Dwy ysgol gynradd yn Sir Benfro i gau ar ddiwedd tymor yr haf

Rhai o'r plant a rhieni oedd yng nghyfarfod y cyngor sir ddydd Iau yn y gobaith o benderfyniad i gadw Ysgol Clydau ar agor
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau Cyngor Sir Penfro wedi pleidleisio o blaid cyhoeddi rhybudd statudol i gau dwy o ysgolion cynradd y sir.
Fe fydd ysgolion Clydau a Manorbŷr yn cau ar ddiwedd tymor yr haf.
O un bleidlais yn unig, penderfynodd y cyngor llawn i gefnogi argymhelliad i gau Ysgol Clydau ym mhentref Tegryn.
Fe bleidleisiodd 26 o blaid y cynnig, gyda 25 yn erbyn, gydag un cynghorydd yn ymatal eu pleidlais.
Fe fydd yr ysgol yn cau yn swyddogol ar ddiwedd mis Awst eleni, gyda'r disgyblion yn cael eu trosglwyddo i Ysgol Bro Preseli yng Nghrymych, sydd yn ysgol cyfrwng Cymraeg arall.

O un bleidlais yn unig y gwnaeth cynghorwyr gymeradwyo argymhelliad i gau Ysgol Clydau yn Nhegryn ddiwedd Awst
Ar ôl siarad yn y siambr o blaid cadw'r ysgol ar agor, dywedodd y Cynghorydd Iwan Ward y byddai'r penderfyniad yn "ergyd fawr i'r Gymraeg" yn y gymuned wledig.
"Rwy'n siomedig bod ni wedi colli," meddai.

Mae'r penderfyniad yn ergyd i'r gymuned leol, medd y Cynghorydd Iwan Ward
"Ni wedi batlo yn galed. Siomedig i golli o un.
"Mae'r iaith Gymraeg yn mynd i gael ei effeithio yn fawr iawn.
"Y gwir yw fydd y gymuned yn syffro. Fe fydd y pentre' yn dod lan i fod yn bentre' i bobl ymddeol."
'Un o'r diwrnodau anoddaf'
Mae rhyw 20 o blant ar ôl yn Ysgol Clydau. Clywodd y cyfarfod bod y gost o addysgu plant mewn ysgolion bach gwledig yn gynyddol ddrud, a llefydd gwag ar gynnydd.
Dywedodd yr aelod cabinet dros addysg, Guy Woodham wrth Newyddion S4C, mai dyma oedd "un o'r diwrnodau anoddaf" iddo ers iddo gael ei ethol yn gynghorydd 14 mlynedd yn ôl.
"Ni yma oherwydd y llefydd gwag. Nid problem yn Sir Benfro yw hon. Roedd rhaid i Sir Gaerfyrddin wneud penderfyniad tebyg ddoe. Mae hon yn broblem ar draws Cymru."
Rhybudd am ddirywiad cefn gwlad oherwydd llai o ddisgyblion
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2025
Cyngor Sir Gâr yn pleidleisio o blaid cau Ysgol Llansteffan
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
Penderfynodd y cynghorwyr hefyd i gau Ysgol Manorbŷr, er bod yna addewid dair blynedd yn ôl i'w hailadeiladu yn dilyn tân wnaeth ddinistrio'r adeilad.
Mae'r plant wedi cael eu haddysgu mewn neuadd ym mhentref Jameston ers hynny.
Fe wnaeth y cynghorydd lleol, Phil Kidney, apêl daer i'r cynghorwyr wrthod yr argymhelliad i gau.
Ond fe bleidleisiodd 29 o blaid cau'r ysgol, gydag 20 yn erbyn.
Fe fydd disgwyl i'r 25 o blant sydd yno symud i Ysgol St Florence ar ôl yr haf.

Fe gafodd Ysgol Manorbŷr ei dinistrio wedi tân dair blynedd yn ôl
Penderfynodd y cynghorwyr hefyd i gynnal ymgynghoriad ar gynnig i gau ysgolion Stepaside a Saundersfoot, gyda'r bwriad o greu un ysgol ar safle presennol Saundersfoot.
Fe godwyd pryderon y gallai hynny amharu ar addysg plant o'r gymuned sipsiwn a theithwyr, gyda rhyw 30% o'r deuluoedd o'r gymuned honno yn Ysgol Stepaside.
Fe fydd yr ymgynghoriad yn mynd yn ei flaen serch hynny.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.