 |  | Bywyd ar Fflat Huw Puw o'r Panama Dydi Iolo ap Dafydd ddim yn ei seithfed ne yng nghynhadledd G8
Dydd Iau, Gorffennaf 19, 2000 |
Lletya ar long Llong yr Azur wedi ei hangori yn y bae yn Genoa ydy nghartref i am y pum niwrnod nesaf.
Na! Na! Cyn ichi fy myddaru i gyda "Pam ddiawl ti'n cwyno" mae'r llong arbennig hon yn bell o fod yn newydd, ac mae wedi ei chofrestru ym Mhanama.
Hmm, da chi'n gwbyod pa mor amheus ydy hynny?! Ond gadewch imi ddechrau yn y dechrau ar y daith hynod i lan môr Liguria .
Pump y bore!
Mae'r wawr wedi torri a chymylau mawr duon yn bygwth glaw, a mwy o law.
A dwi newydd sylweddoli mod i wedi gwneud cythgam o gamgymeriad wrth dorri ar fy ngwyliau er mwyn teithio i Ogledd yr Eidal ynghanol gwres a phrysurdeb canol haf i ohebu yn Genoa ar gynhadledd wyth o wledydd mwyaf a chyfoethoca'r byd.
Croeso i fyd yr G8. Y nhw a arferai fod yn G7! Ac sydd weithiau yn G20!
Peidiwch a phoeni os nad ydio'n glir rwan mi fydd jargon y dyddiau nesaf yn berwi'r brêns neu mi ddaw'r cwbl mor glir a chawl pys slwts erbyn i arweinwyr Siapan, Rwsia, America, Canada a'r giwed Ewropeaidd o Brydain, Ffrainc, yr Eidal a'r Almaen drafod stâd y byd dros dridiau chwyslyd ar lan Môr mawr y Canoldir.
Gadael Gatwick Mi roedd y lle'n berwi. Fel syrcas am ddim yn Rwsia. I ble ma pawb yn mynd? A pham?
Yn barod mi roedd yn edifar gen i fforffedu'r gwyliau prin hir-ddisgwyliedig yng Nghymru - hyd yn oed ynghanol glaw Cymru - am ragor o ruthro dramor a dyddiau hir yn parablu am bolitics a'i effaith arno ni gyd!
I be? Yn enwedig os ydy pawb fel fi yn synfyfyrio am wyliau a diogi tra'n gwylio tonnau'r môr Celtaidd yn llyfu bodiau'n nhraed a glasiad arall o Barolo yn barelu lawr y lôn goch?
Hedfan ar BA am y de wedi hanner awr o "delay", wedyn.
Ymhen hanner awr o hedfan llais mwyn, diwylliedig, y capten yn ein hannog i edrych allan i'r chwith cyn ebychu'r lemon, bod gormod o gymylau i weld Paris yn iawn!
Trio cysgu. Amhosibl mewn awyren yn llawn newyddiadurwyr a'u cydweithwyr. Lleisiau uchel, bostfawr bron, wedi arfer â chael eu clywed, yn cyfarch a chyfarth ar bawb o fewn clyw.
Yna daeth yr hwyl. Hwyl i gadarnhau mod i wedi gwneud camgymeriad ffol i ddod i'r gynhadledd G8 ma.
Roedd hi'n glawio yn Genoa.
Glawio! A finnau wedi gadael fy nghôt yng Nghaerdydd. Ar ochr y lanfa - ar lan y bae - roedd peiriannau tanio taflegrau daear i awyr!!
Rhesi ohonyn nhw fel rhyw bianos sgwâr gwyrdd ar hyd ochr y strip concrid lle glaniodd yr awyren. Wedi eu hanelu dros y bae at y ddinas tu hwnt.
Ydyn nhw'n disgwyl rhyfel neu beth?
Paranoid am brotestwyr
Yn y lolfa gyrraedd roedd Cytundeb Shenegen wedi ei ohirio, ei anghofio, ei atal, beth bynnag a ddywedir gan fod yr Eidalwyr yn gwbl paranoid fod protestwyr lu - tua chan mil yn eu tyb nhw - ar eu ffordd i darfu ar heddwch y gynhadledd a gwneud llanast o Genoa fel a wnaeth rhai ohonyn nhw yn Gothenbwrg y mis diwethaf.
Yn ôl Shenegen gall pobloedd yr Undeb Ewropeaidd a rhai gwledydd eraill Ewrop fynd a dod o fewn y cyfandir heb orfod cael visa a phrin ddangos pasport.
Ddim yma. O'r herwydd mi gymerodd oriau i adael y maes awyr, ac awr arall i gael miliynau o liras o'r banc i dalu'r driefar tacsi.
Ond mi roedd yr hwyl pennaf i ddod. Fe adawodd y tacsi fi a chyfaill o BBC Llundain - yn bell o ble roedden ni fod - wrth giât fawr ddur gyda rhesi o heddlu arfog, milwyr a phob un wan jac a oedd mewn iwnifform, o'r boi llnau toilets i beilot yr hofrennydd a oedd yn gwgu arnon ni uwchben ac yn cario gwn.
Sawl gwn!
Cwrdd a phennaeth swyddfa BBC Brwsel wedyn a oedd wedi bachu beic i gwrdd a ni ger y fynedfa i roi pas gyda'n lluniau ni arno, cyn cychwyn cerdded rownd dociau Genoa at ein lle cysgu!
Gwên blastig Erbyn hyn roedd y wên blastig ar fy wyneb mor lastig a chnoi gwm y wraig. (Mi all hi gnoi gwm - yr un gwm - drwy'r dydd, a'i gadw at y diwrnod wedyn!!)
Ac wele'r Azur. Cyfyfl arall - tsiecio bagiau, chwaneg o archwilio, ateb cwestiynau'r carabinieri cyn cael caniatâd i fyrddio'r "hotel". Gwên wrth ddesg y dderbynfa gan hogan o Rwsia. "Croeso i'r llong," meddai mewn Saesneg.
Ddwywaith, gan ei bod mor falch o'n gweld ni siwr o fod.
Tybed fydd hi mor gwrtais ar ôl cael haid o hacs diamynedd yn cecru ar ddiwedd y penwythnos?
Ac wele'r caban. Llong heb na ffôn, llinell ISDN ar gyfer darlledu, na theledu a radio i glywed be sy'n mynd ymlaen yng ngweddill y byd!
Llong bleser fyddai'r enw caredig ar hon.
I fod i gario ymwelwyr o amgylch Dwyrain Môr y Canoldir. Pobl ariannog Moldofa, Georgia ac Aserbaijan oedd y cwsmeriaid olaf.
Yn ôl DikDik, (dydw i ddim yn cellwair!!) y gwas caban o Indonesia sydd wedi addunedu edrych ar ein holau, mae hi'n llong neis.
Ydy, yn neis iawn!
Wedi ei ffitio yn y 60au rhywbryd yn rhywle dybiwn i.
Ta waeth, er nad oes lle i swingio bag molchi yn y molchfa, na ffenest na modd cael y ffôn symudol i weithio - mae na wely glân.
A diolch amdano, achos ar hyn o bryd, gyda batri y cyfrifiadur bach ma'n dechrau pylu a dim un peth yn gweithio yn Genoa lle mae miloedd o ohebwyr wedi ymgartrefu yn barod, y syniad callaf ydy anelu am y gwely!!
Y drafferth ydy fod yn rhaid imi weithio yma hefyd ..

|
 |