|  |
 |  |  | Glyn Wise ar C2 Wythnos Arbennig Tachwedd 6-10, 2006 Glyn Wise Am wythnos gyfan, rhwng y 6ed - 10fed o Dachwedd 2006 mae Glyn Wise - seren cyfres Big Brother 2006 - yn cyd-gyflwyno ar C2. Mae Glyn wedi teithio lawr yr A470 o Flaenau Ffestiniog, i ymuno â Daf Du yn y stiwdio. Yn ystod yr wythnos bydd yn datgelu ei brofiadau o fyw yn nhŷ y Brawd Mawr, a sut mae'r holl sylw mae wedi ei gael ers dod allan wedi newid ei fywyd. Yn ogystal a sôn am ei brofiadau personol, bydd yn treulio ei 10 awr o flaen y meicroffon yn gwneud ychydig o'r canlynol: Llun - cyfri lawr o 10-1 yn siart C2 ar y nos LunMawrth - ymuno yn hwyl y byd chwaraeon hefo Daf ac EbziMercher - cadw trefn ar yr ornest ddiweddaraf yn y Cwis PopIau - cael y diweddaraf o'r sîn roc yng Nghymru gan Magi DGwener - sgwrsio hefo BB Aled am fyd y sêr yn Llundain Gallwch wrando ar y rhaglenni yn fyw, ar C2 Radio Cymru, bob nos rhwng 8.00pm - 10.00pm; gwrando nol ar y wê; neu ymweld â gwefan C2 i weld diweddariadau dyddiol i Galeri Glyn, e-Gofnod Dyddiol Glyn... a llawer, llawer mwy! Gallwch glywed trêl Glyn a Daf Du drwy glicio ar y linc isod: Trel Wythnos Glyn Wise ar C2
 Lluniau Glyn yn Cyflwyno! Tachwedd 6-10 2006 LluniauGlyn yn Dod Adre! Awst 26 2006 e-Gofnod GlynSut mae'n mynd... ... yng ngeiriau Glyn! |  |
|