Crynodeb

  • Y Senedd "yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU yn gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli".

  • Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

  • Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru

  • Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19

  • Dadl y Blaid Brexit - Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

  1. Hwyl fawrwedi ei gyhoeddi 20:07 GMT+1 16 Medi 2020

    Senedd Fyw

    A dyna ni o'r Siambr am heddiw - bydd Senedd Fyw yn ôl brynhawn Mawrth nesaf am 1.30pm.

    Hwyl fawr am y tro.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  2. Galw am gronfa diogelwch tân yng Nghymru 'i gynnig cymorth i lesddeiliaid'wedi ei gyhoeddi 19:46 GMT+1 16 Medi 2020

    Yn y ddadl fer mae David Melding (Canol De Cymru) , dolen allanolyn nodi yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid.

    Mae'n dweud wrth weinidogion bod "hi'n broblem fawr heb ei datrys, ac nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrech i efelychu system Lloegr".

    Mae Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn pwysleisio bod yn rhaid i "berchnogion adeiladau a datblygwyr gywiro unrhyw namau," ac mae'n ychwanegu "rwyf wedi ymrwymo i ganfod y ffordd ymlaen".

    David Melding
    Disgrifiad o’r llun,

    David Melding

  3. Mesur Marchnad Fewnol y DUwedi ei gyhoeddi 19:43 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae cynnig Plaid Brexit ar Fesur Marchnad Fewnol y DU yn cael ei ddiwygio'n llwyr gan Lywodraeth Cymru, ac yna'n cael ei basio gan ASau.

    Felly mae'r Senedd "yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU yn gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru".

    Roedd 39 o blaid, 2 yn ymatal ac 13 yn erbyn.

  4. Mesurau i atal COVID-19wedi ei gyhoeddi 19:34 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae cynnig y Ceidwadwyr ar fesurau i atal COVID-19 wedi'i ddiwygio gan Lywodraeth Cymru ac yna'n cael ei basio gan ASau.

  5. 'Tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru'wedi ei gyhoeddi 19:04 GMT+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Jeremy Miles yn cyflwyno cynnig Llywodraeth Cymru bod y Senedd yn "credu bod Mesur y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU yn gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru".

    Jeremy Miles
    Disgrifiad o’r llun,

    Jeremy Miles

  6. 'Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol'wedi ei gyhoeddi 18:36 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae Gareth Bennett (Canol De Cymru) , dolen allanolyn credu "na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt".

    Mae e hefyd yn galw am "refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig".

    Gareth Bennett
    Disgrifiad o’r llun,

    Gareth Bennett

  7. 'Ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru'wedi ei gyhoeddi 18:35 GMT+1 16 Medi 2020

    Plaid Cymru

    Mae Dai Lloyd AS ar ran Plaid Cymru yn cynnig bod y Senedd yn cytuno bod Mesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU "yn ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru".

    Maent hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru "i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Mesur Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU".

    Dai Lloyd
    Disgrifiad o’r llun,

    Dai Lloyd

  8. Croesawu dychwelyd 'pwerau pwysig o'r UE i'r DU'wedi ei gyhoeddi 18:28 GMT+1 16 Medi 2020

    UKIP Cymru

    Mae Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) , dolen allanolo Blaid Ukip yn croesawu "rhai rhannau o Fesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU".

    Mae e hefyd yn

    • "gresynu at y rhannau hynny o Fesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru";

    • "yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU".

    Neil Hamilton
    Disgrifiad o’r llun,

    Neil Hamilton

  9. Croesawu Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedigwedi ei gyhoeddi 18:13 GMT+1 16 Medi 2020

    Plaid Brexit

    Y pwnc sydd wedi ei ddewis gan Blaid Brexit yw Mesur Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

    Maent yn cynnig bod y Senedd yn croesawu'r mesur.

    Pasiodd y mesur ei ddarlleniad cyntaf yn San Steffan echnos (nos Lun, Medi 14) o 340 o bleidleisiau i 263 – mwyafrif o 77 i'r Ceidwadwyr.

    Mae'r mesur yn rhoi hawl i lywodraeth Boris Johnson i ddiystyru rhannau o gytundeb Brexit gyda'r UE.

    "Mae San Steffan yn ymladd yn ôl, rhaid i ni groesawu hynny," meddai Mark Reckless.

    Mark Reckless
    Disgrifiad o’r llun,

    Mark Reckless

  10. Profi pobl sy’n dychwelyd o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymruwedi ei gyhoeddi 17:52 GMT+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn cynnig dau welliant sef dileu is-bwynt (a) - gan fod gwisgo mygydau wedi bod yn orfodol mewn siopau ac archfarchnadoedd ers ddydd Llun - a dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.

    mwgwdFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    Mae gwisgo mwgwd mewn siopau yng Nghymru bellach yn orfodol

  11. 'Galluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain'wedi ei gyhoeddi 17:25 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae Caroline Jones (Gorllewin De Cymru) , dolen allanolsy'n Aelod Annibynnol yn galw ar Lywodraeth Cymru i "sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain".

    Caroline Jones
    Disgrifiad o’r llun,

    Caroline Jones

  12. 'Angen profion dyddiol torfol'wedi ei gyhoeddi 17:22 GMT+1 16 Medi 2020

    Plaid Cymru

    Mae Rhun ap Iorwerth ar ran Plaid Cymru yn

    • galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd;

    • yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol;

    • yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf;

    • yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol;

    • yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl.

    Rhun ap Iorwerth
    Disgrifiad o’r llun,

    Rhun ap Iorwerth

  13. Ceidwadwyr: 'Osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan'wedi ei gyhoeddi 17:08 GMT+1 16 Medi 2020

    Ceidwadwyr Cymreig

    Y pwnc sydd wedi cael ei ddewis gan y Ceidwadwyr Cymreig yw 'Mesurau i Atal COVID'. Maen nhw'n cynnig bod y Senedd yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

    a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill;

    b) ddefnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;

    c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

    prawfFfynhonnell y llun, Getty Images
    Disgrifiad o’r llun,

    'Dylai pob teithiwr sy'n dod i Faes Awyr Caerdydd o dramor gael prawf Covid-19,' medd y Ceidwadwyr

    Paul Davies
    Disgrifiad o’r llun,

    Paul Davies

  14. 'Nifer o wersi i’w dysgu o’n hymateb i COVID-19'wedi ei gyhoeddi 17:03 GMT+1 16 Medi 2020

    Llywodraeth Cymru

    Mae Hannah Blythyn, y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol yn amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad.

    Mae'n dweud bod "argyfwng pandemig COVID-19 yn dangos bod angen i’r system nawdd cymdeithasol fod yn ddigon cadarn a hyblyg i ymateb i’r heriau sy’n ein hwynebu, boed yn rhai mawr neu’n rhai bach.

    "Bydd nifer o wersi i’w dysgu o’n hymateb i COVID-19. Mae’n anodd rhagweld y modd y bydd y newidiadau brys sylweddol i leihau effeithiau’r argyfwng – sydd wedi’u gwneud, ac o bosibl y bydd angen parhau i’w gwneud – i system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU yn newid y rhwyd ddiogelwch hon yn barhaol yn ystod y cam adfer, a’r cyfnod ôl-adfer.

    "Yng nghyd-destun y cyfnod ansicr hwn, nid nawr yw’r amser gorau, o ran yr adnoddau a’r dystiolaeth sydd ar gael, i ystyried newidiadau tymor hir i nawdd cymdeithasol."

    Mae modd gweld ymateb Llywodraeth Cymru yn llawn yma, dolen allanol.

    Hannah Blythyn
    Disgrifiad o’r llun,

    Hannah Blythyn

  15. Hanner poblogaeth Cymru yn derbyn rhyw fath o fudd-dalwedi ei gyhoeddi 16:39 GMT+1 16 Medi 2020

    Cadeirydd y Pwyllgor John Griffiths (Dwyrain Casnewydd) , dolen allanolsy'n cyflwyno'r adroddiad ac mae'n cynnwys 17 o argymhellion.

    Mae bron i hanner poblogaeth Cymru yn derbyn rhyw fath o fudd-dal.

    Yr argymhelliad cyntaf yw bod Llywodraeth Cymru yn sefydlu “system fudd-daliadau Gymreig” gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd y mae’n gyfrifol amdanynt".

