1. Cymru 4-0 Moldofa: Nos da a diolch am ddarllen.wedi ei gyhoeddi 21:47 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Yn swyddogol, Gareth Bale oedd seren y gêm, ond mae sawl un ar y cyfryngau cymdeithasol yn cytuno gyda Jiws wedi perfformiad gwych Joe Allen, gan gynnwys ei gôl gynta' dros ei wlad.

    Dwy gôl i Bale, un i Allen ac un i Sam Vokes.

    Pawb yn hapus?

    Ymlaen at Vienna - C'MON CYMRU!!

    baleFfynhonnell y llun, Reuters
  2. Jiws yn edrych ymlaenwedi ei gyhoeddi 21:44 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Y dechreuad perffaith i Gymru ar ol y cyffro yn Ffrainc. Fasa Chris Coleman ddim wedi gallu gofyn am gêm well i ddechrau'r ymgyrch, yn erbyn un o dimau gwanaf y grwp ar adeg lle tydi'r chwaraewyr ddim ar ben ei gêm mor gynnar yn y tymor. 

    "Erbyn y ddwy gem mis nesaf, mi fyddan nhw'n llawer fwy siarp ar ôl mwy o gemau gyda'u clybiau, gobeithio fydd Ramsey yn ei ol yn ffit. 

    "Ymlaen a ni i Vienna, dechrau sut da ni yn bwriadu symud ymlaen, da ni ar ben y grwp! Seren y gem i fi Joe Allen."

  3. Cofiwch yr uchafbwyntiauwedi ei gyhoeddi 21:42 GMT+1 5 Medi 2016

    Cofiwch, nawr fod y cyfan ar ben......

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  4. Bale yn ail ar ei ben ei hunwedi ei gyhoeddi 21:42 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Y dyfarnwr yn y fan ar lle i'r rhoi y gic o'r smotyn, Bale yn symud yn ail ar restr prif sgorwyr yn hanes Cymru drwy rwydo o'r smotyn."

  5. Cymru 4-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:41 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    A'r gic o'r smotyn oedd cic ola'r gêm - mae Cymru wedi cael dechrau gwych i'w hymgyrch i gyrraedd Cwpan y Byd yn Rwsia yn 2018. Maen nhw ar frig Grwp D wedi buddugoliaeth gyffyrddus.

    Ymlaen i Vienna - Awstria oddi cartre' sy' nesa ym mis Hydref.

  6. Cymru 4-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:39 GMT+1 5 Medi 2016

    Gôl!

    BALE O'R SMOTYN - PEDAIR I GYMRU

  7. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:39 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Cic o'r smotyn i Gymru!!!!!

  8. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:38 GMT+1 5 Medi 2016

    Mae'r capten yn gorffwys, ond siawn y bydd e'n dathlu gyda'i reolwr ymhen eiliadau....

    ash a cookieFfynhonnell y llun, Reuters
  9. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 91'24"

    Cwpan y Byd 2018

    Cyfle i Robson Kanu - ergyd o 12 llath ond y golwr yn ei chyrraedd hi.

  10. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 90'00"

    Cwpan y Byd 2018

    Fe fydd pedwar munud yn cael eu hychwanegu am anafiadau.

  11. Mwy nag un dwi'n meddwl Rhys....wedi ei gyhoeddi 21:34 GMT+1 5 Medi 2016

    Twitter

    Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    I osgoi neges X

    Caniatáu cynnwys X?

    Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

    Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
    Diwedd neges X
  12. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:32 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Tri munud yn weddill - pwy yw seren y gêm i chi? Cysylltwch......

  13. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 85'55"

    Cwpan y Byd 2018

    Bron yn un arall gyda hanner cyfle i Robson Kanu - ond rhywsut amddiffyn Moldofa'n ei chlirio hi

  14. Sylwadau Jiwswedi ei gyhoeddi 21:30 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Modfeddi i ffwrdd gan King, sa hona wedi coroni perfformiad Cymru."

  15. Gorffwys i'r captenwedi ei gyhoeddi 21:27 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    James Collins yw trydydd eilydd Cymru heno ac mae'n cymryd lle'r capten Ashley Williams. Mae'n gap rhif 50 i Collins...

  16. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 21:26 GMT+1 5 Medi 2016

    Cwpan y Byd 2018

    Cynnig gwych gan Andy King - ergyd o 25 llath ganddo fodfeddi heibio'r postyn!

  17. Cyfartal eto yn Belgradewedi ei gyhoeddi 21:24 GMT+1 5 Medi 2016

    Rowndiau rhagbrofol Rwsia 2018

    Mae Gweriniaeth Iwerddon wedi sgorio eto i unioni'r sgôr yn erbyn Serbia yn y gêm arall yn Grwp D.

  18. Peidiwch ildio, medd Jiwswedi ei gyhoeddi 21:23 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Y gem wedi mynd yn fflat braidd gyda chwarter awr yn weddill, peidio ildio di'r nod a hefyd dim enwau chwaraewyr CYmru yn mynd i lyfr bach y dyfarnwr, mi gostiodd o ni yn Ffrainc!"

  19. Cymru 3-0 Moldofawedi ei gyhoeddi 76'32"

    Cwpan y Byd 2018

    Cynnig gan Moldofa! Ond roedd hi'n ergyd o bell ac ymhell dros y trawst hefyd.

  20. Jiw yn croesawu Halwedi ei gyhoeddi 21:21 GMT+1 5 Medi 2016

    Marc Lloyd Williams

    "Vokes di cael gem dda heno, ond cyfle i Robson-Kanu gael munudau ar y cae, mi fydd Tony Pullis yn ddyn hapus."