Carcharu dyn am dreisio dynes ifanc mewn coedwig yn Wrecsam

Fe wnaeth Gift Oladele, 24, o Fanceinion ymosod ar y ddynes ym mis Medi 2025
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wnaeth dreisio dynes ifanc ar ôl ei llusgo i goedwig yn Wrecsam wedi cael dedfryd o 17 mlynedd o garchar.
Fe wnaeth Gift Oladele, 24, o Fanceinion ymosod ar y ddynes 18 oed ym mis Medi 2025, wrth iddi gerdded adref ar ôl noson allan.
Fe'i cafwyd yn euog o dreisio ac ymosodiad rhyw yn dilyn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Mawrth.
Roedd Oladele wedi cael ei garcharu yn flaenorol 2022 am ymosodiad ym Manceinion oedd â chymhelliad rhywiol iddo.
Clywodd y gwrandawiad dedfrydu yn Llys y Goron Caernarfon, bod Oladele eisoes ar fechnïaeth yn dilyn honiad arall o dreisio ym Manceinion ym mis Tachwedd 2024.

Cafwyd Oladele yn euog yn dilyn achos yn Llys y Goron Yr Wyddgrug ym mis Mawrth
Clywodd y llys bod Oladele wedi mynd at ei ddioddefwr tra roedd hi gyda ffrindiau y tu allan i fwyty tecawê yng nghanol Wrecsam, ac roedd ar y dechrau yn ymddangos yn "gyfeillgar ac yn fflyrtio".
Dywedwyd bod y ddynes yn "gwbl sobor" ar y pryd.
Yn ôl yr erlyniad roedd Oladele wedi dweud wrthi ei fod yn cerdded adref i'r un cyfeiriad â hi, ond wrth iddyn nhw basio ardal ddiarffordd, fe wnaeth o gydio ynddi gerfydd ei cheg a'i gorfodi i goedwig ac yna ei threisio.
Dywedodd yr erlyniad i'r ddynes ddisgrifio teimlad o "arswyd" a'i bod wedi gwneud "yr hyn roedd hi'n gredu oedd angen iddi ei wneud er mwyn goroesi'r ymosodiad."
Fe wnaeth Oladele ei gadael yno yn teimlo'n "ynysig, bregus ac unig".
Dywedodd Oladele wrthi y byddai'n "dod o hyd iddi ac yn ei brifo" petai hi'n dweud wrth unrhyw un, gan fygwth tynnu lluniau i'w rhoi ar-lein.
Ond fe wnaeth y ddynes ddweud wrth ei rhieni yn syth ar ôl cyrraedd adref, a galw'r heddlu.
Cafodd Oladele ei arestio y diwrnod canlynol yng nghartref ei gefnder yn Wrecsam.
Clywodd y llys ei fod wedi ceisio cuddio ffôn symudol lle roedd wedi bod yn chwilio am ymosodiadau rhyw.
'Effaith emosiynol sylweddol'
Mewn datganiad i'r llys ynglŷn ag effaith y drosedd arni, dywedodd y dioddefwr ei bod yn deffro bob nos ar ôl cael hunllefau bod Oladele yn mynd i ddod o hyd iddi.
Dywedodd iddi gymryd meddyginiaeth i atal HIV, a'i bod wedi dioddef sgileffeithiau difrifol.
"Rwy'n teimlo cywilydd ac wedi fy nifrodi oherwydd yr hyn wnaeth o i fi.
"Mae'r effaith emosiynol wedi bod yn sylweddol.
"Alla i ddim mynd i unrhyw le ar fy mhen fy hun bellach.
"Dydw i ddim yn teimlo'n saff."
Dywedodd y barnwr Simon Mills wrthi ei bod wedi "dangos dewrder eithriadol yn ystod y digwyddiad, ac wedi hynny."
'Troseddwr peryglus'
Wrth ddedfrydu Oladele, dywedodd y barnwr ei fod yn "droseddwr peryglus", oedd yn parhau i fod yn risg uchel i ferched, ac nad oedd wedi dangos "unrhyw edifeirwch o gwbl".
Yn ogystal â dedfryd o 17 mlynedd o garchar, bydd Oladele yn parhau ar drwydded estynedig o wyth mlynedd, gan olygu y gallai gael ei alw'n ôl i'r carchar petai'n troseddu eto yn ystod y cyfnod hwnnw.
Cafodd orchymyn hefyd am gyfnod amhenodol, yn ei atal rhag cysylltu â'i ddioddefwr mewn unrhyw ffordd yn y dyfodol.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.