Lansio ymgyrch i 'adfer ac achub' capel Soar y Mynydd

Cafodd Capel Soar y Mynydd ei adeiladu yn 1822
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch newydd i adnewyddu adeilad, sy'n aml yn cael ei gyfeirio ato fel y capel mwyaf anghysbell yng Nghymru, wedi cael ei lansio ddydd Sul.
Gobaith y bartneriaeth 'Tua Soar' - rhwng aelodau Capel Soar y Mynydd ger Tregaron a chôr Merched Soar - ydy codi £50,000 erbyn terfyn y flwyddyn i "adfer ac achub" adeilad y capel.
Dywedon nhw mai'r gobaith ydy codi'r swm hwnnw "cyn edrych mewn i ffynonellau ariannu eraill".
Byddai'r gwaith yn cynnwys trwsio'r to, peintio tu allan a thu mewn i'r adeilad, trwsio'r tŷ capel a gwaith tirlunio.
Daw hynny'n dilyn nifer o stormydd dros y gaeaf, meddai'r bartneriaeth.

"Mae'n anhygoel faint o ymwelwyr sy'n ffeindio'r ffordd yma o bedwar ban byd," medd un o aelodau'r capel
Mae Capel Soar y Mynydd wedi'i leoli yng nghanol mynyddoedd Cambria, ger Tregaron yng Ngheredigion.
Cafodd ei adeiladu yn 1822 ac mae'n un o'r - os nad yr - unig gapel sy'n dal i gael ei weithredu heb drydan.
Mae'r ymgyrch yn cael ei lansio mewn gwasanaeth arbennig yno ddydd Sul, 10 Mai ac yn cael ei arwain gan gôr Merched Soar.

Gobaith y bartneriaeth 'Tua Soar' ydy codi £50,000 erbyn terfyn y flwyddyn
Un sydd wedi bod yn aelod o'r capel ers dros 30 mlynedd ydy Margaret Evans a hi ydy'r trysorydd ar hyn o bryd.
"Mae fy nghysylltiad teuluol yn mynd yn ôl i fy nghyndeidiau a bu fy hen dad-cu, Zacheus Williams, yn flaenor am dros hanner canrif.
"Rwyf fi a David y gŵr wedi bod yn aelodau ers dros 30 mlynedd ac erbyn hyn mae ein dwy ferch, Gillian a Heather, yn aelodau hefyd.
"Mae'n anhygoel faint o ymwelwyr sy'n ffeindio'r ffordd yma o bedwar ban byd ac mae gweld eu sylwadau yn y llyfr ymwelwyr yn rhoi modd i fyw i fi ac yn dangos pa mor arbennig yw'r capel," ychwanegodd Ms Evans.

Yn ôl arweinydd Merched Soar, does dim amheuaeth fod y capel yn "un o'r lleoliadau mwyaf hudol ac unigryw yng Nghymru"
Mae Merched Soar yn dathlu degawd o ganu eleni ac maent yn falch o gefnogi Capel Soar y Mynydd, yn ôl Carys Mai - arweinydd y côr.
"A ninnau'n dathlu carreg filltir arbennig eleni, roedden ni'n awyddus iawn i roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned.
"Does dim amheuaeth fod Capel Soar y Mynydd yn un o'r lleoliadau mwyaf hudol ac unigryw yng Nghymru ac felly ry'n ni'n falch iawn o lansio'r ymgyrch hon heddiw gydag aelodau'r capel ynghyd â'r cyfle i gynnal oedfa i agor tymor y Capel."
Ychwanegodd Ms Mai ei bod yn "gobeithio bydd y gymuned gyfan ac unrhyw un dros y byd sydd â chysylltiad â Soar yn cefnogi'r ymgyrch ac yn rhoi yn hael".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mai 2025

- Cyhoeddwyd15 Ebrill

- Cyhoeddwyd8 Mai 2022
