BBC HomeExplore the BBC
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Eisteddfod yr Urdd - 2004

BBC Homepage
Cymru'r Byd
»Urdd 2004
O'r Maes
Lluniau'r Wythnos
Cefndir
Cysylltiadau

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

O'r Maes
Tlws John a Ceridwen Hughes

HeulwenArweinydd un o aelwydydd enwocaf Cymru sydd wedi ennill gwobr yr Urdd am gyfraniad nodedig i bobl ifainc Cymru eleni.



Derbyniodd Heulwen Davies o Ddolannog, Maldwyn, Dlws John a Ceridwen Hugges yn ystod seremoni ar lwyfan yr eisteddfod nos Lun.

Bu Heulwen, 43, yn arweinydd corawl Aelwyd Penllys ers dros 15 mlynedd ac yn ystod y cyfnod hwnnw daeth ei chorau i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd sawl tro.

Mae hynny'n cynnwys côr cymysg mawr a bach, côr meibion a pharti merched.

Ymddangosodd Côr Penllys ar lwyfan yr Urdd yn ddi-dor er 1989 ac mae'r aelodau'n "dawel hyderus" y byddan nhw ar y llwyfan eto eleni.

O Lanerfyl y daw Heulwen yn wreiddiol ac yn un o deulu cerddorol y Jamesiaid. Ei chwaer yw'r delynores, Alwena Roberts. Ei chwaer arall, Olwen Chapman, ydi prifathrawes Ysgol Gynradd Llanerfyl lle bu'r tair yn ddisgyblion.

O Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion aeth i astudio cerddoriaeth yn y brifysgol yng Nghaerdydd.

Dychwelodd i fro ei mebyd ac mae'n awr yn bennaeth adran gerdd ei hen ysgol yn Llanfair Caereinion lle mae'n olynnu Shân Cothi a Linda Gittins.

Mae'n briod â ffermwr lleol ac yn fam i bedwar o fechgyn, Carwyn, Rhys, Gerallt a Rhodri sydd hefyd wedi eu trwytho yn y diwylliant cerddorol Cymraeg.

Mae dau ohonyn nhw yn aelodau o Ynys Penllys ac o gôr eu mam.

Mae Gwobr John a Ceridwen Hughes yn wobr flynyddol yn Eisteddfod yr Urdd ac yn cael ei dyfarnu "i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ieuenctid Cymru" ac fe'i noddir gan Gerallt a Dewi Hughes yn enw eu rhieni.

Cefndir
Fel maen nhw'n dweud yn Sir Fôn

Cofio dyddiau cynnar yr Urdd

Ffeithiau difyr am Fôn

Gwŷr Mawr Môn

Bryn Terfel yn canu clodydd yr Urdd

Enwau lleoedd difyr

Prif seremoniau yr Eisteddfod

Pethau ar y maes

Tyger y ci dewr

lluniau'r wythnos
Sioeau Cerdd

O gwmpas yr ynys - 2

O gwmpas yr ynys - 1

Lluniau dydd Llun

Lluniau dydd Mawrth

Lluniau dydd Mercher

Lluniau Dydd Iau

Lluniau Dydd Gwener

Lluniau Dydd Sadwrn

O'r Maes
Gwlad y Medra wedi medru!

Yr ifanc yn siomi - gwallus ac heb angerdd

Cysylltiadau eraill
Yr Urdd ar Lleol i Mi
Urdd Gobaith Cymru
Canlyniadau cystadlaethau cartref
Mwy...
gwegamera ar y maes


About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy