Hwylwedi ei gyhoeddi 18:47 GMT+1 4 Mehefin 2019
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

ACau yn dadlau ynghylch cyhoeddiad y Prif Weinidog Mark Drakeford bod cynlluniau £1.6bn ar gyfer ffordd liniaru'r M4 wedi cael eu gollwng.
Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Datganiad gan y Prif Weinidog: Coridor yr M4 o amgylch Casnewydd
Datganiad: Y diweddaraf am Brexit
Datganiad: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Datganiad: Brexit a'n Tir
Datganiad: Diweddariad ar Raglen Weithredu Adolygiad Amber
Alun Jones and Nia Harri
A dyna'r cyfan o'r Siambr am heddiw.
Fe fydd Senedd Fyw yn ôl yfory.

Mae Vaughan Gething yn dweud bod "ymateb nodweddiadol i alwadau oren mewn rhai byrddau iechyd yn eithriadol o gadarnhaol a ffafriol i brofiad cleifion da a chanlyniad clinigol... Er hynny, mae yna amrywiadau lleol ac er bod ymatebion oren ym Mae Abertawe wedi gwella o gymharu gyda'r llynedd mae yna heriau'n parhau oherwydd oedi trosglwyddo ambiwlans ar y safle yn Nhreforys."
Mae'n dweud, "Mae'n eglur bod rhagor o waith eto i'w wneud i gefnogi cyflawni argymhellion yr Adolygiad Amber. Er hynny, mae camau wedi eu gwneud yn lleihau amseroedd ymateb i alwadau oren, a lleihau amseroedd aros hynod hir i gleifion a gwella'r profiad i rai o aelodau mwyaf bregus ein cymunedau".
Bydd digwyddiadau yn y categori oren yn gyffredinol yn cael ymateb golau a seiren las, yn debyg iawn i’r rhai sydd yn y categori coch.
Y prif wahaniaeth yw bod yr holl adnoddau gerllaw ar gael ar gyfer digwyddiadau coch, tra bod yr ymateb agosaf a mwyaf addas yn cael ei anfon ar gyfer y categori oren.
Ac yn olaf yn y Siambr y prynhawn ‘ma datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Diweddariad ar Raglen Weithredu Adolygiad Amber.
Roedd yr adolygiad oren yn ceisio sefydlu a oedd cleifion yn y categori oren yn aros yn rhy hir am ymateb ambiwlans, ac os felly a oedd hyn yn arwain at ganlyniadau a phrofiadau gwaeth i gleifion.
Mae canfyddiadau'r adolygiad, meddai, yn cyflwyno "cyfleoedd ar gyfer gwelliannau.
"Mae canolrif yr amser ymateb ar gyfer galwadau oren wedi cynyddu saith munud ar gyfartaledd yn ystod y cyfnod adolygu, rhwng Ebrill 2016 a Mawrth 2018".
Mae’n amlwg meddai, "nad yw hynny'n dderbyniol a rhoddir sylw i hyn drwy waith cydweithredol â phwyslais".
Mae llefarydd materion gwledig Plaid Cymru Llyr Gruffydd yn dweud bod "y newidiadau pellgyrhaeddol hyn yn cael eu cyflwyno mewn cyfnod o ansefydlogrwydd enfawr".
Mae'n dweud "heb rhyw fath o ddiogelwch ar ffurf taliad uniongyrchol, mae Llywodraeth Cymru yn gwthio ffermio yng Nghymru oddi ar glogwyn".

Mae llefarydd materion gwledig y Ceidwadwyr Andrew RT Davies yn dweud bod yna "bryder gwirioneddol" ymhlith y gymuned ffermio a'i bod hi'n holl bwysig i weld y manylion ynghylch sut y byddai cynllun newydd yn gweithio.
Mae'n dweud bod ffermio yn chwarae rhan hynod bwysig yn economi Cymru, yn arbennig mewn cymunedau gwledig, a bod yn rhaid i "unrhyw gynllun newydd sicrhau bod hyn yn parhau".

