Crynodeb

  1. Diolch am ddilynwedi ei gyhoeddi 10:50 GMT 9 Ionawr

    Mae ein llif byw yn dod i ben am y tro, ond fe gewch chi ddiweddariadau cyson ar ein gwefan ac ar BBC Radio Cymru yn ystod y dydd.

    Diolch am ddilyn.

    LlandrindodFfynhonnell y llun, WeatherWatchers/Rustytwig weather
  2. Eira yn rhoi hwb i fusnes lleolwedi ei gyhoeddi 10:42 GMT 9 Ionawr

    Aled Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Aled Jones

    Mae’r tywydd gaeafol wedi dod â busnes i gigydd lleol wrth i bobl benderfynu peidio teithio’n bell i siopa.

    Dywedodd Aled Jones, sy’n gweithio mewn cigydd yn Llanfyllin, Powys, ei fod wedi gallu mynd i’r gwaith yr un amser a’r arfer y bore ‘ma a bod yr eira yn hwb i’r busnes.

    “Mae’r tywydd wedi helpu ni gan fod pobl yn aros yn lleol i brynu pethe, gan bo’ nhw methu mynd i’r trefydd mawr i gael bwyd o’r archfarchnadoedd,” meddai.

    “‘Dyn ni’n gweld e’n aml pan mae’r tywydd yn mynd yn ddrwg, dyw pobl ddim yn ffansïo trafeilio.

    “O'n i’n disgwyl gweld chwaneg o eira bore ‘ma bendant oherwydd pawb yn panicio os leciwch chi… doedd dim llawer fan hyn.”

  3. Barod am saib o'r eira...?wedi ei gyhoeddi 10:33 GMT 9 Ionawr

    Mainc gydag eiraFfynhonnell y llun, BBC Weather Watchers/Ruth Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Yr olygfa yn Llandegla, Sir Ddinbych, bore 'ma

  4. Diweddaraf ar y ffyrddwedi ei gyhoeddi 10:24 GMT 9 Ionawr

    Mae’r eira yn effeithio nifer o lonydd ar draws Cymru – dyma’r diweddaraf:

    A542 - Bwlch-yr-Oernant – dal ar gau.

    A483 - ffordd osgoi’r Drenewydd rhwng Y Drenewydd a'r Groes – ffordd ar gau gan fod coeden wedi disgyn.

    A4107 - mae'r Stryd Fawr ger Nantymoel bellach ar agor.

    A458 - ger Mallwyd - traffig yn araf i’r ddwy gyfeiriad oherwydd eira.

    B4560 - ger Garnlydan - wedi cau oherwydd eira.

    B4338 - Talgarreg i dafarn Cefn Hafod. Mae’r ffordd ar agor ond amodau gyrru yn anodd oherwydd eira.

    Ffordd Rhyddwen i Ffordd Clydach wedi cau oherwydd eira.

    B4355 ger Rhos-Y-Meirch ar gau oherwydd eira.

    A5 - traffig yn araf ar y ffordd rhwng Braichmelyn a’r A4086 oherwydd eira.

  5. Bryniau Clwyd yn wynwedi ei gyhoeddi 10:17 GMT 9 Ionawr

    Diolch i Tudur Aled Davies am rannu'r llun yma o Ddyffryn Clwyd y bore 'ma.

    Er bod yr eira wedi dadmer ddoe, mae'r bryniau'n wyn eto fore Gwener.

    BryniauFfynhonnell y llun, Tudur Davies
  6. Rhybudd newydd am rewwedi ei gyhoeddi 10:13 GMT 9 Ionawr

    Er bod sawl rhybudd tywydd wedi dod i ben erbyn hyn, mae'r Swyddfa Dywydd newydd gyhoeddi rhybudd newydd am rew, dolen allanol.

    Mae'r rhybudd melyn yn dod i rym am 12:00 am 24 awr, ac yn berthnasol i 19 o siroedd Cymru.

    Mae perygl y bydd eira'n dechrau dadmer ac yna'n rhewi eto gan greu rhew ar balmentydd a ffyrdd.

    Map tywydd
  7. Rhai yn ddigon hapus yn yr eira!wedi ei gyhoeddi 10:05 GMT 9 Ionawr

    Ci yn yr eiraFfynhonnell y llun, WeatherWatchers/Butterfly
  8. Colli cyflenwad trydan cyn diwedd The Traitorswedi ei gyhoeddi 09:53 GMT 9 Ionawr

    Hysbyseb i The Traitors

    Mae tua 200 o dai yn ardal Croes-lan yng Ngheredigion wedi bod heb drydan ers neithiwr pan gollwyd y cyflenwad ar foment cyffrous iawn ar y teledu…

    Dywedodd Diana Davies, sy’n byw yn y pentref, nad oedd ganddi drydan bore ‘ma wedi i’r cyflenwad ddiffodd ychydig cyn 21:00 neithiwr.

    “Roedd hi just cyn i Traitors orffen felly allwch chi ddychmygu fel oedd hi yn ein tŷ ni neithiwr gyda dwy ferch yn eu harddegau,” meddai ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru.

    “Wedd hi yn y cyfnod eitha’ cyffrous yn y rhaglen ac aeth y trydan bant felly oedden nhw ddim yn or hapus.

    “Roedd y trydan yn mynd bant nôl a mlaen, nôl a mlaen ac o’n i’n edrych lan tuag at y brif hewl sy’n mynd trwy Croes-lan, o Ffostrasol i Landysul, ac roedd rhywbeth yn digwydd… roedd y gwifrau trydan yn cwrdd â’i gilydd neu rywbeth ac roedd fflachiadau o olau glas.”

    Mae Ms Davies yn gweithio o gartref bore 'ma ac wedi bod yn defnyddio ei ffôn i gael y we ond wedi cael ar ddeall y bod y trydan yn debygol o ddychwelyd yn fuan.

    Ychwanegodd bod mwy o eira ar y ffyrdd bore ‘ma nag oedd hi wedi ei ddisgwyl ond bod traffig yn symud.

  9. Rhybuddion tywydd - y diweddarafwedi ei gyhoeddi 09:45 GMT 9 Ionawr

    Mae rhybudd melyn am eira yn parhau ar gyfer y rhan fwyaf o Gymru tan 12:00 heddiw, heblaw am Ynys Môn, Abertawe a Bro Morgannwg.

    Mae rhybudd melyn am law ar gyfer rhannau o'r de-orllewin yn dod i ben am 10:00.

    Ond mae’r rhybudd oren am eira mewn rhai ardaloedd o Gymru a rhybudd melyn am wyntoedd cryfion ar gyfer rhannau o Sir Benfro, Ceredigion a'r Gŵyr bellach wedi dod i ben.

    Rhybuddion tywydd
  10. Mellt, taranau ac eira yn Sir Benfrowedi ei gyhoeddi 09:37 GMT 9 Ionawr

    Cafodd rhywbeth prin iawn ei weld yn Sir Benfro neithiwr wrth i storm eira, neu thundersnow, daro'r ardal.

    Mae'n ffenomenon prin iawn sy'n gallu achosi eira trwm iawn, a mellt sy'n ymddangos yn fwy llachar oherwydd yr adlewyrchiad oddi ar yr eira.

    Gan fod y plu eira yn yr awyr, mae fel arfer yn distewi sŵn y daran hefyd, felly mae'r fellten yn oleuach a'r daran yn dawelach.

    Diolch i Mathew Parry am y fideo.

  11. Cynghorydd Sir yn 'ddiolchgar' i'r gymuned yn ardal Crymychwedi ei gyhoeddi 09:31 GMT 9 Ionawr

    Cyngor Sir Penfro

    Ychwanegodd Shon Rees bod y gymuned wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd.

    "Fi'n credu nath y cyngor y gorau gallen nhw yn yr amodau yma, roedd rhaid blaenoriaethu'r ffyrdd mwyaf yn y sir - fe wnaethon nhw hynny...

    "Fel cynghorydd sir mi fydd pobl ar y ffôn heddiw wrth gwrs, ond fin credu bod y cyngor wedi gwneud joban dda. Mae'r amodau wedi bod yn fwy anodd gan fod y graean yn dod o ganol y sir lawr yn Templeton yn hytrach na Llanfyrnach, a ry' ni wedi gweld yr effaith 'ma o hwnnw.

    "Ond ar y cyfan dylai'r cyngor fod yn eithaf prowd, a dim ddim ond y cyngor, yr holl gymuned i fod yn onest.

    "Mae lot o ffermwyr yn dod i dynnu lorïau lan y ffyrdd ac ati - ac mae'r gymuned i gyd wedi dod at ei gilydd. Fel cynghorydd sir i'r ardal 'ma dwi'n ddiolchgar iawn i bawb am dynnu at ei gilydd."

  12. Pobl wedi cael 'llond bol' o'r eira erbyn hynwedi ei gyhoeddi 09:23 GMT 9 Ionawr

    Ar Dros Frecwast fore Gwener, dywedodd Shon Rees o gwmni bysus Midway Motors yng Nghrymych - sydd hefyd yn gynghorydd sir yn ward Crymych a Mynachlog Ddu - fod yr amodau ar y ffyrdd yn dal i greu trafferthion.

    "Mae 'di troi'n gas dros nos, gawsom ni'r tywydd yn troi yma pnawn ddoe a daeth hi lawr yn drwm ofnadwy rhwng 17:00 a 21:00.

    "Roedd ffyrdd rownd ardal Crymych a gogledd Sir Benfro yn ofnadwy - trwch o eira, ond eira trwm gwlyb a oedd yn 'neud yr amodau gyrru yn ofnadwy o wael.

    "Diolch bod y cyngor sir wedi bod mas yn clirio'r ffordd ac ati ac yn ceisio gwneud eu gorau, ond dal, mae heolydd cefn gwlad yn dal i fod yn ofnadwy o beryglus.

    "Ni ddim ond just wedi dod dros yr amodau gwael dydd Llun... ma' pawb yn joio diwrnod bach o eira ond dwi'n meddwl fod pobl yn dechrau cael llond bol nawr!"

    Eira yn Tegryn, Sir Benfro nos IauFfynhonnell y llun, Jono / BBC Weather Watchers
  13. Mwy heb drydan dros Gymruwedi ei gyhoeddi 09:15 GMT 9 Ionawr

    Mae nifer y cartrefi heb drydan wedi bod yn codi'n araf yn ystod yr awr ddiwethaf, gyda dros 650 o gwsmeriaid heb drydan ar rwydwaith y Grid Cenedlaethol.

    Mae SP Energy, sydd yng ngofal y gogledd a'r canolbarth yn dal i ddangos bod digwyddiadau yn ardaloedd Llanfyllin, Y Trallwng, Llangurig a Wrecsam.

  14. Llansilin dan flanced o eirawedi ei gyhoeddi 09:08 GMT 9 Ionawr

    Er bod y tywydd yn achosi trafferthion i lawer, roedd hi'n olygfa hardd iawn yn Llansilin, Powys y bore 'ma.

    Anfonwch eich lluniau atom ni drwy ebostio [email protected]

    LlansilinFfynhonnell y llun, WeatherWatchers/Malc Pentre
  15. Rhybudd am berygl cwymp eira ar Yr Wyddfawedi ei gyhoeddi 08:55 GMT 9 Ionawr

    Mae Tîm Achub Mynydd Llanberis wedi rhybuddio cerddwyr i fod yn ofalus ar rai o lwybrau mwyaf poblogaidd Yr Wyddfa rhag cwympiadau eira.

    Gyda Storm Goretti yn dod â mwy o eira ffres ar y mynyddoedd, mae rhai llwybrau yn anodd i’w gweld ac mae ardaloedd o eira ansefydlog wedi datblygu.

    Gall hyn arwain at bobl yn syrthio wrth sefyll ar rannau ansefydlog ac mae’n bosib i gwympiadau (avalanches) ddigwydd.

    Eira ar yr WyddfaFfynhonnell y llun, Tîm Achub Mynydd Llanberis
    Disgrifiad o’r llun,

    Y sefyllfa ar lwybr PYG i fyny'r Wyddfa

    Dywedodd Elfyn Jones, gwirfoddolwr yn Nhîm Achub Mynydd Llanberis: “Mae’r tywydd yn newid yn gyflym, ac mae rhannau uchaf Llwybr Llanberis a’r rheilffordd yn arbennig o beryglus.

    “Mae’r eira wedi’i gywasgu ac yn rhewllyd, gan olygu fod cramponau a bwyell rew yn hanfodol, ac mae’n anodd gweld dyfnder y llethrau mawr o eira ar hyd y rheilffordd a gallai hynny arwain at syrthiadau difrifol.

    "Mae’r rhain yn sefyllfaoedd gaeafol cymhleth lle mae profiad a barn gadarn yn allweddol.”

    Mae’r tîm achub yn pwysleisio bod angen asesu’r sefyllfa a’r rhagolygon ac i bobl ystyried pa mor hyderus a phrofiadol ydyn nhw cyn mentro.

  16. A470 yn glir yn Storey Armswedi ei gyhoeddi 08:51 GMT 9 Ionawr

    Mae'r A470 ger Storey Arms yn glir ar hyn o bryd, er bod eira ar ochrau'r ffordd.

    A470 Storey Arms
  17. Cynghorau yn gorfod 'gwylio a bod yn barod i neidio'wedi ei gyhoeddi 08:41 GMT 9 Ionawr

    Dros Frecwast
    BBC Radio Cymru

    Dywedodd y Cynghorydd Catrin MS Davies ar Dros Frecwast fod Cyngor Sir Ceredigion wedi bod yn paratoi ers rhai dyddiau.

