Crynodeb

  1. Diolch am eich cwmni - sawl maniffesto i ddod!wedi ei gyhoeddi 13:19 GMT 3 Mawrth

    BBC Cymru Fyw

    A dyna ni mae'r blaid gyntaf yng Nghymru - y Ceidwadwyr - wedi cyhoeddi eu maniffesto ar gyfer Etholiad y Senedd 2026.

    Yn ystod y diwrnodau a'r wythnosau nesaf bydd y pleidiau eraill yng Nghymru yn cyhoeddi eu haddewidion - a bydd y manylion ar ein llif byw.

    Diolch am eich cwmni heddiw - mae prif straeon y dydd ar wefan Cymru Fyw.

    Hwyl am y tro.

  2. Elliw Gwawr: 'Gwario arian fel petai ganddyn nhw bocedi diddiwedd'wedi ei gyhoeddi 13:18 GMT 3 Mawrth

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Darren MillarFfynhonnell y llun, Athena Pictures
    Disgrifiad o’r llun,

    Darren Millar yn cyhoeddi'r maniffesto

    Mae yna lot o bolisïau yma fydd yn boblogaidd gyda’r cyhoedd.

    O dorri treth incwm a threth trafodiadau tir i ymestyn gofal plant, bysiau am ddim i bobl ifanc a mwy o gymorth ariannol i fusnesau a help i fyfyrwyr gyda ffioedd dysgu.

    Mae Darren Millar yn dweud bod hwn wedi'i brisio - yn ddifrifol ac yn gredadwy. Ond maen nhw’n gwario arian fel petai ganddyn nhw bocedi diddiwedd.

    I mi dyw hwn ddim yn teimlo fel dogfen ar gyfer llywodraethu - yn hytrach yn rhestr o ddymuniadau ar gyfer trafodaethau clymblaid posib wedi’r etholiad.

    Y gynulleidfa yn cymeradwy wedi i'r lansiad ddod i derfynFfynhonnell y llun, Athena Pictures
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynulleidfa yn cymeradwyo wedi i'r lansiad ddod i ben

  3. Pa faterion sy'n eich poeni chi? Cyfle i chi ddweud eich dweudwedi ei gyhoeddi 13:17 GMT 3 Mawrth

    Bydd Cymru'n pleidleisio ar 7 Mai 2026 i ethol 96 o wleidyddion i Senedd fydd â mwy o aelodau. Mae'r BBC yn rhoi cyfle i chi awgrymu straeon yr hoffech i Newyddion BBC Cymru fwrw golwg arnyn nhw cyn yr etholiad.

    Beth sy'n wirioneddol bwysig i chi? Pa bwnc a fydd yn dylanwadu ar eich pleidlais? Pa ddigwyddiadau yn eich bywyd y mae angen i wleidyddion posib wybod amdanynt?

    Bydd Dy Lais yn rhoi lle canolog i'ch straeon a'ch cwestiynau yn ein darllediadau etholiadol.

    Cliciwch y botwm isod i gyflwyno'ch syniad, a gallai gael ei gynnwys ar raglen deledu, radio, gwasanaethau ar-lein y BBC, BBC Sounds ac ar gyfryngau cymdeithasol.

    Dolen i gyflwyno syniad

    logo dy lais
  4. Cydweithio â phleidiau eraill?wedi ei gyhoeddi 13:15 GMT 3 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Yn ystod ei araith fe wnaeth Darren Millar ailadrodd ei neges sef mai ei unig nod yw cael cynifer o aelodau Ceidwadol i mewn i’r Senedd nesaf ag sy’n bosib.

    Ychwanegodd nad oedd ganddo “diddordeb mewn trafod” gyda phleidiau eraill, er yn syth wedyn dywedodd ei fod fwy neu lai’n sicr y bydd angen rhyw fath o gydweithio, oherwydd system newydd etholiadol gyfrannol D’Hondt.

    ReformFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Doedd Darren Millar ddim am gadarnhau na diystyru'r posibilrwydd o weithio gyda phleidiau eraill yn dilyn yr etholiad

  5. Sut gafodd yr etholaethau newydd eu llunio?wedi ei gyhoeddi 13:10 GMT 3 Mawrth

    Cafodd y map newydd ei lunio gan Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

    Oherwydd diffyg amser cyn yr etholiad nesaf, cafodd y comisiwn gyfarwyddyd i ddefnyddio'r 32 etholaeth a gafodd eu defnyddio yn yr etholiad cyffredinol i San Steffan y llynedd fel sail i'w gwaith.

    Aeth y comisiwn ati wedyn i baru'r etholaethau hynny er mwyn creu 16 etholaeth newydd.

    Roedd yn rhaid i'r comisiwn gyplu etholaethau oedd yn "cydgyffwrdd", ac fe benderfynodd y comisiwn bod hyn yn golygu bod yn rhaid cael cysylltiad ffordd uniongyrchol rhyngddynt.

    Bydd y comisiwn yn gallu edrych eto ar y map yn dilyn yr etholiad, ac ystyried newidiadau ar gyfer etholiad 2030.

    SeneddFfynhonnell y llun, Senedd Cymru
  6. Pwy sy'n cael pleidleisio yn yr etholiad?wedi ei gyhoeddi 13:08 GMT 3 Mawrth

    Er mwyn gallu pleidlieisio mae'n rhaid i chi:

    • fod yn 16 oed neu'n hŷn ar ddiwrnod yr Etholiad (y diwrnod pleidleisio)
    • bod wedi cofrestru i bleidleisio
    • bod yn ddinesydd cymwys o Brydain, Iwerddon neu'r Gymanwlad, yn ddinesydd o'r Undeb Ewropeaidd, neu ddinesydd tramor cymwys
    • byw yng Nghymru
    • bod â hawl gyfreithiol i bleidleisio
    pleidlaisFfynhonnell y llun, Getty Images
  7. 'Addewidion mawr' ar addysg ond a fydd pobl ifanc yn eu credu?wedi ei gyhoeddi 13:03 GMT 3 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Mae addewidion mawr gan y Ceidwadwyr ar gyfer addysg uwch, £1,000 yn llai mewn ffioedd dysgu i bobl sy'n astudio cyrsiau STEM.

    Hefyd, mae Darren Millar yn ymrwymo i ad-dalu myfyrwyr sy’n graddio mewn meddygaeth, nyrsio neu ddeintyddiaeth, ar yr amod eu bod yn gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru am o leiaf bum mlynedd.

    Mae Darren Millar yn dweud wrth fyfyrwyr “os ydych yn ymrwymo i Gymru, mi fyddwn ni’n ymrwymo i chi”.

    Ond i blaid 'nath dreblu’r ffioedd i fyfyrwyr yn Lloegr, tybed a fydd pobl ifanc Cymru yn credu’r Ceidwadwyr Cymreig?

    AberystwythFfynhonnell y llun, Getty Images
  8. Dadansoddiad Elliw Gwawr yn fyw o Fae Caerdyddwedi ei gyhoeddi 13:02 GMT 3 Mawrth

    Dyma argraffiadau gohebydd gwleidyddol y BBC, Elliw Gwawr, wedi i'r Ceidwadwyr Cymreig lansio eu maniffesto ym Mae Caerdydd.

  9. Datgan 'argyfwng iechyd' cenedlaetholwedi ei gyhoeddi 12:59 GMT 3 Mawrth

    Owain Clarke
    Gohebydd iechyd BBC Cymru

    Cafodd nifer o gynigion etholiadol iechyd y Ceidwadwyr yng Nghymru eu datgelu cyn cyhoeddi'r maniffesto cyflawn.

    Un o'r penawdau yw y byddai'r blaid, o gael ei hethol yn datgan "argyfwng iechyd" cenedlaethol.

    Mae hyn yn dilyn camau tebyg gan ddau gyngor yn y gogledd - Sir Ddinbych a Chonwy - i ymateb i'r hyn maen nhw'n ystyried yn ffaeleddau'r gwasanaeth iechyd yn lleol.

    Ond mae'n aneglur i mi beth fyddai datgan "argyfwng iechyd" yn ei olygu yn ymarferol.

    Mae'r blaid hefyd yn addo ymateb "fel yn ystod Covid" i drwsio'r gwasanaeth iechyd - ond y gwir yw bod nifer o'r heriau presennol e.e. rhestrau aros hir wedi tyfu'n aruthrol o ganlyniad i'r ymateb yn ystod y pandemig - pryd cafodd miloedd o driniaethau eu gohirio i flaenoriaethu gofal brys.

    Mae undebau sy'n cynrychioli meddygon a nyrsys wedi rhoi croeso gofalus i'r cynllun allai weld gweithwyr ychwanegol - fel staff sydd wedi ymddeol - ar gael i fyrddau iechyd "pan fo'r galw ar ei uchaf".

    Byddai nifer hefyd yn cytuno fod angen i'r gwasanaeth iechyd wneud mwy i fanteisio ar botensial technoleg fel Deallusrwydd Artiffisial (AI) lle bo hynny'n ddiogel.

    Ond pan gafodd yr addewid i ystyried cyflwyno dirwyon i bobl am fethu apwyntiadau meddygol ei gynnig gan y blaid rai blynyddoedd yn ôl - fe gafodd y syniad ei feirniadu gan grwpiau sy’n cynrychioli meddygon teulu.

    Eu dadl nhw oedd y byddai dirwyon o'r fath yn targedu'r cleifion mwyaf bregus.

    iechydFfynhonnell y llun, Getty Images
  10. Badenoch y 'Prif Weinidog nesaf' yn ôl Millarwedi ei gyhoeddi 12:54 GMT 3 Mawrth

    Rhys Owen
    Gohebydd gwleidyddol Golwg

    Fe wnaeth Darren Millar agor ei araith drwy ddisgrifio Kemi Badenoch fel “ased gwleidyddol a fydd y Prif Weinidog nesaf”.

    Er y cyffro yn ei lais, mae unrhyw obaith i Kemi Badenoch ennill yr etholiad cyffredinol nesaf yn ddibynnol ar ddymchwel cefnogaeth i Reform UK.

    Bydd y canlyniad yng Nghymru ym mis Mai yn arwydd os yw'r Ceidwadwyr yn gallu adfer peth o'r gefnogaeth y maen nhw wedi ei cholli.

    Cawn weld os mae’r polisïau a gyhoeddwyd heddiw yn cychwyn y broses hon.

    MillarFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Darren Millar gyda arweinydd y Ceidwadwyr, Kemi Badenoch

  11. Arolygon barn yn darogan newyddion drwgwedi ei gyhoeddi 12:52 GMT 3 Mawrth

    Mae'r Ceidwadwyr wedi perfformio yn wael mewn arolygon barn diweddar gyda rhai yn awgrymu y gallen nhw ddod yn bedwerydd yn yr etholiad.

    Enillon nhw 16 sedd yn yr etholiad diwethaf yn 2021, gan ei gwneud yr ail blaid fwyaf ar y pryd, ond mae nhw wedi colli Aelodau o'r Senedd ers hynny.

    Maen nhw hefyd wedi colli aelodau o staff i Reform.

  12. Addysg uwch - cymhelliad newydd i bobl ifanc aros yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 12:46 GMT 3 Mawrth

    Bethan Lewis
    Gohebydd Addysg a Theulu BBC Cymru

    Mae cyllid myfyrwyr – yn enwedig ad-dalu benthyciadau – wedi bod yn bwnc llosg yn ddiweddar yn sgil cynlluniau Llywodraeth y Deyrnas Unedig i newid y drefn i fyfyrwyr Lloegr.

    Mae’r Ceidwadwyr Cymreig yn cynnig codi llai ar fyfyrwyr i astudio pynciau penodol ac yn dweud y bydden nhw’n ad-dalu ffioedd y rhai sy’n astudio yng Nghymru ac yn aros yn y wlad i weithio yn y gwasanaeth iechyd neu ysgolion.

    Mae’n siŵr y byddai prifysgolion yn chwilio am sicrwydd na fyddan nhw’n colli unrhyw gyllid yn sgil torri ffioedd rhai myfyrwyr.

    Ond mae’n bosib byddai croeso yn y byd addysg uwch i gymhelliad i bobl ifanc aros yng Nghymru i hyfforddi fel meddygon neu athrawon.

    Gobaith y Ceidwadwyr yw y byddai hynny hefyd yn helpu i ateb y broblem recriwtio sylweddol mae ysgolion yn wynebu.

    myfyrwyrFfynhonnell y llun, PA
  13. Torri treth incwm yng Nghymru?wedi ei gyhoeddi 12:42 GMT 3 Mawrth

    George Herd
    BBC News Verify

    Mae'r maniffesto yn addo lleihau cyfradd sylfaenol treth incwm yng Nghymru o un geiniog os bydd y Torïaid yn ennill yr etholiad - gan roi £450 y flwyddyn yn ôl i deuluoedd sy'n gweithio.

    Felly sut mae hynny'n gweithio?

    Yng Nghymru, mae bron i 90% o dalwyr treth incwm ar y gyfradd sylfaenol gan eu bod yn ennill llai na £50,271 - y trothwy a gafodd ei osod gan Lywodraeth y DU.

    Caiff y refeniw treth a gynhyrchir gan y rhai sy'n talu ei rannu rhwng Trysorlys y DU a choffrau Llywodraeth Cymru.

    Ar hyn o bryd, ar gyfer pob £1 sy'n cael ei dalu gan drethdalwyr cyfradd sylfaenol yng Nghymru, mae 10c yn mynd i San Steffan, a 10c yn mynd i Fae Caerdydd. Er hyn, fe all gwleidyddion yn y Senedd ofyn am fwy - neu lai - pe baen nhw eisiau.

    Byddai cynyddu'r elfen Gymreig o'r dreth incwm ar gyfer trethdalwyr cyfradd sylfaenol o 1c y flwyddyn dreth nesaf, yn golygu £311m yn ychwanegol i Lywodraeth Cymru i wario fel y maen nhw'n ei ddymuno.

    Yn yr un modd, byddai toriad o 1c hefyd yn gweld swm y dreth incwm Cymreig yn gostwng yr un maint - gan arbed i'r rhai sy'n talu'r gyfradd sylfaenol tua £220 ar gyfartaledd yn y flwyddyn gyntaf - neu bron i £450 y flwyddyn - addewid y Ceidwadwyr Cymreig ar gyfer teulu lle mae dau oedolyn yn gweithio.

    Ond o dan y cytundebau rhwng y DU a Llywodraeth Cymru, mae'r baich o gynyddu neu leihau trethi yng Nghymru yn disgyn ar y senedd ddatganoledig.

    Bydd torri 1c o gyfraddau Cymru yn golygu mwy na £300m yn llai mewn treth incwm i Lywodraeth Cymru - ac ni fydd Llywodraeth y DU yn gwneud fyny am y diffyg hwnnw yn y grant bloc sy'n cael ei roi i Gymru.

    Felly, er y byddai gan drethdalwyr ychydig o arian ychwanegol yn y banc, byddai llai o arian yn gyffredinol yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

    Llun arianFfynhonnell y llun, Getty Images
  14. Teuluoedd cyffredin sy'n gweithio i arbed £450 y flwyddynwedi ei gyhoeddi 12:37 GMT 3 Mawrth

    Ymhlith addewidion y Ceidwadwyr mae torri ceiniog oddi ar gyfradd sylfaenol treth incwm.

    Bydd hynny yn arbed £450 y flwyddyn i deuluoedd cyffredin sy'n gweithio, medd Darren Millar.

    arianFfynhonnell y llun, Getty Images
  15. Lluniau o lansiad maniffesto y Ceidwadwyr Cymreig ym Mae Caerdyddwedi ei gyhoeddi 12:32 GMT 3 Mawrth

    Darren Millar
    Disgrifiad o’r llun,

    Darren Millar yn cyflwyno ei araith

    Natasha Asghar AS
    Disgrifiad o’r llun,

    Natasha Asghar AS yn cyflwyno Darren Millar

    Y gynulleidfa yn y lansiad
    Disgrifiad o’r llun,

    Y gynulleidfa yn y lansiad yng Ngwesty Dewi Sant ym Mae Caerdydd

    Y maniffesto
    Disgrifiad o’r llun,

    Clawr llyfryn maniffesto y Ceidwadwyr Cymreig

  16. 16 etholaeth - y rhestr yn llawnwedi ei gyhoeddi 12:28 GMT 3 Mawrth

    Mae rhai o'r etholaethau newydd yn anferth, gyda Gwynedd Maldwyn yn ymestyn o ben pellaf Llŷn yr holl ffordd i'r ffin â Lloegr.

    Dyma'r rhestr yn llawn:

    • Bangor Conwy Môn
    • Clwyd
    • Fflint Wrecsam
    • Gwynedd Maldwyn
    • Ceredigion Penfro
    • Sir Gaerfyrddin
    • Gŵyr Abertawe
    • Brycheiniog Tawe Nedd
    • Afan Ogwr Rhondda
    • Pontypridd Cynon Merthyr
    • Blaenau Gwent Caerffili Rhymni
    • Sir Fynwy Torfaen
    • Casnewydd Islwyn
    • Caerdydd Penarth
    • Caerdydd Ffynnon Taf
    • Pen-y-bont Bro Morgannwg
  17. 16 etholaeth - chwe sedd gan bob etholaethwedi ei gyhoeddi 12:23 GMT 3 Mawrth

    • Bydd Cymru yn cael ei rhannu yn 16 ardal ar gyfer etholiad 2026, sef yr etholaethau
    • Bydd gan bob etholaeth chwe sedd yn y Senedd, felly bydd chwe Aelod yn cael eu hethol ym mhob ardal
    • Bydd y pleidiau gwleidyddol yn rhestru hyd at wyth ymgeisydd ar gyfer pob etholaeth. Gall ymgeiswyr annibynnol hefyd sefyll yn yr etholiad
    • Fe fyddwch yn pleidleisio dros un blaid, neu un ymgeisydd annibynnol
    • Mae'r seddi'n cael eu dyrannu ar sail cyfran y pleidleisiau y mae pob plaid neu ymgeisydd annibynnol yn ei gael
    • Er enghraifft, os bydd plaid yn ennill tair sedd, bydd y tri pherson uchaf ar eu rhestr yn cael eu hethol i'r seddi hynny
    • Bydd 96 o Aelodau yn cael eu hethol i'r Senedd
    etholaethau
  18. Cofio Awdurdod Datblygu Cymru?wedi ei gyhoeddi 12:19 GMT 3 Mawrth

    Wrth gyflwyno'r maniffesto dywedodd Darren Millar y byddai'n atgyfodi Asiantaeth Datblygu Cymru.

    Cwango oedd Awdurdod Datblygu Cymru.

    Fe'i sefydlwyd yn 1976 gyda'r nod o achub economi Cymru drwy gefnogi datblygiad busnes a buddsoddiad yng Nghymru, clirio tir diffaith ac annog twf busnesau lleol.

    Cafodd yr Awdurdod ei sefydlu o dan Ddeddf Awdurdod Datblygu Cymru gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar y pryd John Morris, AS Aberafan.

    Cafodd ei ddiddymu yn Ebrill 2006 a chafodd ei ddyletswyddau eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru.

    logoFfynhonnell y llun, Wicipedia
  19. O le fydd yr arian yn dod?wedi ei gyhoeddi 12:15 GMT 3 Mawrth

    Elliw Gwawr
    Gohebydd Gwleidyddol BBC Cymru

    Mae na lot o wariant yn y maniffesto yma, felly o le fydd yr arian yn dod?

    Mae torri ar dreth incwm, cael gwared o'r dreth trafodiadau tir a'r arian ychwanegol yn dod i £558m.

    Mae Darren Millar wedi dweud y byddai'n torri ar wastraff, yn gwyrdroi'r cynnydd ym maint y senedd, ac yn peidio â gwario ar feysydd na sydd wedi'u datganoli.

    Ond y gwirionedd yw bod torri ar wastraff yn haws dweud na gwneud.

    Ac o ran y polisïau hynny y gallen nhw dorri, fydde nhw ddim yn arbed y math o symiau sydd eu hangen i dalu am rhain.

    Mae'r costau ychwanegol o Senedd fwy yn £12.7m y flwyddyn, a does dim modd gwyrdroi hyn dros nos.

    Mae'r cynllun cenedl noddfa wedi costio £62.87m ers ei lansio yn 2019, ac ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn gwario £270,000 y flwyddyn ar blannu coed yn Uganda.

  20. Codi 20mya yn ôl i 30myawedi ei gyhoeddi 12:09 GMT 3 Mawrth

    Dywed Millar nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw fodelu ar gyfer nifer y plant a allai gael eu niweidio trwy godi 20mya yn ôl i 30mya.

    Dywed arweinydd Torïaidd y Senedd bod y mater yn aml yn codi ar garreg y drws ac mewn e-byst.

    20myaFfynhonnell y llun, Getty Images