 |  | Cyfoeth Affrica yn creu tlodi a dioddef Dydd Mercher, Mehefin 28, 2000 |
gan Diarmuid Johnson
Ddechrau'r flwyddyn, canolbwyntiodd Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig am fis ar y cyfandir tlotaf yn y byd.
Hwn oedd "Mis Affrica".
Mae cyflwr Affrica - y gwledydd du yn enwedig - yn destun anobaith i wleidyddion, i economegwyr ac i weithwyr dros hawliau dynol.
Mae AIDS yn rheibio'r boblogaeth mewn sawl gwlad.
De Affrica sydd waethaf. Erbyn y llynedd dioddefai bron i 10% o'r boblogaeth o AIDS gyda 50,000 achos newydd bob mis.
Y mae un plentyn allan o bob tri yn cael y clefyd yn y groth. Mae 200,000 o blant yn amddifad oherwydd AIDS.
Mae tlodi dibendraw yn y gwledydd islaw y Sahara:
Mae 45% yn llwgu. Dim ond 15% o'r boblogaeth sydd â safon byw a all gynnal unrhyw dwf economaidd. Mae'r llifogydd Mozambique wedi dadwneud gwelliannau y deng mlynedd cynt. A'r sychder yn Ethiopia yn bygwth er gwaethaf pob cymorth.
Rhyfel yw gwraidd y drwg mewn sawl lle: Angola, Somalia, Sudan, Burundi, a Rwanda, Sierra Leon.
Credir i 1.7 miliwn o bobl farw mewn ugain mis yn y Congo. Mwy na hanner poblogaeth Cymru.
A'r tu ôl i'r anhrefn a'r rhyfel y mae'r diwydiant diemwntau. Diemwntau Rhyfel yw'r enw arnyn nhw bellach.
Yn Affrica y mae pedair o'r pum gwlad bwysicaf yn y byd sy'n cynhyrchu diemwntau - Botswana (1af), De Affrica (3), Angola (4), Namibia (5).
Wedyn y mae Congo (7), Sierra Leon (10), Guinea a Tanzania.
Bu'r holl fwyngloddio yn Sierra Leon ar dir dan reolaeth Foday Sankoh, arweinydd yr RUF, byddin y gwrthryfelwyr.
Yn y Congo, yn nwyrain Kasai, mewn lle ô'r enw Tshibua, mae 500km sgwar yn cael ei ddatblygu gan Oryx Diamonds, consortiwm sydd eisiau cofrestru ar gyfnewidfa stoc Llundain.
Credir y byddai 20% o'r elw yn eiddo i lywodraeth Laurent-Desire Kabila, llywydd y Congo, 40% i Oryx, a 40% i Zimbabwe am fod llywodraeth Mugabe wedi cefnogi Kabila yn erbyn y gelyn o Uganda a Rwanda.
Anodd tu hwnt rheoli gwerthiant y diemwntau. Mae'n nhw yn cael eu hanfon drwy wledydd eraill ac yn cael eu ffug-labelu cyn cyrraedd marchnad Ewrop, yn Anvers, Gwlad Belg, gan fwyaf.
Mae'r gymdeithas Global Witness am i'r mewnforwyr osod amodau llym cyn derbyn y tlysau. Dim ond wrth rwystro unbeniaid Affrica rhag elwa arnyn nhw y gellir eu rhwystro rhag prynu arfau a thalu am eu hymgyrchoedd milwrol.

|
 |