Sut gyfnod trosglwyddo mae clybiau Cymru wedi'i gael?

Vitor Matos, Phil Parkinson, Christian Fuchs a Brian Barry-MurphyFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abertawe, Wrecsam, Casnewydd a Chaerdydd i gyd wedi arwyddo chwaraewyr newydd

GanOwain Llyr
Chwaraeon BBC Cymru
  • Cyhoeddwyd

Mae'r pedwar clwb o Gymru sy'n chwarae ym mhrif gynghreiriau Lloegr wedi bod yn brysur yn ceisio cryfhau eu carfanau dros yr wythnosau diwethaf, cyn i'r cyfnod trosglwyddo diweddaraf wedi dod i ben nos Lun.

Felly pwy yn union mae Wrecsam, Abertawe, Caerdydd a Chasnewydd wedi eu harwyddo?

A be' all y pedwar clwb ei gyflawni rhwng rŵan a diwedd y tymor?

Wrecsam

Wedi arwyddo: Zak Vyner, Davis Keillor-Dunn a Bailey Cadamarteri

Wedi gadael: Jake Bickerstaff, James McClean, Jacob Mendy, Andy Cannon (ar fenthyg), Paul Mullin (ar fenthyg), Conor Coady (ar fenthyg), Elliot Lee (ar fenthyg), Ryan Hardie (ar fenthyg), Harry Ashfield (ar fenthyg), Mo Faal (ar fenthyg)

Zak Vyner, Bailey Cadamarteri a Davis Keillor-DunnFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Wrecsam wedi arwyddo Zak Vyner, Bailey Cadamarteri a Davis Keillor-Dunn

Mae 'na gymaint o chwaraewyr wedi cael eu cysylltu gyda Wrecsam yn ddiweddar - ond yn y pendraw, tri ddaeth i mewn.

Gyda'r Dreigiau yn targedu pedwerydd dyrchafiad yn olynol, bydd Phil Parkinson yn gobeithio y bydd y tri chwaraewr newydd yn gallu eu helpu i orffen yn y chwe safle uchaf yn y Bencampwriaeth.

Mae Zak Vyner sydd wedi ymuno o Bristol City yn sicr yn mynd i gryfhau'r amddiffyn, tra bod Davis Keillor-Dunn wedi sgorio digon o goliau i Barnsley yn Adran Un.

Er nad yw record sgorio Bailey Cadamarteri i Sheffield Wednesday yn wych, mae wedi rhwydo i Jamaica ar y llwyfan rhyngwladol.

Bydd Parkinson yn siomedig na lwyddon nhw i arwyddo ôl-asgellwr newydd yn enwedig ar ôl i James McClean a Jacob Mendy adael.

Ond heb unrhyw amheuaeth mae 'na ddigon o gryfder yn y garfan i gyrraedd y gemau ail-gyfle.

Abertawe

Wedi arwyddo: Joel Ward, Leo Walta (ar fenthyg), Gustavo Nunes

Wedi gadael: Kaelan Casey, Manuel Benson, Bobby Wales (ar fenthyg), Josh Thomas (ar fenthyg)

Leo Walta yn chwarae dros Y Ffindir yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn 2024Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leo Walta wedi ennill 10 cap dros Y Ffindir

Mae sgorio goliau o ganol cae wedi bod yn broblem i Abertawe y tymor yma, felly fe fydd Vitor Matos yn gobeithio y bydd arwyddo Leo Walta yn datrys y broblem honno.

Mae chwaraewr rhyngwladol Y Ffindir wedi ymuno ar fenthyg o glwb Sirius yn Sweden, ond mae disgwyl iddo arwyddo yn barhaol ar ddiwedd y tymor.

Ar bapur mae'n edrych fel tipyn o chwaraewr, gan iddo sgorio 16 gôl mewn 30 gêm ym mhrif adran Sweden y tymor diwethaf.

Bydd Joel Ward, sy'n 36 oed, yn ychwanegu profiad i'r amddiffyn, tra y bydd Gustavo Nunes yn opsiwn arall ar yr asgell ar ôl i'r Elyrch ddod â chyfnod Manuel Benson ar fenthyg o Burnley i ben yn gynnar.

Gydag Abertawe wyth pwynt o'r chwe safle uchaf, mae'n annhebygol y gwelwn ni nhw yn cyrraedd y gemau ail-gyfle y tymor yma.

Ond mae arwyddo Leo Walta yn sicr wedi cyffroi'r cefnogwyr, a phwy a ŵyr be' all ddigwydd os bydd Walta'n dechrau sgorio'r rheolaidd ac Abertawe'n mynd ar rediad da.

Caerdydd

Wedi arwyddo: Calum Scanlon (ar fenthyg), Harry Tyrer

Wedi gadael: Jak Alnwick, Ethan Horvath, Kion Etete (ar fenthyg)

Calum Scanlon yn chwarae i Lerpwl a Nathan Tyrer yn chwarae i EvertonFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Calum Scanlon a Nathan Tyrer wedi ymuno â Chaerdydd

Gyda Chaerdydd ar frig Adran Un a heb golli ers ganol Rhagfyr, mae'n ymddangos fod dyrchafiad yn ôl i'r Bencampwriaeth yn anochel.

Er hynny mae Brian Barry-Murphy wedi arwyddo dau chwaraewr fydd yn cynnig ychydig o gystadleuaeth o fewn y garfan.

Gan mai Joel Bagan oedd yr unig gefnwr chwith naturiol oedd ar gael iddo, mae Calum Scanlon wedi ymuno ar fenthyg o Lerpwl.

Fel chwaraewr sydd wedi cynrychioli tîm dan-20 Lloegr bydd Lerpwl yn disgwyl i Scanlon chwarae cryn dipyn i'r Adar Gleision, felly fe fydd hi'n ddiddorol gweld sut y bydd Barry-Murphy yn cadw Bagan a Scanlon yn hapus.

Mae'r golwr Harry Tyrer wedi ymuno'n barhaol o Everton.

Nathan Trott ydi'r dewis cyntaf ar y funud ond does dim sicrwydd y bydd yn ymuno yn barhaol o FC Copenhagen ar ddiwedd y tymor, felly mae'n ddigon posibl fod Tyrer wedi cael ei arwyddo gydag un llygad ar y tymor nesaf.

Ond mae un peth yn sicr - gyda'r ddau chwaraewr newydd fy ddylai Caerdydd ennill dyrchafiad yn hawdd y tymor yma.

Casnewydd

Wedi arwyddo: Sven Sprangler, James Crole, Harrison Biggins (ar fenthyg), Lewis Jamieson (ar fenthyg), Ryan Delaney (ar fenthyg), Tanatswa Nyakuhwa (ar fenthyg)

Wedi gadael: Nick Tzanez, Kai Whitmore, Cameron Antwi, Sammy Braybrooke, Michael Reindorf, Habeeb Ogunneye, James Clarke (wedi ymddeol)

Sven Sprangler yn chwarae i Wolfsberger ACFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sven Sprangler wedi chwarae i dîm dan-21 Awstria

O'r pedwar clwb, Casnewydd sydd wedi bod brysuraf, ac mae'n hawdd deall pam gan eu bod nhw dal yn y ddau safle isaf yn Adran Dau.

Roedd y clwb yn teimlo fod yn rhaid iddyn nhw geisio gwneud rhywbeth i aros yn y Gynghrair Bêl-droed.

Does neb wedi ildio mwy o goliau yn y gynghrair y tymor yma na Chasnewydd, felly mae ailarwyddo'r amddiffynnwr Ryan Delaney o Swindon yn gwneud synnwyr.

Ond mae'n syndod nad ydyn nhw wedi arwyddo o leiaf un amddiffynnwr arall.

Mae'r ymosodwr James Crole wedi ymuno o Benybont o'r Cymru Premier, felly yn ddibrofiad ar y lefel yma.

Mae lle i boeni am Gasnewydd, a dwi ddim yn siŵr os oes digon o dalent yn y garfan i osgoi syrthio ar ddiwedd y tymor.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.