Teyrnged i 'fab cariadus' o Geredigion fu farw mewn gwrthdrawiad

Llun o Lee Barber fu farw mewn gwrthdrawiad yng NgheredigionFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

"Bydd Lee yn byw am byth yn ein calonnau ac yn ein meddyliau," medd ei deulu

  • Cyhoeddwyd

Mae teulu dyn o Aberaeron a fu farw mewn gwrthdrawiad yng Ngheredigion wedi rhoi teyrnged iddo.

Bu farw Lee Barber, 19 oed, yn dilyn gwrthdrawiad ar yr A482 rhwng Llanbedr Pont Steffan a Chiliau Aeron ddydd Mawrth, 24 Mawrth.

"Does na ddim geiriau all ddisgrifio'r boen 'dan ni'n ei deimlo fel teulu.

"Mae colli ein mab Lee, wedi ein llorio ni ac wedi effeithio'n ddwys ar y gymuned ehangach."

Ychwanegodd ei deulu fod Lee yn "fab cariadus wnaeth fyw ei fywyd i'r eithaf".

"Bydd Lee yn cael ei gofio am ei garedigrwydd, ei gryfder, a'i agwedd bositif.

"Roedd ganddo'r gallu i ddod â phobl at ei gilydd gan adael effaith barhaol ar bawb oedd yn ei nabod."

Diolchodd y teulu "i bawb yn y gymuned leol ac ymhellach am yr holl gefnogaeth rydym wedi'i derbyn".

"Mae'r holl negeseuon, y straeon, yr atgofion a'r lluniau sydd wedi'u rhannu gyda ni yn golygu mwy nag y gall geiriau ei fynegi.

"Bydd ein bachgen Lee yn byw am byth yn ein calonnau ac yn ein meddyliau."

Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd er mwyn medru galaru.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig