Mae 'anthem' a gyfansoddwyd ar gyfer Eisteddfod yr Urdd 2010 ar gael i'w lawrlwytho fel tôn ffôn.
Cyfansoddwyd a pherfformir y gân gan Gwenda Owen yn arbennig ar gyfer Eisteddfod Ceredigion.
"Pan ofynnodd yr Urdd i mi ysgrifennu'r gân, fe ofynno nhw am gyfeiriadau at drefi a phentrefi ar hyd a lled y sir a dyna rwyf wedi ceisio ei wneud tra'n estyn croeso cynnes i'r miloedd o gystadleuwyr ac ymwelwyr fydd yn dod i'r ardal fis Mai 2010," meddai Gwenda.
"Mae'n hyfryd gweld y plant yn ymuno yn y canu ac mae'r gân Ceredigion 2010 fel petai wedi cydio yn eu dychymyg," ychwanegodd.
Am ddim
Dywedodd Cadeirydd Pwyllgor Cyhoeddusrwydd yr Eisteddfod, Rhian Dafydd, fod cytgan Ceredigion 2010 ar gael am ddim yn awr i'w lawrlwytho fel tôn ffôn yn dilyn galw mawr.
"Mae'r gân wedi cael ymateb mor ffafriol gan ieuenctid a'r ifanc o galon fel ei gilydd ac rydym wedi cael ceisiadau lu," meddai Rhian Dafydd.
- Gellir lawrlwytho'r dôn ffôn o wefan yr Urdd.
- Gwenda Owen
Straeon heddiw
- Arbediad i aelodau'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol
- Catrin a Tommi yn uno gyda thelyn a llif!
- Darganfod olion Canol Oesol
- Dathlu T Llew
- Deng niwrnod o ddathlu a chystadlu
- Doniau lleol Cyngerdd Agoriadol
- Hanes Llanercherchaeron
- Maes gwahanol
- Sioe Edward H
- Trwydded alcohol i'r Maes
- Trên Bach i rai heb bwff
- Tôn ffôn Ceredigion 2010




