Bydd gig am ddim yng nghanol Abertawe nos Fercher yr Eisteddfod.
Dyma noson agoriadol Gŵyl Tyrfe Tawe sy'n cydredeg ag Eisteddfod yr Urdd eleni.
Bydd pedwar band lleol, Yr Angen, Nebiwla, Fast Fuse a'r Brodyr Coll yn perfformio yn Nhŷ Tawe, yng nghanol y ddinas.
Mae'r trefnwyr hefyd yn gobeithio rhoi llwyfan i arddangos a chyflwyno talent gerddorol pobl ifanc Abertawe.





