 |  | Agwedd undeb athrawon yn peri pryder i Lydawyr Ofni beth fydd y dyfodol i ysgolion Llydaweg eu hiaith
Dydd Gwener, Ionawr 5, 2001 |
Mae'r newydd bod ail undeb athrawon mwyaf Ffrainc yn gwrthwynebu cynnwys ysgolion Llydaweg o fewn y system addysg yn tanlinellu sefyllfa fregus y Llydawg ac addysg drwy gyfrwng yr iaith yn y wlad honno.
Mae'r undeb, UNSA Education, wedi sgrifennu at Brif Weinidog Ffrainc, Lionel Jospin, yn dweud y buasai dod ag ysgolion Diwan - yr ysgolion Llydaweg eu hiaith sy'n cael eu cynnal yn breifat - tu mewn i gyfundrefn gyhoeddus y wladwriaeth yn groes i egwyddorion sylfaenol Gweriniaeth Ffrainc.
'Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth' Mae hyn yn amlwg yn feirniadaeth o Weinidog Addysg Ffrainc, Jack Lang, sydd â chydymdeimlad â'r syniad o ddod â'r ysgolion Llydaweg eu cyfrwng o fewn y gyfundrefn addysg gyhoeddus y wladwriaeth.
"Yn ôl y cyfansoddiad, Ffrangeg yw iaith y Weriniaeth," medd llythyr yr Undeb.
"Mae'r ffaith fod undeb athrawon yn dangos ei elyniaeth tuag at yr iaith yn eironig ac yn drist," meddai rhiant sy'n anfon ei blant i ysgol Diwan Gynradd Roazon (Rennes) wrth Cymru'r Byd.
"Ond mae'n fater llawer mwy cymhleth. O dan drefn gor-ganolig Addysg Ffrainc mae'n anodd iawn gwybod beth fyddai tynged Ysgolion Diwan pe baen nhw'n cael eu cymryd dan adain Gweinyddiaeth Addysg Ffrainc.
Llai o blant i bob athro "Ar hyn o bryd mae nifer y plant i bob athro neu athrawes yn is yn ysgolion Diwan na'r hyn yw e yn ysgolion y wladwriaeth.
"Mae lle i ofni y buasai'r wladwriaeth yn mynnu bod cyfartaledd Diwan yn debyg i rai Ffrainc. Ac y buasai ysgolion Diwan yn cael eu cau yn y broses o wastadau'r rhifau.
"Ar y llaw arall, mae ysgolion Diwan yn cael eu cynnal yn gwbl wirfoddol ac y mae'r baich ariannol yn fawr. 'Dyw datblygu a chynhyddu nifer ysgolion Diwan o dan y drefn bresennol ddim yn ymarferol.
"Mae gan Jack Lang gydymdeimlad â sefyllfa Diwan ond un ydy e. Mae'n anodd bod a ffydd yn addewidion Ffrainc."
 Ffrainc yn llusgo'i thraed Y mae Gwladwriaeth Ffrainc, yn arbennig y Weinyddiaeth Addysg, yn hollol ganolig ei natur.
O dan y drefn Ewropeaidd bydd yn rhaid ir Wladwriaeth ddatganoli. Ond yn ôl y rhiant o Diwan llusgou traed mae arweinwyr y prif bleidiau Ffrengig i gyd.
"Pe bai gennym ni drefn ffederal fel sydd gan Yr Almaen fe fuasen nin llawer hapusach yn gweld ysgolion Diwan yn cael eu cymryd dan adain y Wladwriaeth," meddai.
"Greddf ein gwleidyddion yw tuag at fwy o ganoli, nid datganoli. Maen ddewis anobeithiol.
Fedrwn ni ddim datblygu, nac agor ysgolion newydd fel mae pethau. Ac y maer peryglon o roi ein ffydd mewn gwleidyddion Ffrengig yn Paris yn fwy."

|
 |