
Disgyblion ysgolion uwchradd ac aelodau'r Urdd dan 19 a 25 sy'n cystadlu'n bennaf ar ddydd Gwener gyda phrif seremoni'r dydd - Defod y Coroni - yn cael ei chynnal am 2.30pm.
Anrhydeddir y prif lenor am ddarn neu ddarnau o ryddiaith dros 4,000 o eriau ar y thema Egin.
Parc Cenedlaethol Eryri sy'n rhoi'r goron eleni sydd wedi ei chreu gan John Price o Fachynlleth.
Meistr y Ddefod yw Gwynedd Glyn (a'i henillodd yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 1998), a'r Beirniaid yw Catrin Dafydd a Meg Elis.
Llŷr Titus o Ben Llŷn a enillodd y Goron yn Abertawe y llynedd a ddydd Mercher, camodd i'r llwyfan i dderbyn Medal Ddrama 2012 hefyd.
A chysylltiad pellach gydag enillwyr 2012 ydy mai enillydd y Gadair ddydd Iau, Gruffydd Antur, sydd wedi ysgrifennu'r cwpled sy'n ymddangos ar flaen y Goron: 'Pery awen y llenor; Pan na fydd mynydd na môr.'
Ddiwedd y pnawn am 5.35pm ceir cyflwyniad gan Aelwydydd Crymych a Maenclochog i groesawu Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir Benfro 2013.
Bydd drysau'r Pafiliwn yn ail-agor nos Wener am 6pm ar gyfer Cystadleuaeth Cerddorfa/Band dan 25 oed, gyda'r cyflwyniad i fod ddim hwy nag 8 munud.




