Hwylwedi ei gyhoeddi 17:51 GMT 26 Tachwedd 2019
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)
Cyfarfod llawn yn dechrau am 1.30pm gyda Chwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad: Yr Economi Sylfaenol
Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru)
Dadl: Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant
Alun Jones and Nia Harri
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

Mae cynnig Llywodraeth Cymru yn croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant, yn cael ei basio fel y'i diwygiwyd gan Blaid Cymru.
Yn gyffredinol, mae pedwar cyfnod yn y broses ar gyfer ystyried Mesur Cyhoeddus, sef:
Mae ACau yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Roedd 42 o blaid, saith yn ymatal, a neb yn erbyn.
Dyna gwblhau Cyfnod 1 y mesur.

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething
Mae ACau yn cymeradwo fersiwn drafft o'r Gorchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru)(Diwygio) 2019., dolen allanol
Yn ôl Llywodraeth Cymru bwriedir i'r diwygiad hwn ddileu'r terfyn ariannol o £20,000 ar gyfer y tair trosedd o dan erthygl 21 o Orchymyn Draenio Cynaliadwy (Gorfodi) (Cymru) 2018 (O.S. 2018/1182) (Cy. 241) ("Gorchymyn 2018") er mwyn i Orchymyn 2018 gydymffurfio â'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Cymorth Cyfreithiol, Dedfrydu a Chosbi Troseddwyr 2012.
Roedd 45 o blaid, 4 yn ymatal, a neb yn erbyn.
Ffynhonnell y llun, PA MediaMae'r aelod Ceidwadol David Melding yn dweud bod "llawer o bethau wedi cael eu gwneud, mae llawer i'w wneud... mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes unrhyw un ar goll mewn gofal", cyfeiriad at adroddiad gan Syr Ronald Waterhouse gafodd ei gyhoeddi yn 2000 i gam-drin plant yng nghartrefi gofal gogledd Cymru.
Roedd yr adroddiad yn canolbwyntio ar y cam-drin ar raddfa fawr yn y system ofal o 1974.

Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae gwelliannau Plaid Cymru, sy'n cael eu cyflwyno gan Sian Gwenllian, yn cynnig ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Gwelliant 1
Yn cydnabod bod y cynnydd yn nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal yn deillio o nifer o ffactorau cymhleth, gan gynnwys llymder a thlodi rhwng y cenedlaethau.
Gwelliant 2
Yn galw am aildrefnu'r system i ganolbwyntio adnoddau ar atal er mwyn amddiffyn plant a gwella eu canlyniadau.
Gwelliant 3
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i osgoi defnyddio targedau caeth i leihau nifer y plant sy'n cael eu rhoi mewn gofal.

Mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, yn dweud bod yr adroddiad hwn "yn dangos y cynnydd da a wnaed hyd yn hyn" ond bod "yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar beth yn mwy y gellir ei wneud.
" Yn y bôn, mae angen i ni wneud gwelliannau i'r system gyfan fel bod gwasanaethau’n cael eu darparu sy’n darparu cymorth amserol a chynnar i deuluoedd, fel eu bod yn cael eu cefnogi i aros gyda’i gilydd gyda’r nod yn y pen draw o leihau nifer y plant yn y system ofal".

Ac yn olaf yn y Siambr heddiw dadl ar Adroddiad Blynyddol Gwella Canlyniadau i Blant., dolen allanol
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn "croesawu Adroddiad Blynyddol cyntaf Grŵp Cynghori’r Gweinidog ar y rhaglen Gwella Canlyniadau i Blant".
Mae Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw, yn cyflwyno’u hadroddiad., dolen allanol
Roedd yr aelodau yn “pryderu ynghylch ehangder y pwerau sy’n cael eu rhoi i Weinidogion Cymru o dan adran 26.
“Nid ydym o’r farn ei bod yn briodol i Lywodraeth Cymru gael pwerau mor eang i lunio rheoliadau fel rhan o agwedd “backstop” tuag at ddeddfu, yn enwedig pan fo modd defnyddio pwerau o’r fath i ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth sylfaenol a lle nad yw’n eglur a fyddant yn cael eu defnyddio na sut y byddant yn cael eu defnyddio. Nid yw cymhwyso’r weithdrefn gadarnhaol i bwerau o’r fath yn dilysu eu defnydd. Nid oes modd diwygio rheoliadau ac nid ydym o’r farn y dylai rheoliadau sy’n gallu gwneud newidiadau eang, ond amhenodol, i ddeddfwriaeth sylfaenol fod yn ddarostyngedig i benderfyniad “ie” neu “na” i’w cymeradwyo neu eu gwrthod”.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid Llyr Gruffydd yn cyflwyno’u hadroddiad , dolen allanolsy’n gwneud naw o argymhellion.
Y cyntaf o’r rheini yw:
“argymell bod Llywodraeth Cymru yn ymgymryd â gwaith pellach yn dadansoddi ac yn amcangyfrif buddion y Bil, a nodir fel ysgogwyr allweddol ar gyfer gweithredu’r ddeddfwriaeth.
"Dylid cynnwys y wybodaeth hon, a ddylai gynnwys dadansoddiad o sensitifrwydd i ddangos yr ystod bosibl o werthoedd, mewn Asesiad Effaith Rheoleiddiol diwygiedig a gyhoeddir ar ôl trafodion Cyfnod 2”.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, Dai Lloyd, yn cyflwyno'u hadroddiad, dolen allanol sy'n gwneud 21 o argymhellion.
Y cyntaf a'r ail o'r rheini yw:
Argymhelliad 1.
"Rydym yn argymell bod y Cynulliad yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Mesur".
Argymhelliad 2.
"Rydym yn argymell bod y Gweinidog yn diwygio’r Mesur i wneud darpariaeth ar gyfer cyhoeddi canllawiau statudol sy’n ymwneud â’r ddyletswydd ansawdd. Dylai canllawiau o’r fath, ymhlith pethau eraill, nodi’n glir sut y bydd y ddyletswydd asawdd wrth ddarparu gwasanaethau yn cael ei hasesu a sut y bydd sefydliad yn dangos ei fod wedi sicrhau canlyniad gwell.
"Dylai hefyd gynnwys manylion am sut y bydd arloesi a gwelliannau a gyflwynwyd mewn un ardal yn cael eu lledaenu a’u rhoi ar waith ledled Cymru gyfan".

Ymlaen nawr at ddadl gynta’r prynhawn.
Mae’n ddadl ar Egwyddorion Cyffredinol y Mesur Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru).
Yn ôl Llywodraeth Cymru mae'r Mesur yn cynnig cyflwyno newidiadau a fydd yn:
gosod ystyriaethau ansawdd wrth galon popeth y mae cyrff GIG yng Nghymru a Gweinidogion Cymru (mewn perthynas â'u swyddogaethau iechyd) yn ei wneud drwy ddyletswydd benodol, gan adeiladu ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 (“Deddf 2015”)1 a Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 (“Deddf 2014”)2. Mewn perthynas â'r ddyletswydd ansawdd, caiff cyrff GIG eu diffinio fel Byrddau Iechyd Lleol (BILlau), Ymddiriedolaethau’r GIG, Awdurdodau Iechyd Arbennig (heb gynnwys Awdurdodau Iechyd Arbennig trawsffiniol);
gosod dyletswydd gonestrwydd ar bob corff GIG ar lefel sefydliadol, gan ei gwneud yn ofynnol iddynt fod yn agored ac yn onest pan fydd pethau'n mynd o'i le. Mewn perthynas â'r ddyletswydd gonestrwydd, caiff cyrff GIG eu diffinio fel Mesurau, Ymddiriedolaethau, Awdurdodau Iechyd Arbennig (gan gynnwys Gwaed a Thrawsblaniadau'r GIG mewn perthynas â'i swyddogaethau yng Nghymru) a darparwyr gofal sylfaenol yng Nghymru mewn perthynas â gwasanaethau'r GIG y maent yn eu darparu.
cryfhau llais dinasyddion ar draws gwasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, gan greu cysylltiad cryfach rhwng pobl a'r sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau iddynt;
cryfhau'r trefniadau llywodraethu ar gyfer Ymddiriedolaethau’r GIG.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Organeddau a Addaswyd yn Enetig (Eu Gollwng yn Fwriadol a'u Symud ar draws Ffin) (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'rUE) (Rhif 2) 2019., dolen allanol
Mae'r rheoliadau yn diwygio Rheoliadau 2002 fel bod gofyn am geisiadau ar gyfer cydsyniad i farchnata organeddau a addaswyd yn enetig i gynnwys cynllun monitro.
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau, dolen allanolIechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE)(Diwygio) 2019., dolen allanol
Fel y mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei esbonio, “mae'r diwygiadau yn yr offeryn hwn yn golygu y gall unigolyn sy'n dymuno gwneud cais am dystysgrif cymhwysedd (sydd ei hangen er mwyn lladd anifeiliaid neu gyflawni gweithrediadau cysylltiedig mewn lladd-dy) ddibynnu ar hyfforddiant ac archwiliad cymeradwy a wneir yng Ngweriniaeth Iwerddon fel tystiolaeth wrth wneud cais i'r awdurdod cymwys yng Nghymru. Mae angen y newid hwn i sicrhau bod Gweinidogion Cymru yn diwallu eu hymrwymiadau o dan Ardal Deithio Gyffredin y DU ac Iwerddon”.

Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths
Mae ACau yn cymeradwyo fersiwn ddrafft o'r Rheoliadau Materion Gwledig (Diwygiadau Amrywiol)(Cymru) (Ymadael â'r UE) (Rhif 3) 2019., dolen allanol
Fel y mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ei esbonio, mae'r Rheoliadau hyn “yn cywiro diffygion yn neddfwriaeth Cymru sy'n codi o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn sicrhau bod y llyfr statud yng Nghymru yn parhau i fod yn gyfredol ac yn weithredol wedi i’r DU ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.
Er enghraifft, mae'r Rheoliadau hyn:
• yn diwygio Rheoliadau Marchnata Cynnyrch Garddwriaethol Ffres (Cymru) 2019, fel na fydd person yn cyflawni trosedd sy'n ymwneud â marchnata cymysgeddau o wahanol rywogaethau o ffrwythau a llysiau, mewn amgylchiadau penodol;
• yn diwygio Rheoliadau Wyau a Chywion (Cymru) 2010 i ddileu cyfeiriadau at gyfraith yr UE na fydd yn bodoli mwyach ar ôl ymadael â’r UE; ac
• yn diwygio Rheoliadau Bwyd (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019, fel na fydd person yn cyflawni trosedd sy'n ymwneud â labelu cig sy'n deillio o anifeiliaid sy'n cael eu mewnforio yn fyw i Gymru, mewn amgylchiadau penodol."

Mae David Rowlands o'r Blaid Brexit yn dweud "rydyn ni'n cydnabod bod cynnydd wedi ei wneud yn cryfhau'r Economi Sylfaenol" ond yn rhybuddio "ni ddylai hyn gael ei seilio ar ehangu'r sector cyhoeddus".

Mae Rhun ap Iorwerth yn cyfeirio at gynlluniau yn y gronfa arloesi Arfor, gafodd eu cytuno gan Blaid Cymru a Llywodraeth Cymru fel rhan o'r cytundeb cyllideb diwethaf, yn canolbwyntio ar gefnogi'r iaith Gymraeg trwy'r economi leol, sy'n asio gyda'r cynlluniau ar gyfer yr economi sylfaenol.

Mae Lee Waters yn dweud bod y sectorau hyn yn aml yn fwy abl i wrthsefyll ergydion economaidd allanol a bod ganddynt gryn botensial i sicrhau mwy o werth lleol o ddarparu nwyddau a gwasanaethau lleol.
Mae'n dweud ei "nod yw cynyddu nifer y cwmnïau sydd wedi'u greiddio yn eu economïau lleol, gan gynnwys cwmnïau micro, busnesau bach a chanolig yng Nghymru, mentrau cymdeithasol, co-ops a grwpiau o ddiddordeb cymunedol, sydd yn y sectorau marchnatadwy yn abl i werthu y tu allan i Gymru, ond bod eu penderfyniadau yn cael eu gwneud yn ein cymunedau ac yn darparu mynediad i gyfleoedd gwaith teg i bobl ar draws pob rhan o Gymru".
