Abertawe yn dal ar frig y tabl ar ôl gêm gyfartal yn erbyn Wrecsam

Josh Tymon, Abertawe a Danny Imray, WrecsamFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Josh Tymon (dde), Abertawe, yn cystadlu am y bêl gyda Danny Imray, Wrecsam

  • Cyhoeddwyd

Mae rhediad di-guro Abertawe yn y Bencampwriaeth y tymor hwn yn parhau wedi gêm ddi-sgôr yn erbyn Wrecsam nos Sadwrn.

Golyga'r canlyniadau eu bod yn dal ar frig tabl y gynghrair gyda bwlch o un pwynt.

Mae Wrecsam yn dal yn hanner uchaf y tabl ond maen nhw wedi llithro i'r 11fed safle wedi i Birmingham City sicrhau pwynt yn erbyn Wolverhampton Wanderers brynhawn Sul.

Colli oedd hanes Caerdydd ddydd Sadwrn yn y Bencampwriaeth, o ddwy gôl i ddim yn Portsmouth, sy'n golygu eu bod yn dal heb ennill gêm ers dechrau'r tymor.

Mae Heddlu Hampshire wedi cadarnhau eu bod yn cynnal ymchwiliad i ddigwyddiad tua diwedd y gêm rhwng amddiffynnwr Caerdydd, Krystian Bielik, a chefnogwyr y tîm cartref.

Yn Adran Dau, colli wnaeth Casnewydd hefyd, o gôl i ddim oddi cartref yn Northampton Town.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.