BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

BBC Homepage
Cymru'r Byd
»Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Cefndir
Enwau lleoedd difyr

Enw o fri - ond mae yna rai eraill diddorol hefydBe sydd mewn enw? Dewch i wybod am leoedd gydag enwau difyr ar hyd a lled Ynys Môn







Caergybi: ers y dydddiau cynnar bu sawl enw ar Gaergybi cyfuniad o Caer a'r enw sant, Cybi. Llan neu Llam y Gwyddel oedd y lle yn y cyfnodau cynharaf. Bu hefyd yn Eglwys y Beddi, Cor Cybi a Haliheved. Tua'r bedwaredd ganrif ar ddeg y gwelwyd Caergybi gyntaf ond yn yr ail ganrif ar bymtheg gwelwyd hefyd y ffurf Gorffwysfa Gybi.

Corn Hir: enw ty yn wreiddiol ond yn awr yn enw ar ran o Langefni. Mae'r ystyr yn amlwg.

Glasinwen: y dwr rhwng Môn ac Ynys Cybi. Glas yn yr ystyr o wyrdd fel ag yn glas-wellt yw hwn ac yn cyfeirio at liw y dwr o bosibl.

Kingsland: ardal o Gaergybi y newidwyd ei henw o Penllechnest i gydfynd ag ymweliad George y pedwerydd yn 1821 ar ei ffordd i Iwerddon lle y rhoddodd yr un enw i Dun Laoghaire.

Llannerch-y-medd: neu yn ôl rhai, gan gynnwys Morrisiaid Môn, Llannerch-y-meddwin! Mae'n ymddangos fod medd yn cael ei gynhyrchu yma ar un adeg pan oedd Môn yn goediog a llannerch yn nodwedd i dynnu sylw ati.

Moelfre: cyfuniad o moel a bryn. Bryn llwm.

Niwbwrch: Newborough oedd yr enw a roddwyd ar y lle gan Edward I pan symudodd drigolion Llanfaes yno. Rhosyr oedd yr enw ar yr ardal cyn hynny gyda 'myr' yn hen luosog o môr.

Porthaethwy: Yr hen goel yw i'r trigolion cyntaf gyrraedd Môn mewn dwy don. Â'r don gyntaf wedi ymsefydlu cyrhaeddodd yr ail griw o bobol ac ar ochr Arfon i'r Fenai dyma nhw'n holi yn lle yn union y croesodd y criw cyntaf a derbyn yr ateb; "Dyna'r fan lle'r aetuhont hwy." Byth ers hynny adnabuwyd y lle fel Porth-lle'r-aethont-hwy a gywasgodd yn Porthaethwy. Wrth gwrs, celwydd noeth yw hynny ac yn ôl rhai sy'n gwybod yn well hen enw llwythol ydi Daethwy.

Pentreberw: mae'n ymddangos fod y planhigyn berw dwr yn ffynnu yn yr ardal. Enw arall ar y lle yw Holland Arms oddi wrth dy tafarn o'r enw hwnnw a enwyd at ôl teulu Holland Plas Berw gerllaw.

Porth Dafarch: er nad oes eglurhad pendant i'r enw hwn mae ysgolhieigion yn eithaf sicr nad cywasgiad o Porth Dau Farch ydyw fel y mynn rhai. Y ffurf ar un adeg oedd Porth Davagh ac awgrymwyd mai enw person yw'r ail elfen er nad yw Tafarch yn enw cyffredin iawn.

Porth Swtan: er bod rhai yn mynnu i'r fan hon gael ei henwi ar ôl y milwr Rhufeinig Suetonius Paulinus y dywedir iddo arwain ymosodiad yn erbyn y Derwyddon go brin fod hynny'n gywir ac nad yw swtan yn ddim amgen nag enw pysgodyn sy'n cael ei adnabod fel whiting yn Saesneg!

Rhosneigr: Yr oedd Yneigr yn un o wyrion Cunedda Wledig a dywedir iddo ymladd ochr yn ochr â Chadwallon Lawhir ym Mrwydr Cerrig y Gwyddyl yn y bumed ganrif pryd y cafodd y Gwyddelod eu hel o'r ynys.

Rhostrehwfa: yr enw sy'n gwenud ichi feddwl am lanhau'e ty! Cyfuniad yw o Rhos, wrth gwrs, ac enw fferm, Tre Hwfa Hwfa yn enw ar berson.

Rhos y Gad: enw ar ddarn o dir comin ger Llanfairpwllgwyngyll ac er mor hwylus fyddai cysylltu'r lle a brwydrau oherwydd yr elfen 'cad' yn yr enw mae'n ymddangos mai Rhos y Gath oedd y ffurf wreiddiol gan gyfeirio at gathod gwyllt oedd yn gyffredin ym Môn rai canrifoedd yn ôl.


cyfannwch

Llanbabo.
Fel bo'r son roedd Brenin Pabo, o Lanbabo ella? A rhigwm Llanerchymedd y Bondo ble ganwyd Brenin Pabo!



Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad:

Sylw:



Mae'r BBC yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir Fôn

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am Fôn

Gwŷr Mawr Môn

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Urdd Gobaith Cymru
Canlyniadau cystadlaethau cartref
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy