Caryl Parry Jones

Sioc i Fardd Plant Cymru

Tlodi iaith yn synnu Caryl Parry Jones

Dywedodd Bardd Plant Cymru iddi gael "sioc" o weld y dirywiad mawr yn y Gymraeg yn ystod ei hymweliadau ag ysgolion ar hyd a lled Cymru.

A hithau ar fin trosglwyddo'r swydd i'w holynydd yn Eisteddfod yr Urdd eleni dywedodd Caryl Parry Jones iddi gael ei synnu gymaint fu dylanwad y Saesneg ac Americaneg ar eirfa plant.

Wrth sôn am ei thymor yn fardd plant dywedodd Caryl wrth Dei Tomos ar BBC Radio Cymru:

"Os oes yna rywbeth negyddol wedi dod o'r daith yma [o gwmpas ysgolion Cymru] - a phositif ydi'r rhan fwyaf - dydi o ddim yn or-ddweud imi gael sioc gyn lleied o eirfa barod sydd yna," meddai.

"Wrth fynd o gwmpas y gwahanol ardaloedd rydw i wedi gweld bod yna ddirywiad yn y Gymraeg mewn ardaloedd lle na fyddech chi'n disgwyl.

"Mynd i ardaloedd gwledig yn y gorllewin lle mewn dosbarth o ugain mae 16 yn Saeson - nid Cymry di-Gymraeg; nid o gefndiroedd Cymraeg ond yn Saeson rhonc ac wrthi'n dysgu Cymraeg ac mae'r baich sydd ar yr athrawon yma i'w troi yn Gymry yn aruthrol.

"Mi ewch chi i ysgolion y de yng Ngwent ac ym Morgannwg a Chaerdydd a Chastell-nedd, Abertawe ac ati ac er bod y mwyafrif o'r plant yn dod o gartrefi di-Gymraeg mae'r ewyllys yna . . . ac maen nhw wedi cael eu hanfon yno am fod eu rhieni am iddyn nhw fedru siarad Cymraeg ond yn yr ardaloedd mwy traddodiadol Gymraeg a Chymreig mae yna ganser mewn ffordd lle mae'r Gymraeg yn dirywio a lle nad ydi'r eirfa ar flaenau tafodau pawb.

"Mae'n anodd oherwydd mae popeth mae plant yn ei fwynhau y Nintendo Wiis, DVDs y Cartoon Channel - maen nhw i gyd yn Saesneg ac nid yn unig yn Saesneg ond yn Americaneg ," meddai gan ychwanegu bod y geiriau hyn yn britho iaith plant.

Ond yr oedd eithriadau:
"Yr ydw i wedi bod mewn ysgolion lle mae'n fêl i'r glust ," meddai gan gyfeirio wrth eu henwau at Ysgol Llanddoged ger Llanrwst, Ysgol Llangefni, Ynys Môn, Ysgol Bro Plennydd yn Y Ffôr a oedd meddai yn "enghraifft wych o'r Gymraeg ar ei gorau" er nad oedd pawb yn dod o gefndiroedd Cymraeg. - "Ond llond ceg o Gymraeg," serch hynny.

"Ac imi gael bod ychydig bach yn wleidyddol - a dydw i ddim yn honni fod gen i y ffeithiau i gyd - ond os oes yna unrhyw enghraifft o pam na ddylai ysgolion bach y wlad gau honna di'r un," meddai.

"Mae'r Cymry yn y mwyafrif yno felly mae'r rheini sydd wedi symud i mewn yn gorfod cael eu boddi mewn Cymreictod a'r iaith Gymraeg," meddai.

Yn ystod ei sgwrs bu'n sôn hefyd am natur y gweithdai y bu'n eu cynnal gyda'i her gyntaf i blant i ddisgrifio i ymwelydd o blaned arall beth yw barddoniaeth.

Darllenodd hefyd rai o'r cerddi a wnaeth argraff arni.

Y sgwrs rhwng Dei Tomos a Caryl Parry Jones ar ei raglen nos Sul ar BBC Radio Cymru

Bydd enw olynydd Caryl yn fardd plant yn cael ei gyhoeddi ar faes Eisteddfod yr Urdd nos Fawrth yr wythnos hon.


BBC © 2014Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.