    Ym mis Mehefin eleni nodwyd bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud â diffyg gwaith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd.

    Mae John Griffiths yn dweud "ei fod yn siomedig fod Llywodraeth Cymru ddim wedi darparu yr ymateb manwl disgwyliedig".

    John Griffiths
    Disgrifiad o’r llun,

    John Griffiths

    canolfan byd gwaithFfynhonnell y llun, bbc
    Disgrifiad o’r llun,

    Ym Mehefin eleni cyhoeddwyd bod nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yn ymwneud â diffyg gwaith yng Nghymru wedi dyblu o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd

  16. Budd-daliadau yng Nghymruwedi ei gyhoeddi 16:31 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae dadl gyntaf y cyfarfod ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: Budd-daliadau yng Nghymru - opsiynau i'w cyflawni'n well.

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  17. Penodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymruwedi ei gyhoeddi 16:25 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae Aelodau yn cytuno ar y cynnig i benodi Lindsay Foyster yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth 2023.

    Ers 2016 mae hi wedi bod yn Ymgynghorydd Rheoli (hunangyflogedig). Mae modd darllen am ei gyrfa yma, dolen allanol.

  18. Leanne Wood: 'Cyfyngiadau yn siomedig ond nid yn syndod'wedi ei gyhoeddi 15:49 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae'r gwahaniaeth yn y rheolau cysylltiedig â thafarndai Rhondda Cynon Taf a Chaerffili wedi esgor ar gwestiynau gan lefarydd iechyd Andrew RT Davies.

    Dywed Vaughan Gething bod tafarndai wedi cyfrannu at ledaenu'r haint yn RhCT ond nid yng Nghaerffili.

    Dywed AS Rhondda Leanne Wood bod y "cyfnod clo yn siomedig ond nid yn syndod".

    Dywed Mr Gething bod cynnydd "sydyn" wedi bod yn achosion Rhondda Cynon Taf gyda 82.1 ymhob 100,000 wedi'u heintio yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

    Dyma'r ail ardal yng Nghymru i wynebu cyfyngiadau lleol.

    bar
    Disgrifiad o’r llun,

    Bydd yn rhaid i fariau a thafarndai gau am 23:00 yn sir Rhondda Cynon Taf

  19. Cyfyngiadau lleol i 240,000 o breswylwyr sir Rhondda Cynon Tafwedi ei gyhoeddi 15:24 GMT+1 16 Medi 2020

    Ry'n ni'n symud ymlaen at ddatganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am y cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf.

    Mae Vaughan Gething yn dweud bod cynnydd sydyn wedi bod mewn achosion yn sir Rhondda Cynon Taf, gydag 82.1 achos i bob 100,000 o'r boblogaeth.

    Y ffigwr cyfatebol ar gyfer Cymru gyfan yw 21.4 achos i bob 100,000.

    Dywedodd bod dau glwstwr "arwyddocaol" yn y sir, un yn ymwneud â chlwb rygbi, ac un arall â grŵp o bobl aeth ar ddiwrnod allan i rasys Doncaster, gan stopio "mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd".

    O 18:00 nos Iau, ni fydd pobl yn cael mynd i mewn neu allan o'r sir heb reswm da fel teithio i'r gwaith neu am addysg. Ni fydd teuluoedd estynedig yn cael cyfarfod dan do chwaith.

    Vaughan Gething
    Disgrifiad o’r llun,

    Vaughan Gething

  20. Codi 20,000 o dai fforddiadwywedi ei gyhoeddi 14:57 GMT+1 16 Medi 2020

    Mae David Melding o'r Blaid Geidwadol yn gofyn: Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae cyfyngiadau Covid-19 yn debygol o'i chael ar dargedau adeiladu tai fforddiadwy?

    Mae Julie James yn ymateb gan ddweud bod y "pandemig wedi cael ychydig o effaith ar godi tai" ond dywed ei bod yn "hyderus" y bydd Llywodraeth Cymru yn cwrdd â'r targed o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor presennol y Senedd - tymor sy'n dod i ben ym mis Mai 2021.

    taiFfynhonnell y llun, Thinkstock