Toriad yr hafwedi ei gyhoeddi 17:33 GMT+1 15 Gorffennaf 2015
Dyna ni tan ddydd Mawrth Medi 15, mae'r amser yn sicr o hedfan!
Mwynhewch yr haf!

9:00am: Y Pwyllgor Cyllid.
Mae'r Cyfarfod Llawn yn dechrau am 1:30pm, eitem gynta'r prynhawn oedd cwestiynau i'r gweinidog cyfoeth naturiol.
Nesaf: Cwestiynau i'r gweinidog addysg a sgiliau.
Nesaf: Dadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.
Nesaf: Dadl gan Aelodau Unigol: hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin.
Nesaf: Dadl Plaid Cymru: Rhaglen Datblygu Gwledig.
Nesaf: Dadl Fer: Atal sgamiau yng Nghymru.
Anwen Lewis and Alun Jones
Dyna ni tan ddydd Mawrth Medi 15, mae'r amser yn sicr o hedfan!
Mwynhewch yr haf!

Mae'r aelodau yn symud ymlaen at eitem olaf y diwrnod a thymor yr Haf sef y ddadl fer gan Mike Hedges ar y teitl 'Atal sgamiau yng Nghymru: camau y gellir eu cymryd i atal pobl rhag bod yn destun sgamiau.'
Dywed y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd, Rebecca Evans bod buddsoddiad a wnaed yn y blynyddoedd diwethaf gan lywodraeth Cymru wedi helpu cynhyrchwyr i ddatblygu a marchnata "bwyd a diod o ansawdd uchel."
Mae hi'n dweud bod gweithgareddau allweddol yn cynnwys darparu cymorth busnes a chymorth grant i gwmnïau o Gymru yn y sector, a gwella cadwyni cyflenwi sector bwyd Cymru.

Y cyn-weinidog Alun Davies yn dweud fod diwygio'r ardoll yn "hanfodol a phwysig."
Ychwanegodd, "dywedwyd wrthyf unwaith gan weinidog Ceidwadol fod y system bresennol o fudd i Loegr ac felly ni fydd yn cael ei newid."

William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol yn dweud bod "angen brys" i ddiwygio'r ardoll cig coch ac yn dweud bod ei blaid yn croesawu gwaith gan y Fforwm Diwydiant Cig Coch i ddatblygu cynigion ar gyfer ailddosbarthu'r ardoll hon.
Mae ardollau sy'n cael eu talu gan ffermwyr a phroseswyr yn helpu i ariannu'r corff hyrwyddo yn y wlad lle mae anifeiliaid yn cael eu lladd.
Mae'r Ceidwadwyr Russell George yn galw am "god ymarfer gwirfoddol ar gyfer archfarchnadoedd a siopau i neilltuo rhan o'u lloriau i gefnogi a hyrwyddo statws dynodiad daearyddol gwarchodedig o Gymru a chig tractor coch Prydeinig".


Llŷr Gruffydd yn dweud y gallai ffermwyr Cymru gael eu hamddiffyn rhag anwadalrwydd y marchnadoedd byd-eang drwy gryfhau cadwyni cyflenwi domestig.
Mae'n galw ar lywodraeth Cymru i "wneud sylwadau brys i lywodraeth y DU gyda'r bwriad o gyflwyno system ddosbarthu ardoll cig coch tecach."
Mae'r aelodau yn symud ymlaen at ddadl Plaid Cymru ar anawsterau difrifol sy'n wynebu'r sectorau cig coch a llaeth yng Nghymru.
Huw Lewis yn dweud y bydd llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynnig sydd gerbron y Cynulliad, ac yn barod i asesu'r opsiynau.
Aled Roberts yn egluro y bydd hyfforddiant mewn cymorth cyntaf pediatrig yn ofyniad cyfreithiol i staff meithrinfeydd yn Lloegr o dan gynlluniau llywodraeth a gyhoeddwyd yn dilyn marwolaeth babi.
Naw mis oed oedd Millie Thompson o Stockport pan fu farw ar ôl tagu ar ei chinio mewn meithrinfa ym mis Hydref 2012.
Cynhaliwyd adolygiad wedi e-ddeiseb a sefydlwyd gan fam Millie, Joanne.
Mae'r ddadl gan Aelodau Unigol wedi dechrau.
Y Cynnig ydy bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd hyfforddiant cymorth cyntaf arbenigol ar gyfer staff meithrin, fel bod ganddynt y sgiliau a'r hyfforddiant i ymateb yn gyflym ac yn briodol os bydd argyfwng.
2. Yn galw ar lywodraeth Cymru i ehangu'r ddarpariaeth o hyfforddiant cymorth cyntaf pediatrig i staff meithrinfeydd ac asesu opsiynau ar gyfer ei gwneud yn ofynnol bod yr holl staff sy'n gweithio mewn meithrinfeydd yn cwblhau cwrs cymorth cyntaf pediatrig a gydnabyddir yn swyddogol.
Mae'r fideo yma, dolen allanol yn dangos aelodau o dîm diogelwch Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn ymarfer ymadroddion Cymraeg y maent wedi'u dysgu yn eu gwersi Cymraeg.
Ffynhonnell y llun, Cynulliad CymruRhodri Glyn Thomas yn dweud bod angen i ragor o ddogfennau gael eu drafftio yn Gymraeg, yn hytrach na chyfieithu i'r Gymraeg.
Aled Roberts yn dweud ei fod yn arbennig o anodd i ddefnyddio'r Gymraeg mewn pwyllgor "os mai chi yw'r unig siaradwr Cymraeg."
Rhodri Glyn Thomas yn dweud bod y Cynulliad "yn agosáu at fod yn sefydliad gwirioneddol ddwyieithog", ond mae'n mynegi pryder am faint o Gymraeg a ddefnyddir yn y pwyllgorau.

Mae'r aelodau wedi symud ymlaen at ddadl ar yr Adroddiad Cydymffurfio Blynyddol ar Gynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad.
Fe wnaeth adroddiad ym mis Mai gondemnio triniaeth yn uned Tawel Fan yn Ysbyty Glan Clwyd fel "cam-drin sefydliadol."
Ers hynny, mae teuluoedd wedi cwyno am ddiffyg gwybodaeth, a gwahoddiadau i gyfarfodydd wedi'u hanfon at gyfeiriadau anghywir.

Dywed y Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething bod y camgymeriadau mewn cyfathrebu yn annerbyniol, ond bod newidiadau wedi cael eu gwneud.

Mae Darren Millar yn holi cwestiwn brys ar "bryderon newydd a godwyd gan berthnasau cleifion Tawel Fan ynghylch cyfathrebu gwael a diffyg cynydd o ran ymcwhiliadau'r bwrdd iechyd hyd yma."
Nick Ramsay yn cyfeirio at Heol Wonastow, Trefynwy a gafodd ei glustnodi ar ôl hynny ar gyfer tai.
Mae'n dweud bod y cyhoedd yn "cael yr argraff nad ydy llywodraeth Cymru yn deall cyllid."