I ddechrau, roedd Llywodraeth Cymru wedi awgrymu y byddai dau gynllun grant newydd yn dod yn ei le, ar ôl i'r DU adael yr UE.
Byddai un yn cynnig grantiau busnes, tra byddai un arall yn gwobrwyo ffermwyr am gyflenwi nwyddau cyhoeddus fel diogelu cynefinoedd bywyd gwyllt a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Ar ôl derbyn adborth ar yr ymgynghoriad, dywed Ms Griffiths ei bod wedi penderfynu cyfuno'r ddau gynllun.
Bydd ymgynghoriad pellach ar y cynlluniau yn cael ei lansio cyn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf.
Mae disgwyl i'r taliadau barhau yn eu ffurf bresennol tan 2021, ar ôl i arweinwyr ffermio rybuddio bod y newidiadau'n digwydd yn rhy gyflym ac y gallan nhw niweidio'r diwydiant.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesGallai gwaith amgylcheddol gynnwys lleihau'r risg o lifogydd trwy adfer coetiroedd gorlifdir
Symudwn ni ymlaen nawr at ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: Brexit a'n Tir.
Mae cymorthdaliadau'r Undeb Ewropeaidd - sy'n werth tua £350m y flwyddyn - yn cyfrif am fwy nag 80% o incwm ffermydd yng Nghymru ar gyfartaledd.
Mae'r mwyafrif helaeth o'r arian yn cael ei roi fel "taliadau uniongyrchol", o dan y Cynllun Taliad Sylfaenol.
Bydd y prif gynllun cymhorthdal i ffermwyr Cymru yn cael ei ddisodli ar ôl Brexit, yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus.
Bydd taliadau sy'n seiliedig ar faint o dir sy'n cael ei ffermio yn dod i ben.
Yn eu lle, bydd taliad blynyddol yn cael ei gynnig ar gyfer gwaith amgylcheddol.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Lesley Griffiths y byddai'r cynigion yn helpu i sicrhau sector amaethyddiaeth sy'n "ddiogel, ffyniannus a chydnerth".

Mae Helen Mary Jones Plaid Cymru yn dweud wrth Vaughan Gething, "dyw hi ddim yn gysur mawr i mi ei fod e'n dweud bod yna sefydliadau yn Lloegr sy'n gwneud yr un mor wael".

Mae'r aelod Ceidwadol Angela Burns yn dweud ei bod hi wedi ei "synnu" gan eiriau y gweinidog, "heb strategaeth glinigol addas, bydd y bwrdd yn ymlafnio i ddelio gyda'r perfformiad gwael mewn gofal wedi ei gynllunio ac annisgwyl".
Mae'n dweud ei bod hi'n gywilyddus nad oes gan y bwrdd, bedair blynedd wedi mesurau arbennig, strategaeth glinigol addas.

Mae Vaughan Gething yn dweud wrth ACau fod cynnydd wedi ei wneud yn y meysydd a arweiniodd at uwchgyfeirio bwrdd iechyd Gogledd Cymru i statws mesurau arbennig bedair blynedd yn ôl.
Dywedodd Mr Gething: "Mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau gofal sylfaenol y tu allan i oriau Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig erbyn hyn".
"Mae'r bwrdd iechyd hefyd wedi gwneud cynnydd o ran y disgwyliadau a nodir yn y fframwaith gwella mesurau arbennig a oedd i'w bodloni erbyn mis Ebrill 2019. Mae'r rhain yn cynnwys datblygiadau ym meysydd llywodraethu a phrosesau ansawdd, arweinyddiaeth y bwrdd, gwasanaethau iechyd meddwl, ymgysylltu a gweithio mewn partneriaeth a darparu gwasanaeth meddygon teulu yn ystod oriau gwaith cynaliadwy.”
Ond dywedodd y Gweinidog fod angen gwneud cynnydd o hyd i aswirio pobol Gogledd Cymru bod gwelliannau cynaliadwy yn cael ei gwneud.
Dywedodd Mr Gething: “Mae angen gwneud gwelliannau o ran rheolaeth ariannol a lefelau perfformiad gofal iechyd meddwl a gofal wedi ei drefnu a heb ei drefnu. At y diben hwnnw, rwyf wedi amlinellu heddiw yr ardaloedd dwi’n disgwyl gweld y Bwrdd canolbwyntio arno. Byddwn yn parhau i cefnogi nhw i gwneud y gwelliannau angenrheidiol. Mae'r Bwrdd eisoes wedi dangos sut gallent gwella gwasanaethau, ac mae angen iddynt bellach ddefnyddio'r hyn a ddysgwyd i drawsnewid y meysydd sy'n peri pryder, a gwneud gwelliannau iddynt.
"Nid yw mesurau arbennig yn 'sefyllfa arferol'. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd sylweddol tuag at gyflawni'r disgwyliadau sydd angen er mwyn gallu ystyried gostwng y statws uwchgyfeirio.”
Dywed Llywodraeth Cymru bod gwasanaethau y tu allan i oriau bellach allan o fesurau arbennig, ond bod "gwaith i'w wneud o hyd".
Y sefydliadau oedd yn trafod y sefyllfa oedd y llywodraeth, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru.
Cadarnhaodd y llywodraeth ym mis Chwefror bod y "gwasanaeth y tu allan i oriau wedi'i dynnu o'r mesurau arbennig" yn sgil "cynnydd yn cael ei wneud ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr diolch i waith caled ac ymdrech barhaus staff y GIG ledled Gogledd Cymru".
"Mae gwaith i'w wneud o hyd ac rydym wedi rhoi cymorth dwysach ar waith yn y Bwrdd Iechyd. Penodwyd Cadeirydd newydd i helpu i fwrw ymlaen â'r gwelliannau," meddai llefarydd.
Mae’r aelodau nawr yn gwrando ar ddatganiadgan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Mae'r bwrdd iechyd sy'n gwasanaethu cleifion yng ngogledd Cymru wedi bod mewn mesurau arbennig ers Mehefin 2015.
Ym mis Chwefror fe wnaeth Llywodraeth Cymru gadarnhau bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn parhau i fod dan fesurau arbennig.
Daw'r cyhoeddiad yn dilyn cyfarfod grŵp oedd yn ystyried ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol pob un o fyrddau iechyd Cymru.
Yn ôl adroddiad mae "cynnydd wedi bod mewn sawl maes" ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr ond maen nhw'n dal i wynebu "agenda wella heriol".

Ar yr alwad am refferendwm pellach mae arweinydd Plaid Brexit Mark Reckless yn dweud "fe gymeron ni benderfyniad, fe wnaethoch chi wrthod ei gyflawni".
Mae Delyth Jewell Plaid Cymru yn croesawu "tro pedol" Llywodraeth Cymru ar refferendwm arall, gan ddatgan bod Plaid Cymru wedi dod i'r casgliad yn hir yn ôl mai dyna'r "unig ffordd o ddatgloi cwlwm Brexit".

Mae'r aelod Ceidwadol Darren Millar yn dweud "ar ein meinciau ni rydyn ni eisiau cytundeb, cytundeb da, ond os na ellir sicrhau hynny, yna rydyn ni'n barod i gefnogi senario dim cytundeb".

Mae Jeremy Miles yn dweud y bydd Llywodraeth Cymru yn ymgyrchu i aros yn yr UE ac mae'n galw ar senedd y DU "i gyfaddef ei bod mewn sefyllfa ddiddatrys a deddfu am refferendwm gydag aros ar y papur pleidleisio".

Nesaf yn y Siambr datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Brexit.
Ffynhonnell y llun, Getty ImagesMae AC Dwyrain Casnewydd John Griffiths yn dweud wrth y prif weinidog "Rydw i'n cytuno gyda'r penderfyniad yr ydych chi wedi ei wneud".
Mae Mr Griffiths yn disgrifio Gwastadeddau Gwent fel "amgylchedd unigryw ac hanesyddol".

Mae Mr Drakeford yn dweud bod yr Arolygydd William Wadrup, wnaeth arwain ymchwiliad cyhoeddus yr M4, wedi marw ers i'r adroddiad gael ei gyhoeddi.