Car, sy'n cynnwys offer gwerth £4,000 ar gyfer plentyn anabl, wedi'i ddwyn

Catrin yn dal ei merch Eva RaeFfynhonnell y llun, Catrin Jones
  • Cyhoeddwyd

Mae mam i blentyn pedair oed sydd ag anabledd difrifol yn dweud ei bod wedi cael sioc ar ôl i'w char gael ei ddwyn - roedd yn cynnwys offer a chyflenwadau meddygol gwerth hyd at £4,000.

Wrth gasglu meddyginiaeth ei merch, Eva Rae o'r fferyllfa leol ddydd Llun gadawodd Cartin Jones, sy'n 25 oed ac o ardal Gorseinon yn Abertawe, ei char mewn maes parcio.

Mae Eva'n byw gyda Metachromatic leukodystrophy (MLD), clefyd genetigol prin sy'n effeithio ar fater gwyn yn yr ymennydd.

Roedd y car - Volkswagen Taigo - yn cynnwys sedd car arbenigol Eva sydd werth £3,000.

Roedd angen i Eva deithio i Gaerdydd yn hwyrach y noson honno i aros yn Ysbyty Athrofaol Cymru ond heb y car arbenigol bu'n rhaid iddi orwedd ar sedd gefn car arferol gyda Catrin, ei mam, yn ei chofleidio.

"Doedd e ddim yn saff iawn a dylen ni ddim fod wedi gwneud hynny ond pe bawn ni 'di colli'r apwyntiad byddai rhaid i ni aros tair blynedd arall," meddai Catrin.

Eva RaeFfynhonnell y llun, Cara Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Eva Rae yn byw gyda byw gyda Metachromatic leukodystrophy

Yn ôl Ysbyty Plant Great Ormond Street, cyflwr etifeddol prin ydy MLD yn sy'n gallu achosi person i golli gallu corfforol yn raddol ac yna gallu meddyliol.

Yr amcangyfrif ydy bod tua un o bob 40,000 o bobl yn y DU yn cael eu heffeithio gan y cyflwr.

Does dim modd gwella. Dywedodd Catrin fod Eva wedi cael diagnosis pan oedd hi'n 18 mis a bod y teulu wedi cael gwybod bod disgwyl iddi fyw tan ei bod oddeutu pump oed.

Mae'n dathlu ei phen-blwydd yn bump ddydd Sul.

Hyd yn hyn mae Eva wedi colli ei gallu i siarad a cherdded ac mae'n cael ei bwydo drwy diwb.

"Mae'n dechrau'n gorfforol ac yna'n mynd yn niwrolegol," meddai Catrin.

"Fi'n teimlo fel ein bod ni yn y cam nwirolegol nawr."

CarFfynhonnell y llun, Cara Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae Heddlu De Cymru'n annog unrhyw un sy'n gweld y car i gysylltu â nhw

Fe aeth Catrin i Sainsbury's ddydd Llun meddai, ac wrth roi Eva yn ei chadair er mwyn gallu ei gwthio o gwmpas dywedodd ei bod wedi gadael ei bag yno gyda allweddi'r car y tu mewn.

Pan ddaeth yn ôl ryw 20 munud yn ddiweddarach roedd y car wedi mynd ac roedd fideo camerâu cylch cyfyng yn dangos y car yn cael ei yrru i ffwrdd am 15:21.

"Ges i sioc," meddai. Esboniodd y byddai'r lladron wedi gweld bathodyn glas, lluniau o'i merch a chyflenwadau meddygol hanfodol yn y car ond doedd hynny ddim yn ddigon i'w stopio.

"O'n i fwyaf trist am sedd car fy merch. Mae'n sedd car arbenigol - allwn ni ddim teithio unrhywle.

"Felly mae apwyntiadau ysbyty'n faich nawr achos allwn ni ddim eu cyrraedd heb y sedd yna."

Yn ôl Catrin, sydd ar hyn o bryd yn cael hyfforddiant yn yr ysbyty ar sut i ddefnyddio masgiau NIPPY (Non-invasive positive pressure ventilation) fydd yn helpu Eva i anadlu yn y nos, mae sawl person wedi gweld ei char ers dydd Llun.

"Does dim diweddariad gan yr heddlu am fy nghar," meddai.

"Dywedon nhw eu bod nhw am edrych i mewn iddo ond dydyn ni ddim wedi clywed dim byd eto."

Yn ddiweddar mae arian wedi cael ei godi ar gyfer Eva Rae, er mwyn iddi gael profiadau newydd ond dywedodd Catrin efallai bydd yn rhaid defnyddio'r arian yna nawr i brynu offer newydd.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru eu bod yn deall fod y profiad o golli car yn "gostus" i'r dioddefwr ac yn "achosi gofid ac anghyfleustra".

Cadarnhaodd fod yr heddlu'n ymchwilio i'r mater gan annog unrhyw un sy'n gweld y car i gysylltu â nhw ar unwaith.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig