 |  | Eryrod yn casglu Idris Hughes yn sôn am effaith y gaeaf caled ar Ynys Vancouver, Canada. |
Fe gawsom aeaf digon egar yn Nyffryn Comox eleni a phrin iawn oedd lluniaeth ar gyfer yr anifeiliaid gwylltion. Ambell i fore roedd teulu o geirw lleol wrth y drws ffrynt yn cardota am afal neu grystyn. Yr un oedd chwant yr eryrod am bryd o fwyd yn ystod y dyddiau rhewllyd a gorfu inni amryw o weithiau gadw llygaid gofalus ar ein cathod a'n cŵn rhag ofn iddynt ddisgyn i grafangau yr eryrod llwglyd. Ond diolch i garedigrwydd pysgotwyr lleol fe ddaeth gwledd i'w rhan ambell i fore ar y Goose Spit yn Comox.
A dyma nhw yn eu dwsinau yn disgwyl ac yn gwledda ar gardod y caredigion yn ein mysg. Mwynhewch y lluniau ac nac anghofiwch yr adar bach draw yng Nghymru. Mae hi'n aeaf arnynt hwythau hefyd.
(Gyda diolch i dynnwr lluniau lleol.)

|
 |