dderbyniol ar 'Edward'.
"A phrin y byddai Jones yn marw o'r tir pe na baem ni yn ei ddefnyddio fo!"
Roedd marwolaeth ei fam yn 2012 yn allweddol yn y penderfyniad i groesi'r gamfa fawr o newyddiaduraeth i wleidyddiaeth, meddai Rhun ap Iorwerth, gan ei weld fel ffordd o gyfrannu at ei gymuned.
Bu Gwyneth Morus Jones yn llywydd Mudiad Ysgolion Meithrin, undeb athrawon UCAC a Merched y Wawr.
Roedd hi hefyd yn un o aelodau olaf Bwrdd yr Iaith Gymraeg, ac yn ddarpar-Lywydd Undeb yr Annibynwyr pan fu farw yn 68 oed.
Camu i fyd gwleidyddiaeth wedi gyrfa gyda'r BBC
Astudiodd Rhun ap Iorwerth wleidyddiaeth a Chymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio yn 1993 gyda gradd anrhydedd ail ddosbarth adran 2 (2:2).
Bu hefyd, yn y cyfnod yn pontio ysgol a choleg, yn canu a chwarae'r gitâr mewn band Cymraeg byrhoedlog o'r enw 69 - enw a ddewiswyd mae'n debyg i nodi gwrthwynebiad i goroni Charles yn dywysog Cymru.
Ymunodd â BBC Cymru ym 1994, a bu'n ohebydd adnabyddus yng Nghymru gan adrodd ar ddigwyddiadau gwleidyddol yn San Steffan a Bae Caerdydd ar deledu a radio.
Bu'n gyflwynydd ar raglenni Post Cyntaf a Dau o'r Bae ar Radio Cymru, ac ar Newyddion S4C, ynghyd â rhaglenni Saesneg y BBC fel The Politics Show Wales a Dragon's Eye.
Mewn corwynt gwleidyddol cyn isetholiad Ynys Môn yn 2013, rhoddodd y gorau i weithio i'r BBC yn sydyn ac fe gafodd enwebiad Plaid Cymru i fod yn ymgeisydd.
Roedd y sedd yn wag yn dilyn penderfyniad gan gyn-arweinydd y blaid Ieuan Wyn Jones i adael siambr y Senedd i arwain parc gwyddoniaeth newydd M-SParc.
O ystyried ei rôl ddiduedd flaenorol gyda BBC Cymru, fe wnaeth y cam dramatig ysgogi cwestiynau gan reolwyr y gorfforaeth.
Wedi ennill yr isetholiad yn argyhoeddiadol, buan iawn y dechreuodd y dyfalu a oedd wyneb newydd Bae Caerdydd â'i fryd ar arwain Plaid Cymru rhyw ddydd.
Daeth ei gyfle cyntaf bum mlynedd yn ddiweddarach, yn 2018, pan chwyrliodd sibrydion am heriau posibl i arweinyddiaeth Leanne Wood, pan oedd rhai o fewn eu rhengoedd yn teimlo bod y blaid mewn rhigol.
Mewn cyfweliad teledu, dywedodd Ms Wood y byddai'n croesawu her.
Lansiodd Adam Price a Rhun ap Iorwerth eu hymgyrchoedd ar yr un diwrnod, ac yn y pendraw cafodd Adam Price 49.7% o'r pleidleisiau, Rhun ap Iorwerth 28% a Leanne Wood 22.3%.

Cyflwyno Newyddion S4C a gynhyrchwyd gan y BBC, yn 2009
Yn haf 2022, cyhoeddodd ei fwriad i redeg i fod yn AS Ynys Môn yn San Steffan.
Ond pan roddodd Adam Price y gorau iddi ym mis Mai, yn dilyn adolygiad a ddaeth i'r casgliad bod yna ddiwylliant o "aflonyddu, bwlio a misogynistiaeth" o fewn y blaid, roedd llawer yn y blaid yn credu mai ef oedd yr AS amlwg i arwain.
Yn gymaint felly, doedd dim cystadleuaeth arweinyddiaeth, ac fe gymerodd Rhun ap Iorwerth yr awenau yn 50 oed.
Gofynnwch i unrhyw gefnogwr Rhun ap Iorwerth pam y gwnaethon nhw ei gefnogi ac mae'n debyg y byddan nhw'n dweud "sgiliau cyfathrebu" - ei allu i gyfleu ei neges yn effeithiol yn y ddwy iaith.
Roeddent i'w gweld yn wythnosol yng Nghwestiynau i'r Prif Weinidog, lle'r oedd yn wynebu tri arweinydd Llafur yn eu tro: Mark Drakeford, Vaughan Gething ac, yn fwyaf diweddar, Eluned Morgan.
Defnyddiodd ef y trafodaethau hynny i'w osod ei hun fel prif weinidog amgen credadwy.
Roedd ei neges graidd yn ddi-flewyn-ar-dafod: dadleuodd fod Llafur yn "methu â sefyll dros Gymru" ac yn brin o uchelgais dros y genedl.
Pan ddychwelodd Llafur i rym yn San Steffan ar ôl addo yn ystod ymgyrch etholiad cyffredinol 2024 y byddai Cymru'n elwa o'r blaid yn llywodraethu yn Llundain a Chaerdydd, trodd ap Iorwerth y ddadl ar ei phen.
Dywedodd fod prif weinidogion Llafur Cymru yn "rhy glyd" gyda'u penaethiaid yn Llundain ac yn fwy pryderus am osgoi cywilydd i Syr Keir Starmer na siarad dros Gymru.
Ceisiodd gyflwyno'r ymgyrch etholiadol fel cyfle i adnewyddu, gan ddadlau, ar ôl degawdau mewn grym, fod Llafur wedi rhedeg allan o syniadau ar gyfer Cymru.
Nawr, mae'n debygol iawn mai Rhun ap Iorwerth fydd yr un sy'n wynebu Cwestiynau i'r Prif Weinidog ym Mae Caerdydd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill
