 Canu clodydd safleoedd
Yn dilyn llwyddiant cynnal Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar faes parhaol sioe amaethyddol Môn yr wythnos hon galwyd ar yr Urdd i gynnal mwy o eisteddfodau'r dyfodol ar feysydd o'r fath.
Dywedodd Nia Thomas, gohebydd materion gwledig gyda'r BBC a llywydd dydd Mawrth yn yr Wyl, i Gymdeithas Amaethyddol Môn fuddsoddi yn fawr i drawsnewid y maes lle cynhelir ei sioe flynyddol.
"Bu hyn yn her i Gymdeithas Amaethyddol Môn," meddai, "ac mae'r trawsnewid wedi body n anhygoel."
"Ac mae'r Urdd yn profi yr wythnos hon beth sydd yn bosibl i'w gynnal ar y maes hwn," ychwanegodd.
AAc awgrymodd i'r Urdd y dylai fantetsio ar gyfleusterau tebyg mewn rhannau eraill o Gymru er mwyn arbed rhywfaint ar y gost wrth symud yr eisteddfod o le i le.
"Ac mae yna nifer ohonyn nhw," meddai.
| |
|