BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

BBC Homepage
Cymru'r Byd
»Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Sioe Joseff

Sion EifionActor a gymerodd ran yn y ddrama deledu, Treflan fydd yn chwarae'r brif ran yn sioe gerdd plant ysgolion cynradd Eisteddfod yr Urdd ym Môn.




Siôn Eifion, 11, fydd Joseff yn addasiad Cymraeg Aled Lloyd-Davies o Joseph and the Amazing Technicolour Dreamcoat.

Daeth y bachgen o Lanfaelog yn gyfarwydd ar deledu fel y Rhys Lewis ifanc yn y ddrama gyfnod Treflan.

Ers ei sgrifennu'n wreiddiol yn 1968 ar gyfer ysgol yn Llundain mae'r sioe wedi tyfu a denu enwogion fel Jason Donavan, Phillip Schofield ac Aled Jones sy'n dod o Landegfan Môn.

Bydd 140 o blant yn cymryd rhan yn y cynhyrchiad dan gyfarwyddyd Iola Ynyr o Gwmni'r Frân Wen.

"Stori am genfigen ac am faddau ydi hi," eglurodd Siôn Eifion sydd wedi ymddangos mewn cynhyrchiad o Beauty and the Beast yn Lerpwl cyn ei fod yn saith oed ac yn y ffilmiau teledu, Eldra a Treflan.

Bydd hefyd i'w weld cyn bo hir mewn cyfres newydd o Iechyd Da ar S4C.

Dywedodd i'r cynnig o'r brif ran yn Joseff fod yn dipyn o sioc iddo.

'Ar ôl bod i'r clyweliad nes i ddeud wrth mam mod i ddim yn meddwl mod i wedi cael y rhan oherwydd roedd na lot o blant da iawn yn trio yn fy erbyn i. Ond naetho nhw fy ngalw i fewn i'r ystafell a deud, 'Hwn fydd Joseff,' ac ro'n i'n falch iawn, meddai.

"Dw i'n licio'r sioe mae hi'n llawn o ganeuon gwahanol a ti'n gorfod symud a rhedeg o gwmpas lot, felly ti angen lot o egni. Ond be dw i'n licio ora amdani ydi cymeriad y Brenin Pharo, oherwydd mae o'n canu roc a rôl fatha Elvis!"

Cyfarwyddwr cerdd y sioe yw Andrew Angel, pennaeth ysgol gynradd Pentraeth. "Mae bod yn rhan o'r sioe yn cynnig cyfle ardderchog i'r plant fwynhau actio a chanu a datblygu eu sgiliau," meddai. "Maen nhw wrth eu bodd efo'r sioe gan fod yma ddigon o amrywiaeth o ran steils a rhythm y caneuon, o roc a rôl, i gân Ffrengig a chalypso."

Andrew hefyd sy'n cyfeilio i Sioe Gerdd Ieuenctid yr Eisteddfod eleni Llwch yn ein Llygaidgan Rhian Mair Jones a Delyth Rees, sydd hefyd yn gyfarwyddwyr llwyfan a cherdd ar y sioe.

Ffuglen yw Llwch yn Ein Llygaid wedi ei sylfaenu ar ddau ddigwyddiad yn hanes Môn ond sydd hefyd yn bethnasol i gyflwr yr Ynys heddiw. Fe'i perfformir gan ddisgyblion ysgolion uwchradd.

Cymerir rhan yng nghyngerdd agoriadol yr Eisteddfod, nos Sul, gan y tenor o Lanbedrgoch, Gwyn Hughes Jones.

Dyma fanylion am berfformiadau pwysig yr Eisteddfod:
Cyngerdd Agoriadol gyda Gwyn Hughes Jones ac artistiaid eraill: Nos Sul, 30 o Fai, 7.30y.h yn y Pafiliwn; Oedolion £12.00, plant £6.00

Joseff: (Sioe Ysgolion Cynradd), Nos Fawrth a Mercher, 1- 2 Mehefin, 7.30y.h yn y Pafiliwn; Oedolion £8.00, plant £5.00

Llwch yn Ein Llygaid:(Sioe Ieuenctid), Nos Sadwrn, 29 Mai, Nos Lun, 31 Mai yn Ysgol Uwchradd Llangefni, 7.30y.h, Oedolion £8.00, plant £5.00

Oedfa'r Bore ar y thema Pontydd' (Gwneir casgliad tuag at ymgyrch 'Croeso Calcutta'), bore Sul, 30 Mai, 10.00.

Cymanfa Ganu: Nos Sul, 6 Mehefin, 6.00. Capel Hyfrydle, Caergybi. Mynediad drwy raglen: £3.00.

Lluniau o'r sioeau



Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir Fôn

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am Fôn

Gwŷr Mawr Môn

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Urdd Gobaith Cymru
Canlyniadau cystadlaethau cartref
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy