bbc.co.uk
Home
Explore the BBC

MAWRTH
18fed Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Tramor

A-Y | Chwilota
Y Diweddaraf

Newyddion

Chwaraeon

Y Tywydd

Radio Cymru yn fyw
Safleoedd



BBC Homepage

Cymru'r Byd
»Tramor
Gogledd a Chanol America
De America
Ewrop
Affrica
Dwyrain Canol
Asia
Awstralasia a'r Môr Tawel

Gwnewch

Amserlen teledu

Amserlen radio

E-gardiau

Arolwg 2001

Gwybodaeth

Ymateb


CarrenHapusrwydd a gofid yn Nhwrci
Hydref 2004
Bu merch ifanc o Gymru yn rhannu gyda Hywel Gwynfryn ei phrofiadau ynglŷn ag anawsterau cael ei derbyn gan ei theulu yng nghyfraith mewn gwlad arall.


O Benrhyndeudraeth y daw Carren Akkaya ond mae'n awr yn byw yn Hisaronu, pentre tawel yn Nhwrci, lle mae'n briod â bachgen lleol.

Syrthio mewn cariad
Gadawodd Carren Gymru wyth mlynedd yn ôl wedi i'w phriodas chwalu i fod yn rep i gwmni gwyliau Thomson yn Nhwrci.

Yno y cyfarfu a syrthio mewn cariad â Vahap, rheolwr maes awyr.

Bellach maen nhw'n briod ac yn byw ger Marmaris, pentref pysgota sydd wedi tyfu'n dref wyliau brysur dros yr ugain mlynedd diwethaf.

Pan ymwelodd Hywel Gwynfryn â hwy ar gyfer y gyfres deledu Ar Dy Feic yr oeddent ar drothwy cyfnod cyffrous yn eu bywydau wrth iddi hi a Vahap baratoi i agor eu tŷ bwyta a chabanau gwyliau eu hunain bellter o ddwndwr a phrysurdeb Marmaris ei hun.

"Dwi di gwirioni efo'r lle - mae'r olygfa yn hardd a da ni'n mynd i adeiladu ein tŷ yma ac mi fyddwn ni'n codi yn y bore ac agor ein ffenestri - a dyna'r olygfa o'n blaenau," meddai Carren gan gyfeirio at y traeth euraidd a'r môr yn disgeleirio dan heulwen braf.

Gwrthod ei derbyn
Ond er bod cymaint wedi'i gyflawni a chymaint mwy i edrych ymlaen ato ac er bod perthynas wych rhwng Carren a Vahap datgelodd i dyndra anhyfryd ddod yn sgil priodi i gymdeithas a chrefydd arall.

Vahap A'r hyn sy'n peri tristwch i Carren yw'r ffaith i dad Vahap wrthod ei derbyn yn un o'r teulu.

Disgrifiodd y noson ysgytwol pan dorrodd Vahap y "newyddion da" i'w rieni fod y ddau yn mynd i briodi ond ei dad yn chwerwi'n syth a'i gorchymyn o'i gartref i beidio â dychwelyd byth eto.

"Yr oeddwn i'n deall fod rhywbeth drwg wedi digwydd ond doeddwn i ddim yn deall be," meddai Carren nad oedd ganddi lawer o Dwrceg yr adeg honno.

"Dywedodd Vahap fod ganddo gywilydd o'i deulu ac rwyf innau'n teimlo fatha rhywbeth ddim digon da . . . ac mi fyddwn i wrth fy modd cael cerdded i fyny'r grisiau i'r tŷ a chael fy nerbyn a chael croeso. Ond dydi hynny ddim yna ar y funud," meddai.

Ychwanegodd mai gyda thad Vahap mae'r anhawster ond bod ei fam hefyd yn rhwym i ufuddhau i ddymuniadau'r tad.

Ffrindia eto
Ond er gwaethaf hyn mae'r berthynas rhyngddi hi a Vahap yn gadarn gyda'r ddau yn bartneriaid mewn busnes yn ogystal ag yn bartneriaid priodasol.

"Rydan ni'n ffraeo bob diwrnod," meddai Carren gan wenu. "Dyda ni ddim yn cadw dim byd i mewn a phum munud wedyn, ar ôl bod yn sgrechian ar ein gilydd, yr yda ni'n ffrindia eto.

"Mae wedi bod yn briodas dda ond efo adegau anodd hefyd," meddai.

"Ryda ni wedi bod eisiau plant gymaint - ond rydw i wedi bod yn disgwyl ac wedi colli a da ni hefyd eisiau adoptio.

"Mae'r rhan yna o'r briodas wedi bod yn anodd ac yn straen arno ni," meddai.

Ychwanegwyd at y straen gyda theithiau tair awr a hanner i dref gyfagos deirgwaith yr wythnos.

"Ond trwy IVF ryda ni'n gobeithio y byddwn ni'n llwyddiannus y mis nesaf," meddai.

Wedi newid
A thrwy bopeth mae Carren yn hynod o hapus gyda'i bywyd newydd.

"Mae o wedi'n newid i. O'r blaen mi fyddwn i'n siarad heb feddwl ond dydych chi ddim yn gallu gwneud hynny yn Nhwrci - mae pobl yn wahanol ac mi rydan ni'n tueddu i feddwl mai ein ffordd ni ym Mhrydain ydi'r ffordd iawn.

"Ond yn aml iawn eu ffordd nhw fan hyn yw'r ffordd orau.

"Weithiau mae Vahap yn fy nhynnu i'n ôl 'chydig cyn i'r geg agor," meddai. "



Carren a Hywel yn Effesus"Hefyd, ryda chi'n relaxed efo fo - does na ddim problemau efo fo. Fel hyn mae pobl Twrci - maen nhw'n meddwl o ddiwrnod i ddiwrnod a dyna pam mae hi'n anodd planio rhywbeth yma. Beth bynnag sy'n digwydd sy'n digwydd. Beth bynnag ydi plan Alah - does gennych chi ddim dewis," ychwanegodd.Yn ystod ei ymweliad cyflwynodd Carren Hywel i fendithion bath Twrcaidd ac ymwelodd hefyd ag un o saith rhyfeddod y byd, dinas hynafol Effesus lle bu'r apostol Paul ar ei deithiau.

"Mi gefais i fy synnu," meddai Hywel, "gymaint ohoni sy'n dal ar ei thraed.




cysylltiadau
Lluniau taith 2004

Teithiau eraill Ar Dy Feic

ewrop

Twrci
Hapusrwydd a gofid yn Nhwrci




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy