Dathlu cyfraniad 'unig' ac 'anweladwy' merched ym myd amaeth

Mae Mari Llifon yn helpu ei gŵr Gareth i redeg cwmni Llefrith Nant Dairy
- Cyhoeddwyd
"Da chi'n gweithio'n galed yn y cefndir, yn cadw'r tŷ i fynd ac yn cadw pob dim i redeg yn esmwyth yn y cartref… ond ar adegau mae'n waith reit unig."
Mae gwaith gwraig fferm yn waith anweladwy weithiau, ychwanega dynes o Ynys Môn sydd wedi siarad am y straen a'r pwysau sy'n gallu dod law yn llaw â bod yn wraig fferm.
Ddydd Sul 8 Mawrth yw Diwrnod Rhyngwladol y Merched - cyfle i ddathlu llwyddiannau menywod ar draws y byd ond hefyd cyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion sy'n gallu effeithio ar ferched.
I nodi'r diwrnod mae BBC Cymru Fyw wedi bod yn siarad â menywod sy'n gweithio ym myd amaeth.

Mae gan Mari a Gareth ddau hogyn bach, Huw a Wiliam
Mae Mari Llifon, 34, o Ros-goch ger Amlwch, yn cydbwyso nifer o gyfrifoldebau yn ei bywyd o dydd i ddydd.
Ar un adeg, roedd hi'n athrawes ond fe benderfynodd roi'r gorau i'w gyrfa er mwyn canolbwyntio ar ei dyletswyddau adref.
"Nes i benderfynu gadael dysgu oherwydd mi o'n i'n gweld hi'n anodd ofnadwy cadw cydbwysedd rhwng bod adref, magu'r hogiau a bod yn gefn i Gareth ar y fferm," meddai.
"Mae cymaint o ddyletswyddau yn dod efo bod yn wraig fferm, a doedd o jest ddim yn gweithio."
Dywedodd Mari fod y newid yma yn ei bywyd wedi cael effaith ar ei hyder.
'Mae'n waith 24/7'
Dydy Mari ddim ar ei phen ei hun wrth iddi deimlo fel hyn.
Mae arolwg newydd gan Rhwydwaith y Gymuned Ffermio (FCN) a Phrifysgol Caerwysg wedi ymchwilio i les ac iechyd menywod ym myd amaeth.
"Roedd y rhan fwyaf o'r ymatebwyr yn dweud bod byw ar fferm yn le delfrydol i fagu plant, i weithio gydag anifeiliaid ac i gael cysylltiad â natur ond roedd pethau negyddol hefyd," meddai Linda Jones, rheolwr cenedlaethol i'r FCN yng Nghymru.
"O ran iechyd meddwl, roedd 36.7% yn nodi eu bod yn profi lefel uchel o bryder, o'i gymharu â 26.1% o fenywod yn y boblogaeth gyffredinol."
Roedd cwsg hefyd yn bwnc a gafodd sylw.
"Roedd tipyn o wahaniaeth rhwng menywod sy'n byw ar fferm ac eraill, gyda 38.6% yn dweud bod eu cwsg yn eithaf gwael neu'n wael iawn, o'i gymharu â dim ond 28.2% o fenywod yn gyffredinol.
"Mae hyn yn awgrymu bod straen a phryder o bosibl yn treiddio i'w patrwm cysgu hefyd."

Linda Jones yw rheolwr cenedlaethol yr FCN yng Nghymru
Mae'r materion hyn hefyd yn rhai y mae Rhian Jones, mam 42 oed o Ruthun, wedi'u profi.
Fel Mari, penderfynodd adael ei swydd fel darlithydd er mwyn ymdopi'n well â'r pwysau sy'n dod tra'n wraig fferm.
"Mae'n anodd gadael eich gyrfa, ond wedyn mae gennych bethau eraill i fod yn ddiolchgar amdanynt ar y fferm.
"Dewis personol oedd o i mi.
"Dwi'n meddwl, pan fyddi di'n byw ar y fferm, ti yng nghanol y gwaith o hyd – does 'na ddim break ohono fe rili.
"Mae'n 24/7 ac mae'n rhaid i chi fod on call drwy'r amser."

Gadawodd Rhian ei swydd fel darlithydd i ganolbwyntio ar ei gwaith adref
Mae Rhian wedi byw a gweithio yn y byd amaeth gydol ei bywyd, ac mae wedi profi'n uniongyrchol yr heriau y mae menywod yn eu hwynebu wrth geisio cael parch a chydnabyddiaeth am eu gwaith.
"Mae'r byd amaeth weithiau yn gallu bod yn sexist," meddai.
"Dwi'm meddwl bod lot o ferched sy'n gweithio yn y diwydiant wedi dod ar draws yr agwedd yna - dynion yn meddwl bo' chi ddim yn 'neud dim byd ar y fferm.
"Does yna ddim tâl am lot o'r gwaith mae menywod yn 'neud ar y fferm. Dyw'r oriau 'na i neud y stwff ychwanegol ddim yn cael eu cyfri.
"I fi yn bersonol mae bod yn wraig fferm yn waith y dylid ei edmygu."

Mae Rhian wedi arallgyfeirio ar ei fferm, gan redeg tai gwyliau
Bydd Mari Llifon yn adlewyrchu'r neges hon, sy'n agos iawn at ei chalon, yn ei rôl newydd fel llysgennad y Sioe Fawr yn Llanelwedd yn 2027.
"Dwi yn gobeithio cael defnyddio y platfform i godi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl gwragedd fferm.
"Mae'n bwnc agos iawn i fy nghalon i - collais i ffrind oedd yn dioddef o iechyd meddwl felly mae'n bwnc andros o bwysig.
"A dwi yn gobeithio y gallai ddefnyddio fy rôl fel llysgennad i 'neud ychydig bach o wahaniaeth a chodi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl gwragedd fferm," ychwanegodd.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.