Naw cyngor 'yn gwrthod bron pob cais iawndal am dyllau ffordd'

Er bod tyllau yn y ffordd yn gallu creu trafferthion mawr i yrwyr, maen nhw'n gallu bod hyd yn oed yn fwy peryglus i feicwyr yn ôl RAC
- Cyhoeddwyd
Mae bron i hanner cynghorau Cymru'n gwrthod bron pob cais maen nhw'n ei dderbyn am iawndal ar gyfer difrod oherwydd tyllau yn y ffordd, yn ôl data diweddar.
Fe wnaeth Cyngor Sir Caerfyrddin wrthod dros 99% o geisiadau'n ymwneud â difrod i geir o dyllau ffordd yn 2024, yn ôl ffigyrau ddaeth i law grŵp moduro RAC.
Roedd wyth awdurdod lleol arall yng Nghymru hefyd wedi gwrthod dros 90% o geisiadau, gyda dim ond un – Cyngor Sir Wrecsam – yn talu mwyafrif y ceisiadau a gawsant.
Mae cais wedi cael ei roi i Gyngor Sir Caerfyrddin am ymateb.
'Cyflwr yr hewlydd ddim digon da'
Mae tyllau yn y ffordd yn gŵyn gyffredin i lawer o yrwyr, ac mae'n gallu arwain at filiau trwsio sylweddol neu hyd yn oed achosi anafiadau i rai teithwyr, beicwyr neu gerddwyr.
Dangosodd ffigyrau 2024 fod Cyngor Sir Gâr wedi derbyn 114 cais am iawndal oherwydd difrod o dyllau ffordd, ond dim ond wedi talu un o'r rheiny – gan olygu cyfradd gwrthod o 99.12%.
"Ni'n cael pobl yn dod mewn mwy neu lai bob wythnos o achos difrod gyda potholes," meddai Aled Jenkins, sy'n rhedeg garej ym Mhorthyrhyd ger Caerfyrddin.
"Ma' fe'n achosi lot o drwbl i geir, yn enwedig gyda'u suspensions nhw a phethe."
Yn ôl Amos Lawlor, perchennog garej yng Nghwmaman ger Rhydaman, mae gyrwyr yn llai parod bellach i hawlio iawndal er bod tyllau yn y ffordd yn parhau i beri trafferth i drigolion lleol.
"Ewch 'nôl pum, ddeng mlynedd a byddech chi'n 'neud cais a chael eich talu, ond nawr maen nhw'n rhoi stop ar hwnna," meddai.
Rhybudd dannedd a bras yn tynnu sylw at gyflwr ffordd
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2023
"Ond fi'n cael pobl yn dod mewn o hyd [oherwydd difrod tyllau ffordd]. Er mai just garej bach sydd gyda fi, mae 'na tua un bob wythnos.
"Oherwydd cyflwr yr hewlydd yw e, 'dyn nhw ddim yn cael eu cadw'n ddigon da. Gewch chi weld nawr ar ôl y rhew ni'n cael ar hyn o bryd, bydd 'na fwy o dyllau eto yn y ffordd."

Mae cynghorau eraill wnaeth wrthod bron pob cais yn cynnwys Sir Benfro (98%), Abertawe, Bro Morgannwg a Chonwy (97%).
Fe wnaeth Castell-nedd Port Talbot, Caerffili, Powys a Thorfaen hefyd wrthod dros 94% o geisiadau am iawndal.
Ar y llaw arall, fe dalodd Cyngor Wrecsam mewn dau draean o achosion (38/56), tra bod gan Sir y Fflint record o 50% (82/164).
Ni wnaeth pum awdurdod lleol - Blaenau Gwent, Ceredigion, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf and Ynys Môn – ddarparu data.
'Pergyl i'r rheiny ar ddwy olwyn'
Yn 2021 cafodd 1,066 o geisiadau iawndal eu gwneud am ddifrod o ganlyniad i dyllau ffordd, ymhlith y cynghorau Cymreig wnaeth ymateb.
Roedd y ffigwr hwnnw wedi codi o 26% erbyn 2024, i 1,347.
Sir Ddinbych a Sir Wrecsam oedd yr unig ddwy ardal welodd gwymp sylweddol yn nifer y ceisiadau yn ystod y tair blynedd.
Ond ar draws Cymru gyfan, fe wnaeth cyfradd y ceisiadau llwyddiannus ddisgyn o 25% i 17% dros yr un cyfnod.
Ar draws Prydain, roedd nifer y ceisiadau yn 2024 bron i ddwbl yr hyn a welwyd yn 2021, yn ôl yr RAC.
Ond dim ond 26% o geisiadau wnaeth arwain at iawndal, gyda'r bobl hynny'n derbyn cyfartaledd o £390 yr un.
Yn ôl yr RAC, mae bil arferol ar gyfer car teuluol sydd wedi cael difrod o dwll ffordd, sy'n waeth na phyncjar, oddeutu £590.
"Mae'n ymddangos bod gan gynghorau wahanol ffyrdd o fesur beth maen nhw'n ei ystyried fel twll ffordd," meddai pennaeth polisi RAC, Simon Williams.
"Yn aml mae'n rhaid iddyn nhw fod yn 4cm o ddyfnder, a lled penodol hefyd.
"Os 'dych chi'n taro un mae'n gallu achosi clec i'r car a difrod go iawn... nid dim ond i gerbydau, ond mae'n berygl ar gyfer diogelwch ffordd hefyd, yn enwedig i'r rheiny ar ddwy olwyn."
Ychwanegodd: "Gyda rhai cynghorau ddim yn ymateb i'n cais am ddata, mae'n bosib mai dim ond rhan o'r broblem 'dyn ni'n ei weld pan mae'n dod at geisiadau iawndal sydd wedi eu setlo.
"Ond ar nodyn positif, fe wnaeth cynghorau dderbyn ychydig yn llai o geisiadau iawndal am dyllau ffordd yn 2024 na chawson nhw'r flwyddyn gynt."