|
|
BBC Homepage Cymru'r Byd | |||||||||||
| » | |||||||||||
| |||||||||||
Ymateb Cymorth Wedi mwynhau'r ddalen hon? Anfonwch hyn at gyfaill! | |||||||||||
Cefndir![]() Sian Erian - blynyddoedd yr UrddBlynyddoedd cyffrous gyda mudiad nad oes ei debyg Yn un o blant yr Urdd Ydw, yr ydw i yn un o 'blant yr Urdd' ac wedi bod yn ddigon ffodus i fod yn rhan o gyfnod euraidd yn hanes Aelwyd Bro Cernyw oedd yn cipio gwobrau - corau aelwydydd, nosweithiau llawen ac yn y blaen. Doeddwn i ddim yn cystadlu'n unigol gyda'r Urdd ond roeddwn i'n cystadlu'n unigol mewn steddfodau bach ar ganu a llefaru ond na, wnes i erioed ganolbwyntio ar yr ochr honno ond fe wnes i fwynhau fy nghyfnod efo'r côr yn Aelwyd Bro Cernyw. Roedd yn Aelwyd anhygoel o gref ar y pryd - mae yna drai a llanw yn 'does i bob Aelwyd ac mae Aelwyd bro Cernyw ar hyn o bryd yn gref unwaith eto ac roeddwn i'n ffodus iawn i fod yn rhan o gyfnod cryf arall pan oeddem ni nid yn unig yn cystadlu ond yn ymuno â'r holl weithgareddau eraill a'r cymdeithasu. Mae nyled i'n fawr am y cyfleoed euraidd gawsom ni. Dylanwad mawr Roedd y diweddar Llew Williams, arweinydd yr Aelwyd, yn ddylanwad mawr ar fy mywyd i ac yn ennyn hunan hyder yn yr aelodau fel unigolion a sicrhau ein bod yn cael y profiadau gorau. Roedd o'n meithrin ein talentau yn ifanc iawn ac ef wnaeth fy annog i fynd am swydd efo'r Urdd am y tro cyntaf. Eisteddfod Traed a Genau Fy Steddfod gyntaf, i fod, oedd Caerdydd 2001 ond bythefnos i mewn i'r swydd roeddwn i mewn trafodaethau ynglŷn â Chlwy'r Traed a Genau a gorfod canslo'r Steddfod. Felly, fy her gyntaf i oedd gorfod trefnu gŵyl deledu i'r Urdd mewn chwech wythnos. Yr oedd yn fedydd tân ond yn brofiad anhygoel ac yn arbrawf arloesol wnaeth weithio. Saith mlynedd o fwynhad Weithiau mi fyddai'n meddwl, pe byddwn i'n gwybod beth oedd o mlaen i fyddwn i ddim wedi mentro i'r maes! Ond mae wedi bod yn brofiad gwirioneddol wych a fyddwn i ddim eisiau bod wedi colli'r un munud, yr un eiliad achos yr ydw i wedi mwynhau'r saith mlynedd fel Cyfarwyddwr Eisteddfod a fy ngyrfa efo'r Urdd . Maen nhw wedi bod yn brofiadau anhygoel sydd wedi'm galluogi i greu cysylltiadau arbennig. Gwirfoddolwyr yn fendith Mae gen i barch aruthrol i'r gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru sy'n mireinio talent plant a phobl ifainc a rhoi o'u hamser prin . Nid yn unig hynny ond gwirfoddolwyr sy'n ymwneud â'r holl waith o gynnal Steddfod, y codi arian, y cynnal pwyllgorau i sicrhau fod pobl ifainc yn cael y profiadau gorau posib. Partneriaeth ydi Eisteddfod yr Urdd ac mae hi'n bartneriaeth arbennig iawn ac oni bai am wirfoddolwyr fyddai gennym ni ddim Eisteddfod. Edrych ymlaen Mae'n bedair blynedd o waith ar gyfer pob Steddfod. Ar hyn o bryd mae pawb ohonom yn gweithio ar 2007 ond o ran blaen gynllunio rydw i wedi bod yn gweithio ar eisteddfodau hyd at 2013. Gwerth eisteddfod deithiol Gogoniant y ffaith ein bod yn teithio ydi bod gwaddol mor gyfoethog yn cael ei adael ar ôl. Mae hon yn genhadaeth bwysig gan yr Urdd fel mudiad. Yr adborth ydym ni'n gael yn ôl o'r cymunedau yw eu bod wedi dod yn nes at ei gilydd ac yn sicr o ran y Gymraeg ei bod wedi gwneud gwahaniaeth. Mae rhywun yn edmygu nid yn unig y gwaith sy'n cael