Mae pob math o bobl wedi cadw dyddiaduron dros y blynyddoedd. Mae'n debyg eich bod chi'n darllen ac yn astudio bywydau llawer iawn o bobl neu gymeriadau diddorol yn yr ysgol. Efallai bod rhai ohonyn nhw'n gymeriadau hanesyddol, er enghraifft, efallai eich bod wedi darllen:- - Hanes Llywelyn Fawr yn lladd ei gi ffyddlon Gelert
- Hanes Madog yn darganfod America am y tro cyntaf
- Hanes y Welsh Not
 Tybed pa fath o ddyddiaduron fyddai'r cymeriadau hyn yn eu cadw? Tybed pa fath o ddigwyddiadau y bydden nhw'n eu hysgrifennu amdanynt yn eu dyddiaduron? Efallai eich bod wedi darllen chwedlau yn yr ysgol, e.e. - Branwen yn cael ei chosbi yn Iwerddon (Chwedl Branwen)
- Rhys ar ôl iddo golli Meinir (Chwedl Rhys a Meinir, Nant Gwrtheyrn)
- Y crwban ar ôl iddo ennill y gystadleuaeth yn erbyn yr ysgyfarnog (Chwedl Aesop)
Tybed pa fath o ddyddiaduron fyddai'r cymeriadau a'r anifeiliaid hyn yn eu cadw? Pa ddigwyddiadau fyddai pwysicaf iddyn nhw ysgrifennu amdanynt? Tybed pa fath o deimladau fydden nhw'n eu hysgrifennu amdanynt? Dewiswch un o'r bobl neu'r cymeriadau hanesyddol hyn. Ysgrifennwch ddyddiadur diwrnod diddorol ar eu cyfer nhw gan gofio ysgrifennu am y digwyddiadau, teimladau, gobeithion a'r dymuniadau. Cofiwch ei ddarllen i weddill y dosbarth!
|