    "Yn ffodus, ac yn anffodus, o'n ni wedi gweld eira dros y penwythnos sydd wedi bod, ond cawsom ni ddiwrnod neu ddau yn y canol i ail-baratoi.

    "Roedd angen sicrhau fod pob bin grit neu swnd wedi ail-lenwi - o'dd hynny'n gallu digwydd dydd Mawrth a dydd Mercher ac roedd staff y ffyrdd allan yn ceisio sicrhau bod y prif ffyrdd yn ddiogel.

    "Ac wedyn dim ond lot o drafod... chi just yn gorfod gwylio a bod yn barod i neud y penderfyniadau.

    "Ma' rhai pethau ni just methu neud dim byd amdanyn nhw... Ni methu neud dim byd am y trydan ond ry' ni yn gallu helpu os oes pobl mewn trafferth neu bobl hŷn sydd angen gofal.

    "Ry' ni'n rhoi rhybuddion allan ac yn gofyn i bobl fod yn glên fel cymdogion.

    "Gwylio a bod yn barod i neidio yw e."

  18. 'Amhosib rhagweld' effaith stormwedi ei gyhoeddi 08:37 GMT 9 Ionawr

    Cyngor Ceredigion

    Mae'r Cynghorydd Catrin MS Davies o Gyngor Sir Ceredigion yn dweud bod y sefyllfa yno yn well na'r disgwyl.

    "Mae'n well nag oedden ni wedi ofni i ddweud y gwir... Mi oedd yna bryder y byddai nifer fawr o ysgolion yn gorfod cau, ond yn ffodus dim ond tair ysgol sydd ar gau yn y sir.

    "Mae'r traffig i'w weld yn golew ar y prif ffyrdd - mae 'na lai o draffig ond mae o' i'w weld yn mynd yn iawn.

    "Mae'r criwiau wedi bod allan dros nos a drwy dydd ddoe er mwyn sicrhau bod y prif ffyrdd yn glir neu fod modd teithio arnyn nhw gyda gofal.

    "...Dyna'r broblem gyda'r stormydd 'ma, dydyn ni ddim yn gwybod be sy'n mynd i ddod, mae'n amhosib rhagweld."

  19. Diweddariad trenau gan Drafnidiaeth Cymruwedi ei gyhoeddi 08:32 GMT 9 Ionawr

    Trafnidiaeth Cymru

    Mae Trafnidiaeth Cymru, dolen allanol wedi diweddaru'r wybodaeth am ba wasanaethau trên sy'n rhedeg heddiw:

    Dydd Gwener 9fed Ionawr, ni fydd unrhyw drenau'n gallu gweithredu ar y llwybrau canlynol:

    • Cyffordd Llandudno i Landudno - wedi'i hatal.
    • Cyffordd Llandudno i Flaenau Ffestiniog - wedi'i hatal.
    • Wrecsam i Bidston - wedi'i hatal.
    • Gwasanaeth Craven Arms i Abertawe (trwy Linell Calon Cymru) - wedi'i hatal
    • Gwasanaethau i'r gorllewin o Gaerfyrddin - wedi'u hatal
    • Gwasanaethau Maesteg ac Glynebwy - wedi'u hatal
    • Gwasanaethau Henffordd i Amwythig - wedi'u hatal.
    • Amwythig i Birmingham Rhyngwladol - wedi'u hatal.
    • Amwythig i Aberystwyth - wedi'u hatal.

    Ar ddydd Gwener 9 Ionawr, bydd amserlen fyrrach yn gweithredu, gyda'r gwasanaethau canlynol yn gweithredu ar y llwybrau yma:

    • 1 trên yr awr Caerfyrddin – Caerdydd Canolog
    • 1 trên yr awr Amwythig – Caergybi
    • 1 trên bob dwy awr ar y gwasanaeth lleol o Amwythig i Grewe
    • 1 trên yr awr Caer – Manceinion

    Oherwydd amodau gyrru gwael a chau ffyrdd lleol, ni fydd unrhyw gludiant ffordd yn cael ei ddarparu.

    Mae gwasanaethau bysiau lleol hefyd yn cael eu heffeithio. Gwiriwch eich taith cyn teithio.

  20. Sawl gohebydd allan y bore 'mawedi ei gyhoeddi 08:27 GMT 9 Ionawr

    Mae'r tywydd gaeafol wedi denu sawl gohebydd newyddion allan i ardal Merthyr Tudful y bore 'ma.

    Gohebwyr