ei wneud ar gyfer yr Eisteddfod ond y gwaith yn y cymunedau flwyddyn ar ôl blwyddyn cyn inni ddod ac ar ôl inni fynd. Steddfodau cofiadwy Mae uchelbwyntiau gwahanol i bob Eisteddfod ac mae'n anodd dewis eisteddfodau unigol cofiadwy. Yr oedd yr Ŵyl deledu yn uchafbwynt. Wedyn Eisteddfod Caerdydd [a ohiriwyd tan 2002] am ei bod fy Eisteddfod gyntaf gyda maes. Dwi'n gobeithio ein bod ni yn ystod y cyfnod wedi arbrofi ac arloesi ac wedi symud yr Eisteddfod yn ei blaen. Mae cynnal rhagbrofion ar y maes yn hytrach na bod yng nghoridorau ysgolion yn ddatblygiad ac yn help i greu yr ymdeimlad o Ŵyl. Eisteddfod Canolfan y Mileniwm oedd yr her a'r sialens fwyaf ac yr oedd gweld y cynhyrchiad o Les Miserables yn uchafbwynt a'r ffaith inni lwyddo i weddnewid Canolfan y mileniwm yn bentref celfyddydol am yr wythnos gydag atyniadau Cymraeg ym mhob twll a chongl ohoni. Ysgoloriaeth Mae Ysgoloriaeth Bryn Terfel wedi bod yn bwysig i mi a chefnogaeth Bryn Terfel ei hun. Rwy'n gobeithio bod y dosbarthiadau meistr wedi cryfhau profiadau ein haelodau ac mae'n hyfryd gweld yr unigolion sydd wedi llwyddo yn y meysydd hynny yn fodlon dod yn ôl i gynorthwyo'r mudiad. Mudiad ar ei ben ei hun Mae'r Urdd yn fudiad unigryw. Does yna ddim byd arall y tu allan i Gymru y gallwn ni ei gyffelybu ag ef. Mae rhai sy'n mynd allan o Gymru, i golegau ac ati, yn gwerthfawrogi y cyfleoedd unigryw maen nhw wedi gael. Yr oedd Syr Ifan ab Owen Edwards yn ddyn blaengar iawn . O flaen ei oes. Mae ein dyled ni'n aruthrol - nid yn unig y Steddfod ond yr holl bethau mae'r mudiad yn ei gyflawni. Mae'n cyffwrdd a bywydau cynifer o blant a phobl ifanc dwi'n gobeithio ei fod yn gwneud gwahaniaeth. Ac os yda ni'n gallu gwneud gwahaniaeth i brofiadau bywyd pobl ifanc yna mae cyfraniad yr Urdd yn allweddol. Her ariannol Mae cost yr Eisteddfod yn £1.7m. Mae maint y dasg o godi'r arian yn her flynyddol ond mae yna bartneriaethau gan y Mudiad sy'n sicrhau ein bod ni yn gallu cyflawni hynny. Hyfrydwch Shir Gâr Dwi wedi mwynhau pob munud o gydweithio gyda phobl Shir Gâr - sy'n ardal ddiarth i mi. Mae eu brwdfrydedd a'u hymroddiad nhw yn anhygoel. Maen nhw wedi gweithio nid yn unig i sicrhau y bydd pobl ifainc y sir yn cael y profiadau gorau posibl ond y bydd Cymru gyfan yn cael croeso yno. Rydw i'n symud yno am y mis olaf ac yn edrych ymlaen at gartrefu yn eu plith nhw am fy nghyfnod olaf yn y swydd yma. Merch y flwyddyn Mae fy niolch i wrth gwrs i'r gwirfoddolwyr ar hyd a lled Cymru, i blant a phobl ifainc Cymru, am eu cefnogaeth ac i'r tîm o staff ysbrydoledig sydd gen i. Hebddyn nhw fyddwn i'n gallu cyflawni dim. Ond mae'r wobr [Merch y Flwyddyn 2006 y Western Mail] wedi bod yn fodd i godi proffil yr Urdd a'r gwaith da o safbwynt plant a phobl ifanc. Mae nifer fawr o straeon negyddol yn y wasg am blant a phobl ifanc a dwi'n credu mai dathlu eu talentau nhw ddylem ni a'u clodfori lawer iawn mwy oherwydd maen nhw'n cyflawni gwyrthiau. Mae'n gyfle i mi drwy y wobr ddathlu talentau a llwyddiannau ac mae'n gyfle hefyd imi genhadu dros y Gymraeg a'i diwylliant. Cysylltiadau
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys safleoedd rhyngrwyd allanol |
About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy |