
Cafodd yr achos ei gynnal yn Llys y Goron Casnewydd
Mae ymgynghorydd ariannol wedi ei gael yn ddieuog o gyhuddiad o dwyllo miloedd o bunnoedd gan ei fam.
Roedd Simon Haydock, 49 o Gaerdydd, yn dweud bod ei fam wedi rhoi siec iddo am dros £137,000 yn 2010 ar ôl gwerthu ei chartref, ac mai rhodd oedd yr arian iddo'i ddefnyddio fel y mynno.
Ond roedd Geraldine Haydock yn dweud mai'r bwriad oedd i'w mab - cyfarwyddwr cwmni rheoli cyfoeth Cascade - fuddsoddi'r arian ar ei rhan.
Wedi'r dyfarniad yn Llys y Goron Casnewydd, fe ddywedodd Mr Haydock bod y tair blynedd a hanner diwethaf wedi bod yn "erchyll" i'w deulu a bod "neb ar ei ennill" o ganlyniad i'r achos.
Ymddiried yn ei mab
Fe gymrodd y rheithgor ychydig dros dair awr i ddod i'w penderfyniad ddydd Mawrth wedi achos a barodd dros wythnos.
Roedd y Barnwr Daniel Williams wedi dweud wrthyn nhw bod yna "wrthdaro llwyr yn y dystiolaeth" mewn cysylltiad â bwriad Mrs Haydock wrth roi'r arian i'w mab.
Dywedodd hithau wrth y llys na fyddai wedi rhoi ei holl arian i un o'i phlant, yn hytrach na'i rannu rhwng ei thri phlentyn, a'i bod heb fynnu dogfennau ffurfiol am ei bod yn ymddiried yn ei mab.
Ond dywedodd yntau bod ei fam wedi rhoi'r arian er mwyn iddo gael "ei fwynhau gyda'i deulu ifanc".