 |  | Y ferch sy'n hoffi denim
Sian Elin Dafydd yn ysgrifennu o Frwsel am Gymraes sy'n gwybod be di be ym myd dillad
Dydd Llun, Mawrth 25, 2002 |
Mae gan ffrind i mi sy'n byw ac yn gweithio ym Mrwsel y swydd berffaith yn fy nhyb i. Yn gyson mae'n teithio i Milan a Rhufain i drafod ffasiwn
Mae Mared Jenkins sy'n wreiddiol o Aberystwyth yn gyfrifol am drefnu stociau dillad i gwmni Levi's yng ngwlad y chianti a'r cappucino.
Mae'n cael gwisgo jîns i'r swyddfa ac mae'n cael prynu dillad Levi's mewn sêls arbennig am geiniog a dime neu euro a cent i fod yn fanwl gywir!
Ers wyth mis bellach mae Mared wedi gweithio ym mhencadlys Ewrop, Dwyrain Canol ac Affrica Levi's ac yn ystod y cyfnod yma, 'dan ni wedi yfed sawl potel o win, malu awyr, cwyno am fywyd a chael hwyl. Dwi'n teimlo fel taswn i wedi ei hadnabod am flynyddoedd.
Ond er bod y ddwy ohonom wedi byw yng Nghaerdydd ar yr un cyfnod - falle ein bod wedi pasio'n gilydd ar y stryd neu eistedd yn yr un sinema neu dafarn - dyma ni'n cwrdd gannoedd o filltiroedd o'n cynefin.
Cael ffrind i'w helpu Bu'n gweithio i gwmni Peacocks yng Nghaerdydd cyn symud i wlad Belg, gwelodd hysbyseb am swydd mewn cylchgrawn arbenigol gyda Dockers un o is-gwmnïau Levi's yn Amsterdam ond fe aeth gam ymhellach a llwyddodd i gael gwaith ym mhencadlys y cwmni ffasiynol.
Wedi derbyn ei swydd newydd symudodd i Frwsel yn ddidrafferth gan werthu ei char a gosod ei thy ym Mae Caerdydd ar rent.
"Mae'n brofiad grêt gweithio dramor. Roedd hi'n anodd weithiau ar y dechrau ond mae Levi's yn gwmni da sy'n helpu pobl i ymgartrefu'n gyflym," meddai Mared.
"Mae 'na system o fewn y cwmni lle mae rhywun newydd yn cael 'ffrind' am y chwe mis cyntaf ac mae e neu hi ar gael i gynnig cyngor a chynorthwyo."
O'r bedwaredd ganrif ar bymtheg Sefydlwyd Levi's tua chant a hanner o flynyddoedd yn ôl a dyma'r unig gwmni sy'n medru hawlio bod dilledyn a gynhyrchwyd ganddynt yn y 19 ganrif yn dal i gael ei wisgo heddiw.
Ond mae'r ferch hon wedi lledu ei gorwelion ac ar ôl y misoedd cyntaf o weithio gyda Levi's cafodd ddyrchafiad ac mae'n awr yn gyfrifol am gadw trefn ar stociau dillad yr Eidal.
"Mae'n ddiddorol ond mae pob gwlad yn wahanol o ran y mathau o ddillad maent yn eu gwisgo.
"Ym Mhrydain a Ffrainc mae 'na alw mawr am engineered jeans sy'n cael eu hysbysebu ar hyn o bryd yn Ewrop ond yn yr Eidal maen nhw'n dal i hoffi'r pethau mwy clasurol fel y 501s, hipstars a'r jîns mwy tynn."
Yn dysgu Ffrangeg Yn ogystal â gweithio'n galed mae Mared wrthi'n dysgu Ffrangeg ac ar gyngor ei hathrawes mae ganddi nifer o ferfau wedi'u printio ar ddarnau papur A4 yn fras a'u sticio o amgylch y molchfa yn ei fflat ym Mrwsel.
Y syniad yw ei bod yn dysgu wrth ymlacio - bath poeth, gorwedd nôl a - je vais, tu vas, il va, elle va amdani!
Mae'n mwynhau ei bywyd yn mhrifddinas gwlad Belg a hithau'n ddigon agos i Gymru i fynd adre pan fo'r hen hiraeth yn pigo - ac mae tua 300 o wahanol fathau o gwrw ar gael i'w blasu!
Mae wrth ei bodd gyda'i gwaith, i ddweud y gwir amdani, mae'n hysbyseb wych i'r cwmni gan nad yw yn gwisgo dim ond denims.

|
 |