Dyn o Lanelli yn debygol o fod wedi boddi ar noson allan - cwest

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu'r De fod Rehaan Akhtar wedi "gwasanaethu ein cymunedau gyda balchder a phroffesiynoldeb"
- Cyhoeddwyd
Mae cwest wedi clywed ei bod hi'n debygol fod dyn o Lanelli a gafodd ei ddarganfod yn farw ar ôl mynd ar goll ym Mryste wedi boddi.
Clywodd Llys Crwner Avon fod Rehaan Akhtar, swyddog heddlu 28 oed, wedi diflannu yn ystod noson allan gyda'i ffrindiau a'i fod wedi cael ei weld ddiwethaf yn ystod oriau mân 23 Tachwedd.
Cafodd ei gorff ei ddarganfod gan ddeifwyr yn harbwr y ddinas y bore canlynol.
Dywedodd Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ar y pryd eu bod yn trin y farwolaeth "fel un heb esboniad ond sydd ddim yn amheus".
Roedd Mr Akhtar wedi bod yn gweithio i Heddlu De Cymru ers Hydref 2021 - gan dreulio cyfnodau yn gwasanaethu yn Abertawe a Chaerdydd.
Yn dilyn archwiliad post mortem fe wnaeth crwner cynorthwyol Avon, Debbie Rookes nodi boddi fel achos marwolaeth dros dro.
Cafodd y cwest ei agor a'i ohirio tra bod ymchwiliadau pellach yn cael eu cynnal.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i [email protected], dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2025
