|
|
BBC Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
| » | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | |||||||||||
Cefndir![]() Sian Eirian - diwedd cyfnodEi steddfod gyntaf yn fedydd tân Yng Nghaerfyrddin eleni bydd cyfnod o bron i 25 mlynedd o weithio i'r Urdd yn dirwyn i ben i Sian Eirian. Dros y chwe blynedd diwethaf hi fu'n gyfrifol am Eisteddfodau Cenedlaethol y mudiad - ac eisteddfodau tra gwahanol i'w gilydd fu nhw hefyd. Steddfod deledu Nid lleiaf y gyntaf iddi ei threfnu - Eisteddfod a gynhaliwyd nid ar faes ond mewn stiwdio deledu pan fu'n rhaid gohirio Eisteddfod yr Urdd Caerdydd 2001 oherwydd y Clwy'r Traed a Genau. "Felly, fy her gyntaf i yn y swydd oedd gorfod trefnu gŵyl deledu i'r Urdd mewn chwech wythnos. "Yr oedd yn fedydd tân ond yn brofiad anhygoel ac yn arbrawf arloesol," meddai wrth gael ei holi gan BBC Cymru'r Byd ddiwrnodau cyn pacio'i bagiau ar gyfer symud i Gaerfyrddin i'w heisteddfod olaf yn Gyfarwyddw Eisteddfod a Chelfyddydau yr Urdd. Wedi'r Steddfod bydd yn symud i weithio at S4C. Mae'n ddiwedd cyfnod cyffrous i'r ferch o Langernyw a ddewiswyd yn ddiweddar yn Ferch y Flwyddyn 2006 y Western Mail ac yn Ferch y Celfyddydau a'r Cyfryngau y papur. Swyddog datblygu Dim ond gyda'r Urdd y mae Sian wedi gweithio hyd yn hyn - ymunodd a'r Mudiad yn 1983 yn Swyddog Datblygu Gorllewin Clwyd. Daeth wedyn yn Swyddog Datblygu Conwy a Dinbych ac yn Gyfarwyddwr y Gogledd cyn ei phenodi yn 2001 i ofalu am eisteddfodau'r mudiad. Canolfan y Mileniwm Un o ddigwyddiadau mwyaf cofiadwy ei chyfnod oedd trefnu eisteddfod genedlaethol y mudiad yng Nghanolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd - arbrawf pwysig yn hanes Eisteddfod yr Urdd. Bu'r ferch sy'n aelod o'r Urdd ers yn blentyn yn sôn am hyn ac agweddau eraill o'i gwaith gyda'r Urdd wrth ohebydd BBC Cymru'r Byd. Cliciwch YMA i ddarllen ymhellach . . . Cysylltiadau
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |