Siwa yn ennill Hanner Marathon Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Ben Siwa groesodd y llinell yn gyntaf mewn 62 munud
Ben Siwa o Uganda oedd yn fuddugol yn ras Hanner Marathon Caerdydd, gan redeg ei amser gorau erioed.
Gorffennodd y ras mewn awr, dwy funud a saith eiliad.
Bydd union lwybr ras dydd Sul yn cael ei defnyddio pan gynhelir Pencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yn y ddinas y flwyddyn nesaf.
Gorffennodd Gideon Kimosop o Kenya yn gryf i sicrhau'r ail safle gan guro Dan Tanui ac Assefa Bekele.
Lenah Jerotich, hefyd o Kenya, enillodd ras y menywod, gyda Richie Powell yn ennill y ras gadair olwyn.
Ryan McLeod oedd y Prydeiniwr cyflymaf, yn gorffen yn y pumed safle gan guro'r Cymro Dewi Griffiths.
Fe wnaeth tua 22,000 gymryd rhan yn y ras.
Bu nifer o ffyrdd y brifddinas ynghau bore Sul ar gyfer yr achlysur.