O ŵyddau bras, i gyflaith a chwrw bach
- Cyhoeddwyd

Does dim amheuaeth bod gwledd o draddodiadau yn cysylltu cyfnod y Nadolig a'r Calan gyda bwyd yng Nghymru - er bod llawer ohonynt wedi gweld cryn tro ar fyd.
Yr hanesydd bwyd Carwyn Graves sy'n olrhain hanes rhai o fwydydd yr ŵyl.

Cyflaith
Roedd noson gyflaith - sef gwneud math o daffi - yn arfer bod yn ddigwyddiad cymdeithasol hwyliog adeg yma'r flwyddyn ar draws y wlad, ac ambell un yn dal i gadw'r arferiad yn fyw o hyd.
Mae gen i gof o glywed fy nhad-cu (ganed 1929) yn sôn am rywbeth tebyg i hyn, ac yn mwynhau gwneud cyffug adeg yma'r flwyddyn - er bod y trafferth o wneud wedi peri i'm mam roi'r gorau i'r arfer teuluol!

Darlun artist o noswaith gyflaith yng Nghymru
Y traddodiad hyd ganol yr ugeinfed ganrif oedd y byddai teuluoedd a chymdogion yn hel yn nhai un ohonynt at gael hwyl yn tynnu'r cyflaith.
Rhaid oedd berwi'r cynhwysion (siwgr, menyn a dŵr) a phan fyddai'n barod, ei arllwys ar lechen neu faen gyda saim arno.
Yna deuai'r hwyl a'r her wrth i bob un seimio'u dwylo a thrio tynnu'r cyflaith a'i droi nes ei bod y lliw a'r siâp iawn. Mater o sgil oedd hyn, wrth gwrs, a thipyn o dynnu coes hefyd.

Miss Gretta Jones, Tŷ Du, Parc, Meirionnydd, yn tynnu cyflaith
Fel y byddem yn disgwyl, aeth hyn yn fater barddoni, a cherdd am y Nadolig o ddiwedd Oes Fictoria (1890) gan Trebor Mai o Ddyffryn Conwy yn adlewyrchu naws y cyfnod:
Y Gwyliau sy'n dod a'i gelyn glas,
A'i gyflaith, a'i bwdin, a'i ŵyddau bras
Daw'r plant i enyn chwerthiniad iach
I'r aelwyd gynes yn Nghymru bach
(Trebor Mai, dyfynnwyd yn y Cymro, 18 Medi 1890)
Gŵydd
Nid twrci ond gŵydd oedd yn wirioneddol draddodiadol adeg y Nadolig yng Nghymru (er bod twrcwn wedi bod yma ers tro maith, ac yn cael eu crybwyll mewn cysylltiad â'r ŵyl cyn gynhared ag 1762 yn llythyrau Morrisiaid Môn!)
Ond roedd yr ŵydd yn ddigon cyffredin fel cig Nadolig i esgor ar draddodiad o wneud pwdin gwaed gŵyddau am fod cymaint o waed gŵydd ar gael o ladd y gŵyddau adre ac achub y gwaed. Math o bwdin du oedd y cynnyrch ar ôl berwi'r gwaed am dair awr, a gallai fynd i greu tarten felys ddigon tebyg i fins pei o ran blas, neu rywbeth sawrus i'w ffrio mewn saim bacwn i'w fwyta gyda thato neu fara menyn.

Y Bont-faen
Roedd cysylltiad hefyd rhwng yr wŷdd a gwasanaeth y Plygain yn gynnar ar fore'r Nadolig.
Mae cofnodion niferus o Oes Fictoria yn sôn am y bobl yn llifo adre o'r eglwys ar ôl y gwasanaeth ac yn rhannu cacennau a chig moch wrth iddynt aros am oriau i'r ŵydd goginio.
O'r tamed yma i aros pryd mae'n debyg y datblygodd yr arfer o swper Plygain, sy'n dal i ddigwydd mewn sawl man heddiw lle cynhelir gwasanaeth Plygain o hyd.

Cacen waed gwyddau, sef y gacen Nadolig mewn rhannau o sir Drefaldwyn.
Bwyd y Fari
Mae'r Fari Lwyd wedi ennill ei phlwyf eto dros y blynyddoedd diwethaf, ond yn draddodiadol roedd yr elfen fwyd a diod yn rhan ganolog o'r traddodiad.
Nid yn unig rhannu cwrw cartre (neu 'cwrw bach') ond hefyd afalau, cacennau, pasteiod cig moch a mwy - roedd gwledda a rhialta mewn cwmni yn rhan annatod o'r arfer trwy'r cyfnod yma.

Gorymdaith y Fari Lwyd
Gofyn am gwrw a bwyd ar gân yw hanfod llawer o'r traddodiadau gyda'r Fari, lle byddai grŵp o bobl yn mynd o ddrws i ddrws yn ystod y cyfnod rhwng Noswyl Nadolig a chanol mis Ionawr.
Mae'r penillion i gyd yn cynnwys cais am rannu diod a bwyd, a'r bardd di-Gymraeg Vernon Watkins yn gafael yn naws yr arferiad braf ar ganol llymder y gaeaf yn ei gerdd Ballad of the Mari Lwyd:
'There were jumping sausages, roasting pies,
And long loaves in the bin,
And a stump of Caerphilly to rest our eyes,
And a barrel rolling in.
O a ham-bone high on a ceiling hook
And a goose with a golden skin,
And the roaring flames of the food you cook:
For God's sake let us in.'
Cymunedol
Mae'n bosib mai'r elfen fwyaf trawiadol o'r holl draddodiadau Cymreig hyn yn ein golwg ni heddiw yw eu naws gymunedol; rydyn ni wedi mynd i feddwl am gyfnod y Nadolig fel amser i'r teulu yn bennaf oll dros y degawdau diwethaf, ond cyfnod mwy cymdeithasol oedd hi yn draddodiadol.

Parti Nadolig yn ardal Bro Ddyfi
Mae pob un o'r arferion uchod yn adlewyrchu hynny, gyda digwyddiadau lle byddai amryw yn cymryd rhan, a phwyslais ar y cyd-greu - lawn cymaint â'r cyd-fwyta ac yfed.
Hefyd o ddiddordeb: